Mae Joshua Morgan yn arlunydd o Gaerdydd. Roedd e wedi dechrau dysgu siarad Cymraeg y llynedd.

Roedd Joshua wedi dechrau’r prosiect ‘Sketchy Welsh’ er mwyn ei helpu i ddysgu Cymraeg. Roedd yn gwneud lluniau i fynd efo brawddegau neu ddywediadau Cymraeg. Mae’n rhedeg gwasg Howling Wolf Books. Roedd e wedi ysgrifennu’r llyfr Thirty One Ways to Hoffi Coffi yn gynharach eleni. Nawr mae e wedi cyhoeddi e-lyfr Learning Cymraeg with Siôn Corn. Roedd e wedi creu’r llyfr ar y cyd gyda phlant Ysgol Gynradd Rhiwbeina yng Nghaerdydd.

Yma mae’n dweud ychydig mwy am yr e-lyfr…

Josh, o le daeth y syniad ar gyfer y llyfr?

Cyn i fi ddechrau Sketchy Welsh wnes i dreulio amser gyda phlant Blwyddyn 6 Ysgol Gynradd Rhiwbeina. Roedden ni eisiau creu llyfr Nadoligaidd oedd yn helpu pobl i ddysgu Cymraeg. Gyda’n gilydd, wnaethon ni greu llyfr ‘Siôn Corn’ gyda lluniau a defnyddio geiriau’r gân draddodiadol Gymraeg ‘Pwy Sy’n Dŵad Dros y Bryn?’

Faint o help oeddech chi wedi cael gan y plant?

Mae ganddyn nhw gymaint o syniadau, a lot o egni a llawenydd – mae wastad yn hwyl gweithio efo plant yr oed yma. Wnaethon ni wneud sgetshis a chytuno ar sut roedd Siôn Corn yn mynd i edrych. Roedd y plant wedi rhoi eu syniadau nhw am beth oedden nhw eisiau gweld ar bob tudalen. Roedd y plant wedi peintio’r lluniau a wnes i olygu’r llyfr ar ôl i ni orffen y gwaith yna i gyd.

Faint o amser roedd wedi cymryd i wneud y llyfr?

Roedd y gwaith darlunio i gyd wedi cael ei wneud yn ystod un diwrnod ym mis Rhagfyr.

Roedd y plant wedi cael fersiwn print eu hunain, ond mae’r e-lyfr ar gael am ddim hefyd.

Mae’r llyfr ar gael am ddim fan hyn.

Dach chi’n gallu gwylio fideo o Josh yn canu’r gân yma hefyd.

.