Dych chi eisiau’r cyfle i holi Alison Cairns? Alison oedd wedi ennill Dysgwr y Flwyddyn 2023.
Beth fyddech chi’n gofyn i Alison?
Bydd Alison yn cymryd rhan mewn sesiwn holi ac ateb gyda lingo newydd yng Nghaergybi wythnos nesaf.
Dyma gyfle i glywed am ei phrofiadau yn dysgu Cymraeg. Bydd hi’n dweud pam ei bod wedi dechrau dysgu Cymraeg, a rhai o’r pethau sydd wedi gwneud dysgu yn hwyl iddi hi.
Mae Alison yn dod o’r Alban yn wreiddiol. Nawr mae hi’n byw yn Llannerch-y-medd yn Ynys Môn. Mae hi’n fam i saith o blant.
Os dych chi’n byw yn ardal Ynys Môn, dewch i Ysgol Kingsland yng Nghaergybi i holi Alison yn fyw!
Bydd Alison yn ymuno â’r darlledwr Nia Thomas pnawn dydd Iau, 16 Tachwedd, am 3.15pm.
Mae mynediad am ddim, a bydd croeso cynnes i bawb.
Ydy Caergybi’n rhy bell i chi?
Beth am ofyn eich cwestiwn yn y sylwadau yma?