Dych chi’n hoffi darllen?

Mae Shelagh Fishlock yn byw ym Mryste, a’i hoff awdur yw Caryl Lewis.

Yma, mae hi’n siarad â Lingo360 am ei thaith iaith, ei hoff awduron eraill a pham fod Gŵyl Ddarllen Amdani yn bwysig i siaradwyr Cymraeg newydd.


Pam fod Gŵyl Ddarllen Amdani yn bwysig i siaradwyr Cymraeg newydd fel chi?

Mae hi’n bwysig iawn i ddysgwyr ddarllen, a gyda’r holl gyfres ar bob lefel, mae’n gwneud e’n bosib i bawb.

Mae darllen yn ehangu eu geirfa, ac yn aml iawn maen nhw’n gallu dysgu mwy am Gymru, hanes Cymru, cymdeithas Cymru trwy ddarllen, a dod o hyd i bethau sydd ddim yn y dosbarth ac sydd ddim yn eu hardal nhw hefyd.

Pam wnaethoch chi ddysgu Cymraeg?

Ro’n i’n mynd i Gymru o Fryste, ac ro’n i’n gweld arwyddion dwyieithog a notice boards dwyieithog, ac ro’n i’n grac wrth beidio gallu eu darllen neu ynganu‘r peth.

Felly wnes i gwrs wythnos ac wedyn roedd hi mor hawdd dechrau dysgu, ac wedyn swyn yr iaith oedd e.

Mae cymaint o bethau ar Zoom, a hefyd mae’n eithaf hawdd i fi groesi‘r bont i Gymru, felly dw i’n gwneud pethau wyneb-yn-wyneb mewn ysgol, a grwpiau Cymraeg hefyd.

Ond dw i’n gwneud llawer ar Zoom – dw i’n mynd i’r eglwys yn Aberystwyth, i grŵp darllen yng Nghastell-newydd Emlyn, dw i’n ymuno â sgyrsiau bob mis yng Nghaerdydd hefyd.

Mae llwyth o gyfleoedd nawr ers y cyfnod clo.”

Beth yw eich hoff lyfr?

Naw Mis gan Caryl Lewis.

Y syniad yn y llyfr oedd yn ddiddorol iawn.

Y syniad yn y llyfr oedd yn ddiddorol iawn, ond wedyn jyst steil yr ysgrifennu a dod i nabod y ferch, y cymeriad, ei hun.

Roedd hi wedi marw, wrth gwrs, ac wedyn y teulu a’r gymdeithas yn y byd go iawn, a sut oedd hi’n rhoi’r ddau beth gyferbyn â’i gilydd, ochr yn ochr.

Dw i newydd orffen Darogan (gan Siân Llywelyn) ac roedd yn wych.

Do’n i ddim yn disgwyl ei fwynhau achos fel arfer, dw i ddim yn hoff iawn o lyfrau ffugwyddonol a ditectif, ond roedd hwn jyst mor ddoniol weithiau.

Mae e bach am y ditectif a bach am sut mae hi wedi plethu hanes a chwedlau Cymru yn y stori.

Pwy yw eich hoff awdur(on)?

Dw i’n mwynhau Myfanwy Alexander, a hefyd Daniel Davies a Marlyn Samuel.

Dych chi wedi ysgrifennu pennod gyntaf nofel. Dywedwch fwy amdani…

Cystadleuaeth yn yr Eisteddfod oedd hi, ysgrifennu pennod gyntaf nofel i ddysgwyr lefel Canolradd.

“Wnes i jyst trio fel her bersonol, rili, a wnes i ddechrau’r stori o’r enw Hanes yn yr Atig, a chreu person oedd yn rhaid iddi hi symud i’r Cymoedd, ac wedyn wnaeth hi ddarganfod blwch yn yr atig gyda phapurau ynddo.

“Dyna’r cyfan wnes i ei roi yn y bennod gyntaf.

“Dw i wedi meddwl gwneud rhywbeth am y ddeiseb heddwch, ond dw i ddim wedi mynd ymlaen eto.

“Do’n i ddim yn hollol siŵr os alla i ei wneud e, a dweud y gwir.

“Dim ond y bennod gyntaf sy’n bodoli ar hyn o bryd.

“Hoffwn i ysgrifennu mwy, ond gawn ni weld. Sa i’n hollol siŵr achos mae’n bach o her i rywun sydd ddim wedi dysgu ers pum mlynedd yn unig!”