Bydd gweithdy ysgrifennu gyda Bethan Gwanas a Sesiwn Holi gyda Siôn Tomos Owen yn rhan o ŵyl rithiol Amdani, sy’n cael ei chynnal am y trydydd tro eleni.
Mae’r ŵyl yn cael ei threfnu gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, ac yn cael ei chynnal rhwng Chwefror 27 a Mawrth 3.
Bydd y Sesiwn Holi gyda Sion Tomos Owen nos Lun, Chwefror 27 am 7 o’r gloch, i ddysgwyr ar lefel Canolradd, Uwch a Gloywi.
Bydd y gweithdy ysgrifennu gyda Bethan Gwanas nos Fawrth, Chwefror 28 am 7 o’r gloch, i ddysgwyr ar lefel Canolradd, Uwch a Gloywi.
Nod yr ŵyl rithiol yw dathlu’r gyfres o lyfrau i ddysgwyr, ‘Amdani’, ac annog dysgwyr i fwynhau defnyddio eu Cymraeg trwy ddarllen llyfrau, cylchgronau neu wefannau.
Mae cystadleuaeth ysgrifennu stori lefel Mynediad hefyd yn cael ei chynnal fel rhan o’r ŵyl a bydd y storïau gorau yn cael eu cyhoeddi ar Facebook ac ar Lingo360 yn ystod yr ŵyl. Thema’r gystadleuaeth ydy ‘Y Gwanwyn’.
Bydd erthyglau dyddiol ar gyfer dysgwyr ar wefan golwg360 a Lingo360.