Yma yn America, mae Diolchgarwch yn wyliau pwysig. Mae’n adeg i fod yn ddiolchgar am y pethau sydd gyda ni, i fyfyrio ar ein bywydau, ac i ailgysylltu â theulu a ffrindiau.

Er bod pobl yn tueddu i feddwl am Ddiwrnod Diolchgarwch fel gwyliau sy’n unigryw i America, mae ei wreiddiau yn nathliadau cynhaeaf y Deyrnas Unedig a thraddodiadau o’r Diwygiad Protestannaidd.

Dros y canrifoedd, mae dyddiad Diolchgarwch yn America wedi amrywio. Ond ers 1942, mae’r dyddiad swyddogol wedi bod ar y pedwerydd dydd Iau ym mis Tachwedd. Dyma adeg prysuraf y flwyddyn i deithio, gyda llawer o bobl yn hedfan neu’n gyrru i weld teulu dros y penwythnos hir.

I rai pobl, mae Diolchgarwch mor bwysig â’r Nadolig.

Mae gemau pêl-droed Americanaidd ar y teledu, parêd enfawr drwy strydoedd Efrog Newydd, a chiniawau Diolchgarwch arbennig yn cael eu cynnig mewn ambell fwyty. Er bod y mwyafrif o siopau ar gau ar Ddiwrnod Diolchgarwch, maen nhw wastad ar agor y diwrnod wedyn – “Dydd Gwener Du” – dydd cyntaf y tymor siopa Nadolig. Cyfalafiaeth, baby!

Y cinio Diolchgarwch – twrci a llysiau

Y bwyd

Wrth gwrs, mae bwyd yn rhan bwysig iawn o unrhyw ddathliadau Diolchgarwch.

Fel arfer, mae cinio Diolchgarwch yn debyg iawn i ginio Nadolig traddodiadol: twrci, stwffin, tatws, grefi, llysiau wedi’u rhostio, saws llugaeron, a mwy.

Yn America, mae gyda ni sawl eitem draddodiadol arall sy’n boblogaidd – fel iamau (tebyg i datws melys), pastai pwmpen, a tharten afalau… gyda hufen iâ, wrth gwrs!

Ond weithiau, mae gan bobl draddodiadau anarferol.

 

 

Tarten pwmpen, aeron, ac afalau

Er enghraifft, pan o’n i’n blentyn yn byw ar arfordir dwyreiniol yr Unol Daleithiau, aeth fy nheulu i ginio Diolchgarwch gyda ffrindiau annwyl, Paula a Jerry yn Efrog Newydd. Roedd Paula a Jerry yn dod o deuluoedd mawr Eidalaidd, felly roedd gyda nhw syniadau unigryw a chreadigol ar gyfer cinio Diolchgarwch.

Dim ond tua 11 neu 12 oed o’n i ar y pryd, ond dw i’n cofio gofyn i Paula: “Beth ydan ni’n cael i ginio?” Atebodd Paula: “lasagna twrci” – a dw i’n dal i gofio’r siom. Yna, tynnodd Paula ddysgl enfawr o lasagna allan o’r ffwrn, oedd yn edrych yn anhygoel, ac yn arogli hyd yn oed yn well! Ro’n i’n anghywir: roedd yn ginio blasus, ac yn ffordd berffaith i ddathlu Diolchgarwch.

Dysgais i wers y diwrnod hwnnw: i gadw meddwl agored! Yn anffodus, anghofiais y wers hon dros amser.

Ychydig o flynyddoedd yn ôl, roedd Libby a fi wedi ymweld â ffrindiau da yn Santa Barbara ar gyfer cinio Diolchgarwch. Pan gyrhaeddon ni, soniodd ein ffrindiau ein bod ni’n cael rhywbeth o’r enw “turducken.” Roedd rhaid i fi ei Googlo ar fy ffôn. Mae hefyd yn cael ei alw’n “rhost tri-aderyn.” Mae turducken yn cael ei baratoi drwy stwffio cyw iâr di-asgwrny tu mewn i hwyaden di-asgwrn – y tu mewn i dwrci. O, na…

Ond eto, ro’n i’n anghywir.

Roedd y turducken yn ardderchog, yn llawn blas anhygoel oedd yn rhan fendigedig o ginio Diolchgarwch. Unigryw a blasus. Yn y Deyrnas Unedig, dw i’n deall bod pobl yn gwneud “gooducken” – yr un fath a turducken ond gyda gŵydd yn lle twrci. Mae gyda ni i gyd lawer o draddodiadau gwahanol, a diolch byth am hynny.

Y soufflé corn sy’n draddodiad yn nheulu Pawlie erbyn hyn

Fy hoff draddodiad

 Weithiau, mae pobl yn gofyn i fi: “Beth yw dy hoff draddodiad bwyd Diolchgarwch?”

Wel, mae hynny’n hawdd: soufflé corn!

Mae e rhywle rhwng stwffin a bara, ac roedd Libby a fi wedi cael soufflé corn am y tro cyntaf yn ystod un Diolchgarwch yn y nawdegau cynnar pan oedden ni’n dathlu gyda’n ffrindiau annwyl Bev a Bill Woodbridge yng ngogledd Califfornia. Gofynnais i Bev: “Beth yw hyn?” a dywedodd Bev: “Soufflé corn yw e – paid â phoeni, jyst rho gynnig arni.” Wel, roedd y soufflé yn eithriadol. Perffaith gyda thwrci a’r bwydydd Diolchgarwch eraill. Ro’n ni’n gwybod yn syth y bydden ni angen y rysáit! Ond doedd dim rysáit ar bapur ar gael.

Felly… rhoddodd Bev gerdyn rysáit gwag i Libby, a dechreuodd hi ysgrifennu’r cynhwysion a chyfarwyddiadau, wrth i Bev ddisgrifio popeth o’i chof. Wnaethon ni goginio’r soufflé corn am y tro cyntaf yn ystod Diolchgarwch 1992, ac wedi gwneud bob blwyddyn ers hynny. Mae’r soufflé wedi bod yn draddodiad hir yn y teulu Woodbridge, ac yn draddodiad yn ein teulu ni ers mwy na thri degawd, nawr.

Dros y blynyddoedd, ‘dyn ni wedi pasio’r rysáit ymlaen i lawer o ffrindiau eraill, sydd yn aml yn ychwanegu soufflé corn i’w traddodiadau eu hunain. Beth am roi cynnig arni? Byddwch chi’n ddiolchgar!

Y cerdyn rysait efo cyfarwyddiadau Bev

Soufflé Corn Woodbridge

Cynhwysion:

  • 1 tun (425g) o gorn hufenog (cream style sweetcorn)
  • 1 bocs (227g) Jiffy corn muffin mix
  • 1 wy, wedi’i guro ychydig
  • 1 llwy de o fenyn, i iro’r ddysgl
  • ½ cwpan o laeth
  • Winwnsyn, wedi’i dorri’n fân (3 llwy fwrdd)
  • ¾ cwpan o hufen sur
  • Caws Cheddar, wedi’i gratio

Dull:

Cynheswch y ffwrn i 190°C. Rhowch y corn hufennog, y muffin mix, wy, llaeth, a’r winwnsyn mewn powlen goginio, a’i gymysgu’n dda. Rhowch y gymysgedd mewn dysgl gaserol 2-chwart (wedi’i iro). Rhowch yr hufen sur ar ei ben, a’i droi i mewn yn ysgafn yn y gymysgedd. Rhowch y caws ar ei ben. Rhowch yn y ffwrn i goginio am 45 munud. Gallwch ei weini gyda chinio rhost. Mwynhewch!