Maddeuwch i fi am fod yn hunanfoddhaus, ond gan ei fod yn Ddydd Miwsig Cymru, ro’n i eisiau rhannu gyda chi sut mae cerddoriaeth Gymraeg wedi fy helpu fel dysgwr.
Fel eglurais i wrth Aled Hughes (@boimoel) yr wythnos hon, mae penbleth hunaniaeth gyda fi pan ddaw hi at fy Nghymreictod, achos do’n i ddim yn gallu siarad Cymraeg.
Ro’n i eisiau dysgu Cymraeg erioed, ond roedd ofn gyda fi’r treigladau a thermau gramadegol achos do’n i ddim yn gwybod beth oedden nhw yn Saesneg, hyd yn oed!
Des i ’nôl o Ffrainc yn gwylio Cymru yn yr Ewros, yn fwy penderfynol nag erioed i ddysgu’r iaith. Ond cymerodd hi sbel i ddechrau…
Dw i’n cofio gweld storïau am bobol yn defnyddio cerddoriaeth Gymraeg i ddysgu Cymraeg yn 2018, ond doedd pethau ddim wedi dechrau tan fy mod i’n dal i fyny â hen raglenni radio Elis James a John Robbins ar Radio X yn 2019.
Yn ystod sesiwn Keep It Session, roedd Elis wedi chwarae Alffa, Adwaith a Los Blancos. Roedd fy mhen wedi chwalu!
Ym mis Medi 2019, roedd fy merch wedi dechrau mynd i ysgol Gymraeg. O’r diwedd, es i amdani a dechrau dysgu i’w helpu hi.
Ro’n i’n ofni addysg oedolion a gwersi ffurfiol yn llawn termau gramadegol cymhleth, ond ro’n i wedi cofrestru ar gyfer cwrs Cymraeg Say Something In Welsh.
Roedd hynny wedi newid popeth i fi. O fewn diwrnodau, ro’n i’n siarad Cymraeg ac yn dysgu patrymau dw i’n eu defnyddio heddiw. Diolch Aran Jones!
Ar yr un pryd, ro’n i’n sylweddoli bod fy chwaeth gerddorol yn dal yn y 2000au, felly ro’n i wedi gofyn i ffrind, Neil Collins, oedd e eisiau sefydlu podlediad yn dathlu cerddoriaeth Gymraeg, hen a newydd, i wneud yn siŵr do’n i ddim yn colli allan ar y chwyldro newydd hwn. Ac roedd Welsh Music Pod wedi dechrau.
Mae cael fy nhrochi mewn popeth Cymraeg, yn enwedig cerddoriaeth, wedi fy helpu i ddeall yr iaith ac wedi rhoi syniad i fi sut mae pobol yn defnyddio Cymraeg yn y gwyllt, gan gynnwys y gwahaniaethau ar draws y wlad.
Achos gwaith gwych PYST, mae geiriau ar gael ar gyfer llawer o gerddoriaeth Gymraeg ar Spotify ac mae darllen y geiriau wrth wrando ac edrych ar yr ystyr wedi helpu llawer.
Mae llyfrau cordiau gitâr wedi bod yn amhrisiadwy hefyd, yn enwedig ar ôl mynd yn obsessed am Bwncath ar ôl i Nipsy (Neil Jones) fagu fy niddordeb ynddyn nhw.
Dw i’n gallu canu, a chanu fy hoff ganeuon ar y gitâr, wrth ymarfer Cymraeg.
Mae ffordd bell iawn gyda fi i fynd, a dyw e ddim wedi bod yn hawdd, ond mae dysgu Cymraeg yn bendant wedi bod yn brofiad gwerthchweil ac wedi agor fy llygaid i fyd newydd sbon, diwylliant newydd a phosibiliadau newydd. Dw i’n difaru ’mod i ddim yn gwybod amdanyn nhw amser maith yn ôl.
Diolch i chi gyd!