Mae Pawlie Bryant yn byw yn Santa Barbara yng Nghaliffornia. Mae o wedi bod yn dysgu Cymraeg a newydd fod i Gymru am y tro cyntaf. Mae o’n athro peirianneg ond hefyd yn cyfansoddi caneuon. Mae o wedi bod yn ateb cwestiynau Lingo360 am ei daith i Gymru…

Pawlie, pam mae wedi cymryd cyhyd i chi ddod i Gymru?

Dyma fy nhro cynta’ yng Nghymru – o’r diwedd!. Dros y degawdau, dw i wedi dod draw i’r Deyrnas Unedig lot o weithiau i ymweld â fy nheulu yn Lloegr, ond dw i erioed wedi bod i Gymru o’r blaen. Ces i fy magu yn Lloegr ac wedyn yn America. Mae gyda fi ddinasyddiaeth ddeuol.  Wnes i ddechrau dysgu Cymraeg naw mis yn ôl ar ôl cael fy mhasbort Prydeinig y llynedd. Ar y dudalen gynta’ dwedodd e “British Passport,” ac o dan hynny, “Pasbort Prydeinig.” Felly ro’n i’n meddwl, “Os oes gyda fi basbort Prydeinig, dylwn i ddysgu Cymraeg!” Ers hynny, ro’n i’n gwybod bod angen i fi ddod i Gymru. Mae’n teimlo’n anhygoel i fod yma, o’r diwedd.

Lle dach chi wedi bod yn ystod eich taith i Gymru?

Dw i wedi bod yn gyrru o gwmpas Cymru ers tair wythnos. Ges i tua wythnos yr un yn y De, y Gorllewin, ac wedyn y Gogledd. Mae gyda fi lawer o ffrindiau yma yn barod diolch i fy nosbarth Cymraeg, felly dw i wedi bod yn brysur iawn! Mae’n fraint cyrraedd gwlad newydd, ac adnabod lot o bobl ar y diwrnod cynta’. Dw i wedi cael croeso cynnes iawn. Dw i mor ddiolchgar.

Yr olygfa o Gastell Carreg Cennen

Lle oedd eich hoff le a pham?

Yn ystod y tair wythnos, gwelais rywbeth arbennig ym mhob ardal: y Cymoedd, arfordir y De, Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro, Ceredigion, Gwynedd, Pen Llŷn, Ynys Môn, Eryri, ac ati. Ces i amser anhygoel yn yr ardaloedd yma i gyd. Mae’n amhosib dewis un hoff le. Ond roeddwn i wedi cael cysylltiad dyfnach gyda dau le: Sir Gaerfyrddin a Phen Llŷn.

Yn Sir Gaerfyrddin, roedd rhywbeth am y tirlun, y lliwiau, a’r ffordd o fyw hamddenol. Ro’n i’n teimlo’n gartrefol yno, ar ôl dim ond ychydig o ddiwrnodau. Nid yw hyn erioed wedi digwydd i fi. Roedd yn brofiad arbennig.

Yn y gogledd, wnes i yrru o gwmpas Pen Llŷn ar fy niwrnod cynta’. Ro’n i wedi bod eisiau mynd i Nant Gwrtheyrn ers cychwyn fy nhaith Gymraeg, i ddysgu am hanes a diwylliant y lle pwysig yma. Dw i wedi cofrestru ar gwrs preswyl blwyddyn nesa! Roedd hi’n niwlog iawn pan o’n i’n agosáu at Nant Gwrtheyrn. Ond wrth fynd lawr y ffordd, roedd hi’n arallfydol. Yn ystod y bore roedd y niwl wedi codi, a datguddio’r tirlun a golygfeydd. Treuliais sawl awr yn cerdded yn y Nant, wedyn gyrrais o gwmpas gweddill y penrhyn. Roedd fel mynd yn ôl mewn amser! Teimlad anhygoel.

Pawlie ger Goleudy Ynys Lawd

Oeddech chi wedi cael cyfle i ymarfer eich Cymraeg?

Oeddwn, yn bendant! Yn ystod fy nhaith drwy Gymru, ro’n i’n lwcus iawn i gael llawer o sgyrsiau hir yn Gymraeg – wyneb yn wyneb, o’r diwedd. Diolch yn fawr i Jo (yn siop lyfrau Cant a Mil yng Nghaerdydd), Gwenllian (ym Mhrifysgol Caerdydd), Dafydd (fy nhiwtor yn Y Barri), Lynwen (yn Sir Gaerfyrddin), a’r holl bobl eraill oedd wedi rhoi cyfle i fi siarad Cymraeg ar hyd y ffordd. Dw i’n ddiolchgar iawn am eu hamynedd gyda fi!

Sut mae Cymru yn cymharu efo Califfornia?

Ha! dyna gwestiwn cymhleth. Ar y map, mae Califfornia ugain gwaith yn fwy na Chymru, felly mae’n cymryd lot llai o amser i yrru o gwmpas Cymru. Mae gyda’r ddwy ddaearyddiaeth gyffrous i fwynhau, a llawer o bethau i wneud. Mae’r tywydd yn well yng Nghaliffornia fel arfer (o leia’ pan nad oes unrhyw danau, llifogydd, neu ddaeargrynfeydd) – ond dych chi’n gwybod hynny!

Roedd fy ffrind Rachel wedi gofyn ‘a oes cacennau fel bara brith yng Nghaliffornia?’ Ac mi wnes i esbonio fel hyn… “Nac oes, does dim byd fel bara brith yng Nghaliffornia. Ond mae gyda ni lot o ‘fruit cakes’ wrth gwrs: y bobl! Yn blastig, yn ffug, ac yn holograffig – yn union fel eu tudalennau cyfryngau cymdeithasol! Mae llawer o bobl anhygoel hefyd, wrth gwrs, yn bendant, ond dros y mis diwetha’ dw i wedi darganfod pa mor hudolus ac anhygoel yw Cymru. Mae’n wlad hardd gyda phobl ddidwyll, calon agored, a “real”. Mae hynny, ynghyd a’r diwylliant unigryw, hanes epig, iaith hyfryd, a harddwch swreal y wlad – wedi fy ennill drosodd, yn llwyr.

Mat Anturiaeth Gymreig Wallgof

Unrhyw bethau eraill dach chi wedi mwynhau?

Hoff fwyd a diod – Brecwast Cymreig, bara brith, cawl, a diod ‘Merlyn’ Penderyn.

Hoff lefydd – Castell Carreg Cennen, Castell Coch, Castell Harlech, Amgueddfa Werin Sain Ffagan, Nant Gwrtheyrn, yr Ardd Fotaneg Genedlaethol, Gerddi Aberglasney, Goleudai Ynys Lawd ac Ynys Meicel ac, wrth gwrs, tŷ Gwen a Stacey! [o’r gyfres Gavin & Stacey].

Hoff ddigwyddiad – Dringo mynydd y Garth gyda fy ffrind Huw, heicio i fyny Carreg Cennen i’r castell gyda fy ffrind Rachel a’i theulu, teithio ar Reilffordd Ffestiniog.

Hoff adeilad – Cestyll, cestyll, a mwy o gestyll!

Hoff bethau cofiadwy – Rhoi fy matiau diod “Anturiaeth Gymreig Wallgof” i bobl.

Os dach chi eisiau clywed cerddoriaeth Pawlie ewch i: pawliemusic.com