Yn ystod fy nhaith drwy Gymru eleni, wnes i dreulio wythnos yng ngorllewin Cymru.
Arhosais mewn gwely a brecwast anhygoel o’r enw Ffermdy Allt y Golau, ger pentref Felingwm Uchaf yn y bryniau ar bwys Caerfyrddin. Roedd Colin a Jacquie yn berchnogion graslon a chyfeillgar. Roedden nhw wedi awgrymu llawer o bethau i weld yn yr ardal. Ro’n nhw’n garedig iawn ac wedi cynnig tocynnau i weld Gerddi Aberglasney a Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru (ond mwy am hyn yn y dyfodol). Medden nhw: “Paid ag anghofio’r cestyll – maen nhw’n hardd.”
Wel, fel dych chi’n gwybod erbyn hyn – dw i’n dwlu ar gestyll!
Trwy gyd-ddigwyddiad, roedd fy ffrind Rachel (o fy nosbarth Cymraeg) yn mynd i fod yng Nghaerfyrddin yr un wythnos gyda’i theulu, ac wedi dweud: “Paid ag anghofio’r cestyll, yn enwedig fy hoff un – Castell Carreg Cennen.”
Roedd gyda fi gynllun.
“Castell ramantus”
Mae Castell Carreg Cennen yn cael ei adnabod fel y castell “mwyaf rhamantus yng Nghymru”. Cafodd ei adeiladu yn wreiddiol gan Rhys ap Gruffydd yn y ddeuddegfed ganrif. Ond cafodd y castell ei ail-adeiladu yn y drydedd ganrif ar ddeg, o dan Edward I. Beth sy’n ddiddorol ydy bod Owain Glyndŵr wedi ymosod ar Gastell Carreg Cennen yn 1403 – yr un flwyddyn cyn iddo fe gipio Castell Cricieth yn y gogledd (dwi wedi son am Gastell Cricieth yn un o fy ngholofnau o’r blaen).
Lle arbennig iawn yw Castell Carreg Cennen. Mae’n sefyll 300 troedfedd uwchben Afon Cennen ar ben pellaf Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, gyda golygfeydd o gwmpas Sir Gâr.
Wnes i gwrdd â Rachel a’i phartner, Jay, yn Llandeilo er mwyn gyrru gyda’n gilydd i Gastell Carreg Cennen, ac ymuno gyda phlant Rachel a Jay, a rhieni Rachel yno. Roedd gyda ni dîm llawn i ddringo i fyny i’r castell!
O faes parcio’r castell, mae dwy ffordd i gerdded i Garreg Cennen:
- I fyny’r llwybr byr sy’n mynd rhwng y castell a’r siop/caffi (400 llath), neu
- Y “ffordd hir rownd” ar hyd llwybr cerdded i fyny ochr y bryn (dwy filltir).
Wnaethon ni ddewis y ffordd hir…
Cawson ni amser gwych yr holl ffordd i fyny, mwynhau gweld y ceffylau a’r defaid yn y caeau, ac yn chwarae gyda’r plant ar hyd Afon Cennen cyn i’r llwybr ddechrau esgyn i’r castell.
Pan gyrhaeddon ni’r castell, edrychais yn ôl i weld yr olygfa. Gwelais dirlun harddwych, gyda bryniau tonnog a chaeau gwyrdd yn ymestyn i’r gorwel ym mhob cyfeiriad – mor, mor wyrdd! Roedd y golygfeydd yn syfrdanol.
Wnaethon ni gerdded o gwmpas yr adfeilion am sbel, yn myfyrio ar hanes y castell. Des i o hyd i dwnnel oedd yn arwain at risiau… oedd yn arwain at ogof… oedd yn arwain at… unman. Roedd jyst yn stopio o dan y ddaear! Mae’n debyg bod haneswyr ddim yn siŵr beth oedd pwrpas y twnnel. Ar gyfer cuddio rhag gelynion? Neu dianc heb i unrhyw un weld? Efallai bod y twnnel wedi cael ei gychwyn gan Rhys ap Gruffydd amser maith yn ôl, ond erioed wedi ei orffen?
Am wn i fyddwn ni byth yn gwybod.
Cerddon ni yn ôl i lawr o’r castell i’r caffi – y llwybr byr y tro hwn – lle cawson ni gawl, bara brith, a phaned mewn ystafell de gyda golygfa dros y caeau gwyrdd. Yn ôl yn Llandeilo, wnes i ffarwelio a Rachel a’i theulu yn y maes parcio cyn gyrru nôl i Allt y Golau. Yn ôl yn fy ‘stafell, gwelais fy lluniau ar sgrîn fawr y cyfrifiadur, a…. waw! Roedd y lliwiau mor syfrdanol.
Bues i yn Sir Gâr am lai nag wythnos, ond wnes i gwympo mewn cariad â’r ardal anhygoel hon. Roedd rhywbeth am y tirlun, y lliwiau, a’r ffordd o fyw hamddenol. Ro’n i’n teimlo’n gartrefol yno, bron yn syth bin. Gallwn i fyw yn Sir Gâr rhyw ddydd, os yn bosib. Cawn weld!
Fydda’i byth yn anghofio’r teimlad hwnnw ar ben Castell Carreg Cennen. Sefais yno am ddeg munud yn y gwynt, gyda gwên fawr ar fy wyneb.
Ro’n i adre.