Yn ystod fy nhaith o gwmpas Cymru eleni – fy “Anturiaeth Gymreig Wallgof 2023” – wnes i fynd i’r de, y gorllewin, a’r gogledd a threulio tuag wythnos ym mhob un. Yn fy ngholofn ddiwetha’, sgwennais am fy mhrofiad yn dringo mynydd Y Garth yn ne Cymru gyda fy ffrind Huw, felly y tro yma ‘dyn ni’n mynd yr holl ffordd i fyny i’r gogledd i Ynys Môn.
Ar ôl i fi stopio yng ngorsaf drên Llanfairpwllgwyngyll(…) i dynnu’r hunlun angenrheidiol o flaen yr arwydd gyda’r enw hir, ro’n i yn ôl ar y ffordd yn gyflym.
Roeddwn i wedi gobeithio mynd i Ynys Llanddwyn – roedd yn un o’r prif lefydd ro’n i eisiau mynd ar fy nhaith.
Ro’n i wedi darllen am Santes Dwynwen, dysgu am hanes yr ynys, a hyd yn oed dathlu Dydd Santes Dwynwen eleni gyda fy ngwraig Libby. Ro’n i’n barod i ymweld â’r ynys! Yn anffodus, roedd llawer o waith ffordd ger Llanddwyn, a gallwn i ddim parcio llai na phum milltir o’r traeth i gyrraedd Ynys Llanddwyn.
Wnes i drio tair gwaith i sleifio heibio’r gwaith ffordd (a bron wedi llwyddo!), ond methais yn y diwedd. Ro’n i’n siomedig, ond nawr mae gyda fi bererindod – obsesiwn, hyd yn oed – i weld Ynys Llanddwyn yn 2024!
Ro’n i angen gwneud rhywbeth hwyliog i achub y dydd. Felly, dechreuais yrru tuag at le arall ar fy rhestr – Goleudy Ynys Lawd.
Mae Goleudy Ynys Lawd yng ngogledd-orllewin Ynys Môn. Cafodd y goleudy ei gynllunio gan y syrfëwr Daniel Alexander, a’i adeiladu yn 1809.
Roedd y goleudy’n defnyddio lampau olew yn wreiddiol, ac yn helpu cadw llongau’n saff am flynyddoedd. Wedyn, ar 25-26 Hydref 1859, cyrhaeddodd “storm y ganrif” ac roedd tua 200 o longau wedi eu colli, er gwaetha’r goleudy.
Cafodd Goleudy Ynys Lawd ei awtomeiddio yn 1984 felly does dim “ceidwad goleudy” yno heddiw. Ond, mae staff cynnal a chadw’n dod o bryd i’w gilydd – a thîm o dywysyddion sy’n rhoi teithiau i ymwelwyr rhwng dydd Llun a dydd Gwener. Fel wnes i ddarganfod, mae’r tywysyddion yn gyfeillgar iawn!
O’r foment ro’n i wedi cyrraedd Ynys Lawd, roedd popeth yn berffaith. Golygfeydd eithriadol, Llwybr Arfordir anhygoel, a pharcio hawdd – beth arall allwch chi ofyn amdano?
Dechreuais i lawr y Llwybr Arfordir a cherdded tuag at y goleudy. Ar ôl hanner awr ar hyd y llwybr, gwelais risiau sy’n arwain i lawr y clogwyn i bont fach i gerdded i’r goleudy. Wnes i gyfri tua 400 gris wrth fynd i lawr – grisiau serth iawn – felly ro’n i’n gwybod y basai’n anodd iawn dod yn ôl i fyny!
Wnes i groesi’r bont droed a chwrdd â thywysydd yn gwerthu tocynnau ar gyfer gweld yr ynys a chael taith y tu mewn i’r goleudy.
Dywedodd y tywysydd “helo,” felly atebais i “shw’mae, syr.” Yn syth bin, gwenodd e. Ro’n i’r unig ymwelydd yno, felly gawson ni sgwrs yn Gymraeg am sbel. Prynais docyn, a cherddais weddill y ffordd i’r goleudy.
Pan gyrhaeddais y prif adeilad, ces i fy nghyfarch gan dywysydd cyfeillgar iawn oedd yn cerdded tuag ata i’n dweud “shw’mae, croeso i Ynys Lawd – clywais i dros y radio bo’ chi’n siarad Cymraeg!” “Ydw,” meddai fi, “…wel, dw i’n dysgu ers y llynedd.” Dwedais fy stori wrtho fe am gael pasbort y Deyrnas Unedig a phenderfynu dysgu Cymraeg, ac roedd e hyd yn oed yn ddigon caredig i fy helpu gyda geirfa tra’n bod ni’n sgwrsio. Dwedodd y tywysydd wrtha’i, “…ti wedi bod yn dysgu dim ond naw mis?” Mae pawb wedi bod mor gefnogol i fi fel dysgwr.
Dywedodd y tywysydd am hanes Ynys Lawd – yn Gymraeg (ac yn amyneddgar iawn) – gan gynnwys y gwaith sy’n parhau i gadw’r goleudy’n rhedeg nawr ac i’r dyfodol. Hefyd, dwedodd e ychydig o straeon am geidwaid goleudy “lliwgar” o’r gorffennol.
Ddylwn i ddim eu hailadrodd yma, felly bydd rhaid i chi fynd i glywed y straeon eich hun! Siaradon ni am tua hanner awr, tan roedd yn amser i wneud taith y goleudy.
Roedd yn anhygoel i gael sgwrs Gymraeg hir fel hyn, ac ro’n i’n ddiolchgar iawn i ddod yn fwy hyderus a gwneud ffrind – yn Gymraeg. Roedd hi wedi bod yn ddiwrnod ysbrydoledig.
Ar ôl tuag awr y tu mewn i’r goleudy, roedd yn amser i fynd yn ôl i fy llety ym Mhorthmadog.
Ond, yn gynta’, roedd angen dringo yn ôl i fyny’r 400 gris serth. O, na! Pan ddechreuais adael y goleudy dros y bont droed, edrychodd y tywysydd a fi ar ein gilydd, ac wedyn i fyny’r clogwyn – gyda’r grisiau’n diflannu i’r pellter.
Edrychais ar y tywysydd a dweud: “Amser i ddringo.”
“Amser i ddringo” meddai.