Bryn? Dim ond bryn yw e?”

Dyna eiriau trigolion y pentre’ ffuglennol “Ffynnon Garw” yn y ffilm The Englishman Who Went Up a Hill But Came Down a Mountain. Roedden nhw wedi clywed bod eu “mynydd” yn 984 troedfedd o uchder – 16 troedfedd yn llai na’r hyn sydd ei angen i fod yn “fynydd” ar fap.

Mae ffilm gomedi ramantus y sgriptiwr a chyfarwyddwr (a Chymro) Christopher Monger o 1995 yn “llythyr cariad” i Gymru. Mae wedi’i gosod yn ne Cymru yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Mae’r ffilm (a’r llyfr) yn honni ei bod hi’n stori wir – ond gallai fod yn chwedl, mae’n dibynnu pwy dych chi’n credu!

Yn y stori, mae dau beiriannydd o’r Llywodraeth yn dod i fesur bryn Ffynnon Garw fel rhan o’r Arolwg Ordnans yn 1917. Pan mae pobl y pentre’n clywed bod diffyg o 16 troedfedd, does dim ond un peth i wneud: gwneud y copa’n uwch! Felly maen nhw’n cario pridd i fyny’r “bryn” i ychwanegu twmp 20 troedfedd er mwyn ei wneud yn “fynydd.” Mae’n ffilm hyfryd.

Roedd Ifor Monger, tad-cu Christopher Monger, wedi dweud y stori yma wrtho pan oedd yn blentyn. Roedd eu teulu’n byw yn Ffynnon Taf (y Ffynnon Garw go iawn), ar droed Mynydd y Garth yn ne Cymru. Yn ystod fy ‘Anturiaeth Gymreig Wallgof’ eleni, wnes i aros yn ne Cymru am wythnos, ddim yn bell o Ffynnon Taf. Felly roedd rhaid i fi fynd am dro i fyny’r Garth, a sefyll ar ben “y twmp”!

Ar gopa Mynydd y Garth

Ro’n i wedi gobeithio trefnu grŵp bach o ffrindiau o fy nosbarth Cymraeg i gymryd rhan mewn taith i fyny’r Garth ond doedd y tywydd ddim yn bihafio. Roedd rhaid i fi newid dyddiad y daith er mwyn osgoi storm. Roedd sawl un yn brysur ar y dyddiad hwnnw. Yn ffodus, roedd fy ffrind Huw ar gael. Criw dau ddyn, dim glaw… amdani!

Ar ôl i ni barcio yn Ffynnon Taf, dechreuodd Huw a fi o dafarn Gwaelod y Garth ar gychwyn y llwybr cyhoeddus sy’n arwain i fyny’r mynydd. Yn syth bin roedd y llwybr yn serth, felly roedd yn teimlo fel prawf i weld pwy allai heicio’n galed heb gynhesu i fyny. Gallai Huw, ond nid fi!

Roedd yn rhaid i fi fynd yn araf i osgoi blino gormod. Ond pan edrychais i fyny, roedd Huw wedi diflannu i’r pellter, yn dringo’n gyflym fel gafr mynydd! Yn ffodus, roedd e’n stopio ac yn aros amdana’i. Dyn caredig, yn wir.

Wnaethon ni barhau ar hyd y llwybr am tua hanner awr, wedyn troi yn ôl i ddod o hyd i hoff lwybr Huw i fyny i’r copa. Roedd y planhigion wedi tyfu’n fawr ers i Huw fod yno ddiwetha’, felly roedd yn anodd bod yn siŵr pa un oedd y llwybr cywir. Roedden ni ar ochr ddwyreiniol Mynydd y Garth, felly roedden ni’n siŵr y basai’n iawn os oedden ni’n cadw i fynd “i fyny”. Ar ôl sbel, roedd y llwybr wedi troi’n llethr gyda glaswellt hir, ond ro’n ni’n gallu gweld beth oedd yn edrych fel y copa, felly wnaethon ni ddal ati.

Cyn bo hir, roedd y llethr wedi troi’n serth iawn, gyda mwd a graean rhydd rhyngom ni a’r copa. Arweiniodd Huw’r ffordd i fyny ond roedd yn rhaid i ni sgrafangu i fyny yn araf iawn. Cyn i ni gyrraedd y top, roedd ychydig o funudau pan o’n i ddim yn siŵr os o’n i am allu gorffen y daith. Ar ôl ychydig, wnaethon ni gyrraedd y copa ac eistedd ar garreg fawr i fwynhau’r olygfa a thynnu llun.

Pawlie a Huw ar y copa

Wedi concro rhan anodda’r llwybr wnaethon ni gerdded sawl metr i’r copa swyddogol – y twmp 20 troedfedd yn y ffilm. Roedd golygfeydd bendigedig dros dde Cymru. Roedd y gwynt yn gryf, ond yn adfywiol ar ôl i ni chwysu ar ein ffordd i fyny!

Roedd y golygfeydd o’r copa yn anhygoel o bob cyfeiriad. Pwyntiodd Huw at nifer o lefydd sy’n bwysig iddo: ardaloedd lle cafodd Huw ei eni a’i fagu, llefydd lle’r oedd wedi gweithio yn ystod ei yrfa, ac wedi magu ei deulu, ac ati.

Roedd yn foment berffaith gyda fy ffrind. Aethon ni yn ôl i lawr ar y prif lwybr – yr un hawdd ro’n ni wedi ceisio ffeindio ar y ffordd i fyny – ac yn chwerthin yr holl ffordd i lawr wrth sylweddoli cymaint haws fasai wedi bod yn mynd i fyny!

Ond, wrth edrych yn ôl, roedd brwydro i fyny’r wyneb dwyreiniol yn beth da ac yn lot o hwyl. Ar ôl cyrraedd lawr y mynydd, roedd Huw, fi, a Dexter (ci Huw) wedi dathlu gyda chwrwgwobr haeddiannol am orffen ein hantur.

Er bod y Garth wedi newid o fod yn “fryn” i “fynydd” dros y blynyddoedd, mae’n swyddogol yn 1,007 troedfedd o uchder ar hyn o bryd. Felly mynydd yw e. Ond yn y dyfodol, gallai’r Garth fynd yn ôl i statws “bryn” eto. Pwy a ŵyr?

Ond dw i’n siŵr o un peth: Mae’n fynydd i fi.

Huw a Dexter, y ci, yn mwynhau peint ar ol dringo Mynydd y Garth