Anaml iawn does gen i ddim geiriau, ond dyna sut dw i wedi bod ers dathlu priodas fy chwaer Cristina, a’i gŵr Owain yn Aberhonddu fis diwethaf.  Mae Owain wedi bod yn rhan o’r teulu ers i ni ei gyfarfod am y tro cyntaf ond mae’n braf iawn cael ei alw’n frawd yng nghyfraith yn swyddogol!

Mae ffrindiau a chydweithwyr wedi bod yn ffeind iawn yn gofyn am y briodas, a dw i wedi bod yn baglu dros fy ngeiriau i drio disgrifio pa mor arbennig oedd y diwrnod. A’r unig air fedra’i ddefnyddio yw: perffaith!

Yr ysgubor wedi’i addurno

Y diwrnod cyn y briodas, roedden ni i gyd wedi bod yn helpu i addurno’r ysgubor efo sêr, pwmpenni, blodau a chanhwyllau. Wrth i bopeth ddod at ei gilydd, roeddwn i’n gweddïo y byddai pob dim yn mynd yn dda i’r ddau ar y diwrnod mawr, yn enwedig ar ôl eu holl waith caled i baratoi diwrnod hyfryd i bawb.

Roedd y ddau ohonyn nhw wedi trefnu’r diwrnod yn fanwl o’r cychwyn i’r diwedd, o’r bwyd i’r blodau. Roedd fy chwaer wedi tyfu a sychu’r blodau i gyd ei hun er mwyn eu defnyddio ar y diwrnod: o’i gardd hi i’n byrddau ni yn y briodas.

 

 

Y triawd o bwdinau

‘Mi Gerddaf Gyda Thi’

Efo dagrau hapus, a gwên fawr, darllenais ‘Mi Gerddaf Gyda Thi’ ar ôl i Cristina ac Owain wneud eu haddunedau: y fraint fwyaf i chwaer fach, a rhywbeth fydda’i yn cofio a thrysori am weddill fy oes.  Ac er bod pawb yn poeni am y tywydd– roedd disgwyl glaw mawr! – roedd yr haul yn disgleirio arnon ni ar ôl y seremoni wrth i ni daflu’r conffeti dros y pâr priod.

Mae sawl uchafbwynt o’r diwrnod arbennig, ac un sy’n gwneud i mi wenu bob tro yw araith fy nhad. Ar ôl y bwyd bendigedig, gan gynnwys antipasti Eidalaidd a thriawd o bwdinau, a llawer o weiddiBaci Sposi!’ i annog y pâr priod i  gusanu (traddodiad o’r Eidal!), roedd yr amser wedi cyrraedd i fy Nhad ddweud ychydig o eiriau.

Dathlu dau ddiwylliant

Nid dathlu priodas Cristina ac Owain yn unig yr oedden ni ond hefyd dau ddiwylliant a theulu yn dod at ei gilydd. Felly dechreuodd Dad ei araith trwy groesawu pawb, yn Eidaleg yn gyntaf, ac yna yn Gymraeg. Heb os, roeddwn i’n falch iawn yn y foment honno: mor hapus i weld y Gymraeg yn cael lle pwysig ar ddiwrnod arbennig iawn.

Felly diwrnod bythgofiadwy i’r teulu cyfan, a dw i wedi gwirioni bod genna’i frawd yng nghyfraith – er mae o’n teimlo mwy fel brawd mawr i mi yn barod. Beth bynnag, mae o’n styc efo ni rŵan!

Yr ysgubor wedi’i addurno