Yn yr albwm Animal Logic 2 gyda Stewart Copeland a Stanley Clarke yn 1991, ysgrifennodd Deborah Holland, y cerddor o America:

“Awn ni am dro yng Ngardd Eden –

Lle cerddodd Efa ac Adda o’r blaen…”

Y geiriau yma, o’r gân In the Garden, oedd yn fy meddwl wrth i fi gerdded o gwmpas gerddi gogoneddus Aberglasne a Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn ystod fy nhaith i Gymru eleni.

Mae’n fraint i dreulio amser mewn lleoedd arbennig fel hyn ar eich pen eich hun – heb y torfeydd arferol sy’n tyrru i fannau twristaidd fel hyn.

Dw i erioed wedi ymweld â Gerddi Versailles, Villa D’Este, Gerddi Kew, neu lawer o’r gerddi enwog eraill dros y byd, ond dw i wastad yn mwynhau’r llonydd sy’n dod o gerdded drwy leoedd prydferth a thawel.

Pan gyrhaeddais orllewin Cymru, roedd rhagolygon y tywydd yn wael. Roedd fy wythnos yn Sir Gâr a Sir Benfro yn mynd i fod yn wlybheblaw am y prynhawn roeddwn i’n cyrraedd. Roedd hi wedi bwrw glaw wrth i fi yrru o’r Cymoedd i Gaerfyrddin (drwy Fannau Brycheiniog), ond roedd y glaw’n dechrau cilio pan gyrhaeddais yr Ardd Fotaneg Genedlaethol yn Llanarthne (saith milltir i’r dwyrain o Gaerfyrddin). Penderfynais fynd yno, rhag ofn mai dyma oedd fy unig gyfle.

Y Tŷ Gwydr Mawr yn yr Ardd Fotaneg Genedlaethol

Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru

Daeth y syniad i greu Gardd Fotaneg Genedlaethol gan yr artist William Wilkins yn y 1970au. Cafodd yr ardd ei hagor i’r cyhoedd ym mis Mai 2000, a’i hagor yn swyddogol ddeufis yn ddiweddarach. Dros ei 500 erw, mae llawer o bethau i’w gweld a’u gwneud yn yr Ardd Fotaneg.

Yr uchafbwynt yw’r Tŷ Gwydr Mawr. Mae’r to yn cynnwys 785 darn o wydr – a dyma’r tŷ gwydr mwyaf o’i fath yn y byd.

Mae planhigion y Tŷ Gwydr Mawryn cael eu rhannu i adrannau o Chile, Gorllewin Awstralia, De Affrica, Califfornia, yr Ynysoedd Dedwydd, ac ardaloedd eraill. Hefyd, mae llawer o erddi eraill, ardal gwarchodaeth, adeiladau hanesyddol, milltiroedd o lwybrau, a Chanolfan Adar Ysglyfaethus Prydain sy’n cynnig arddangosfa hedfan.

Yn yr Ardd Fotaneg, ro’n i’n lwcus gyda’r tywydd. Stopiodd y glaw, roedd yr awyr yn llawn cymylau dramatig, a doedd neb arall yno. Wel, neb ar wahân i un ymwelydd cyfeillgar. Wnes i ddarganfod wedyn ei bod hi’n gweithio yn y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

Mynedfa Gardd Wallace

Cerddais o gwmpas yr Ardd am ddwy awr, cyn i fi gwrdd â hi a dweud helô yn Saesneg. Siaradon ni am sawl munud, pan soniodd am ei gwaith yn y Ganolfan. Dwedais i: “Da iawn chi” ac yn syth bin meddai hi: “O, ti’n siarad Cymraeg?” Siaradon ni yn Gymraeg am hanner awr yn yr ardd. Roedd hyn yn un o gyfres o brofiadau hyfryd y ces i gyda siaradwyr Cymraeg ar fy nhaith o gwmpas Cymru.

Yn Sir Gâr, arhosais mewn gwely a brecwast hyfryd o’r enw Ffermdy Allt y Golau, ger pentref Felingwm Uchaf yn y bryniau ar bwys Caerfyrddin. Mae’r perchnogion Colin a Jacquie wedi ennill llawer o wobrau am eu brecwast a llety dros y blynyddoedd. Mae’r tŷ yn dyddio nôl i 1812, a gyda gerddi llysiau a pherlysiau, ac anifeiliaid, mae Allt y Golau yn gyrchfan ynddo’i hun!

Y diwrnod wedyn, codais yn gynnar a gweld yr haul – amser i fynd i weld mwy o Sir Gâr! Y tro yma, Gerddi Aberglasne.

Plasty Gerddi Aberglasne

Gerddi Aberglasne

Dim ond wyth milltir o’r Ardd Fotaneg yw Gerddi Aberglasne. Ar draws deg erw yn Llangathen yn Nyffryn Tywi, mae Gerddi Aberglasne yn lle arbennig. Roedd, ar un adeg, yn eiddo i ddisgynyddion Hywel Dda, wedyn i William ap Thomas.

Mae’r plasty hanesyddol yn adeilad rhestredig gradd II ac yng ngofal Cadw. Cafodd ei adeiladu yn 1603 cyn cael ei ail-ddylunio yn 1720. Mae’r plasty wedi’i amgylchynu gan lawer o erddi anhygoel: dwy ardd furiog, gardd suddedig, gardd goetir, gardd bwll, a mwy. Mae llawer o hanes i ddarganfod yng Ngerddi Aberglasne, ac roedd bron neb arall yno yn ystod fy ymweliad.

Roedd cerdded o gwmpas y gerddi yn brofiad perffaith. Prydferth, ysbrydoledig, ac ymlaciol. A wnaeth hi ddim bwrw glaw!

Gardd bwll yn Aberglasne

 

Arhosais ym mhob gardd tan amser cau ar y ddau ddiwrnod, ond ro’n i eisiau aros yn hirach. Cofiais linell olaf y gân In the Garden:

“Gallwn ni aros am byth petai ti’n dewis…”

Tybed os yw’n wir?

 

Pawlie yn yr Ardd Fotaneg