Mae gan bob enw stori. Dyna beth mae’r Dr James January-McCann yn dweud. Fe yw Swyddog Enwau Lleoedd y Comisiwn Brenhinol. Mae’n gyfrifol am y Rhestr o Enwau Lleoedd Hanesyddol. Fel rhan o’i waith, mae’n siarad am hanes a phwysigrwydd enwau lleoedd Cymru. Mae llawer o enwau wedi cael eu hanghofio erbyn hyn, meddai. Yma, mae James yn ateb cwestiynau Lingo360….
Fel Swyddog Enwau Lleoedd y Comisiwn Brenhinol, sut fath o waith dach chi’n gwneud?
Mae’r gwaith yn amrywio’n fawr o ddydd i ddydd. Fy mhrif ddyletswydd yw cynnal a chadw’r Rhestr o Enwau Lleoedd Hanesyddol. Dw i hefyd yn treulio amser yn siarad â’r cyhoedd am enwau lleoedd, ysgrifennu erthyglau, cynnig hyfforddiant i gyrff cyhoeddus sy’n ymwneud ag enwau lleoedd yn eu gwaith, ac adrodd yn ôl i’r Llywodraeth am lwyddiant y prosiect.
Beth yw’r Rhestr o Enwau Lleoedd Hanesyddol?
Cafodd y Rhestr o Enwau Lleoedd Hanesyddol ei sefydlu o dan Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016. Mae’n sicrhau ein bod yn cofnodi ac amddiffyn ein treftadaeth enwau lleoedd yng Nghymru. Mae’n fas data sy’n cynnwys tua 700,000 o enwau o bob rhan o Gymru, o’r ail ganrif Oed Crist hyd heddiw. Mae’r Rhestr yn cael ei defnyddio i enwi strydoedd a datblygiadau newydd gydag enwau hanesyddol, fel eu bod yn dal yn weladwy yn y dirwedd. Pan mae enwau tai’n cael eu newid, mae’r hen enwau’n dod mewn i’r Rhestr er mwyn eu cadw am genedlaethau i ddod, waeth beth fo ar arwydd y tŷ.
Pam mae’r enwau yma’n bwysig? Oes rhai wedi mynd yn angof?
Mae pob enw’n bwysig yn ei ffordd, oherwydd yr hanes sydd y tu ôl iddynt. Mae enwau lleoedd yn ein cysylltu â’r tir, ac yn rhoi cipolwg i ni ar hanes a threftadaeth y wlad. Trwy ddeall ystyr enwau lleoedd, rydyn ni’n gallu darllen y dirwedd, a gweld y wlad â llygaid y rhai a oedd yn byw ynddi cyn ein hamser ni. Roedd gan ein cyndeidiau gysylltiad llawer agosach â’r tir nag sydd gan y rhan fwyaf ohonom ni heddiw, oherwydd nad oeddent yn medru symud mor hawdd ag y gallwn ni heddiw. Mae gwybod enwau lleoedd ardal yn galluogi ni i ddod i nabod ein bröydd yn well, dim ots os ydym wedi byw yno erioed, neu wedi symud yno yr wythnos ddiwethaf. Mae llawer o enwau wedi mynd yn angof dros y blynyddoedd, ac mae’r Rhestr yn ffordd dda o ddod â nhw’n fyw eto, fel Abermenwenfer ger Tywyn Meirionydd. Cafodd ei gofnodi rhwng 1150-75, ond mae bellach wedi diflannu o’r mapiau i gyd.
Oes gynnoch chi unrhyw enghreifftiau o enwau diddorol?
Oes, llawer gormod! Ond mae’n rhaid cyfaddef bod fy ffefrynnau i gyd yn dod o’m bro fy hun, sef cyffiniau Machynlleth yn Nyffryn Dyfi. Mae dwy afon yn ymuno ger Llanbrynmair, mae un yn rhedeg yn yr heulwen ar hyd ei chwrs, ac mae’r dŵr yn gynnes o’i herwydd, felly Afon Twymyn yw hi, tra bod dŵr y llall yn oer gan ei bod yn rhedeg yn y cysgod, felly Afon Iaen yw ei henw. Wedyn mae gennych chi Cae-du, sef enw hen fferm sydd bellach yn adfail, a gafodd ei enw, yn ôl y traddodiad lleol, am mai yno y claddwyd y bobl leol a fu farw o’r Pla Du. Neu beth am Nant Llyn y Gŵr Drwg, neu Bwll Uffern yn Afon Llyfnant, a gafodd eu henwau brawychus er mwyn stopio plant rhag nofio yn y dyfroedd peryglus? Mae gan bob enw stori.
Sut dach chi’n casglu’r enwau?
Mae’r gwaith casglu’n amrywio’n fawr. Weithiau bydda i’n ymweld â hen wraig fferm sy’n gwybod llawer o enwau o’r cwm mae’n byw ynddo, weithiau bydda i yn y Llyfrgell Genedlaethol yn tyrchu trwy ryw hen lawysgrif. Mae’r cyhoedd hefyd yn anfon enwau i mewn atom yn rheolaidd – enwau eu tai, neu eu caeau, neu enwau a gasglwyd gan eu Cymdeithas Hanes Lleol. Dw i hefyd yn derbyn enwau o brosiectau academaidd, fel Cynefin, pan gafodd y mapiau degwm eu digideiddio, neu’r prosiect Mapio Dwfn y mae’r Comisiwn Brenhinol a’r Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru’n gweithio arno ar hyn o bryd.
Oes angen gwneud llawer o waith ymchwil?
Oes yn wir! Gan ein bod ni’n casglu enwau o bob cyfnod, mae ’na lawer ohonynt nad ydyn nhw’n ymddangos ar fapiau modern. Felly mae’n rhaid canfod hen fap, neu siarad â rhywun gyda gwybodaeth leol i ddarganfod lle oedd y llefydd hyn. Bob tro rwy’n ychwanegu enwau o ffynhonnell newydd, rwy’n mynd yn ôl at yr enwau yn yr ardal nad oeddwn i’n gallu dod o hyd i’w lleoliad, i weld os yw’r ffynhonnell newydd yn taflu unrhyw oleuni arno.