Mae cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn yn 40 oed eleni. Mae dysgwyr Cymraeg o bob rhan o Gymru a thu hwnt yn cael eu hannog i gystadlu yn Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd 2023.
Bob wythnos hyd at y dyddiad cau ar 1 Mai fe fydd Lingo360 yn cyhoeddi cyfweliad gydag un o’r cyn-enillwyr. Y tro yma Spencer Harris sy’n ateb cwestiynau Lingo360.
Enillodd Spencer wobr Dysgwr y Flwyddyn yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Ddinbych a’r Cyffiniau yn 2001. Mae’n dod o Goedpoeth ger Wrecsam yn wreiddiol. Mae Spencer yn Gyfarwyddwr Clwb Pêl-droed Wrecsam ac yn gweithio fel uwch gyfarwyddwr gyda Kellogg’s yn Ewrop.
Dyma ei stori yn dysgu’r iaith.
Pryd wnaethoch chi ddechrau dysgu Cymraeg?
Mi wnes i ddechrau dysgu Cymraeg yn 1995. Es i i ddosbarthiadau nos i ddechrau ac wedyn, es i mlaen i wneud Lefel A mewn Cymraeg.
Beth dych chi’n ei gofio am y diwrnod wnaethoch chi ennill Dysgwr y Flwyddyn?
Roedd yn ddiwrnod arbennig. Doeddwn i ddim yn disgwyl ennill. Roedd seremoni fawr mewn gwesty lleol yn Ninbych ac fe ddaeth fy nhiwtor Cymraeg a fy nheulu hefo fi.
Pa wahaniaeth wnaeth y wobr i chi?
Roedd hi’n anrhydedd enfawr. Dw i wedi cystadlu dros Gymru fel chwaraewr tenis bwrdd rhyngwladol ond roedd ennill Dysgwr y Flwyddyn yr un mor bwysig i fi. Roedd yn anhygoel pan ges i’r gwahoddiad i fod yn aelod o Orsedd y Beirdd.
Beth yw eich hanes yn siarad Cymraeg ers hynny?
Dw i’n defnyddio’r iaith yn aml. Dan ni’n wedi magu tri o blant i siarad yr iaith ac mae’r tri wedi cael addysg cyfrwng Cymraeg.
Fel Cyfarwyddwr Clwb Pêl-droed Wrecsam, dw i wedi gwneud llawer o gyfweliadau teledu a radio yn Gymraeg dros yr 20 mlynedd ddiwethaf.
A phan wnaethon ni werthu Clwb Pêl-droed Wrecsam ar ran y cefnogwyr i Ryan Reynolds a Rob McElhenney, gwnes i’n siŵr eu bod yn deall pwysigrwydd yr iaith i’r clwb, ac i ni fel gwlad.
Maen nhw erbyn hyn wedi denu llawer o sylw i Gymru a’r Gymraeg.
Beth yw eich cyngor i bobl sydd yn dysgu Cymraeg?
Does dim byd yn hawdd yn y byd, ond os ydych chi’n dal ati, mi fyddwch chi’n llwyddiannus.
Beth dych chi’n credu ydy’r peth pwysicaf wrth roi gwobr dysgwr y flwyddyn?
Mae safon y Gymraeg yn bwysig ond rhaid hefyd ystyried pwy sy’n debyg o ysbrydoli eraill i ddysgu Cymraeg.
Mae cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn yn agored i ddysgwyr dros 18 oed sy’n hyderus yn defnyddio’r Gymraeg yn eu bywydau pob dydd. Gall unigolion enwebu eu hunain, neu gall perthynas, ffrind, cydweithiwr neu diwtor enwebu rhywun.
Bydd y rownd gynderfynol yn cael ei chynnal yn rhithiol ar 11 a 12 Mai, gyda’r rownd derfynol yn cael ei chynnal ar faes yr Eisteddfod, ddydd Mercher, 9 Awst gyda’r beirniaid: y cyflwynydd radio, Tudur Owen; Liz Saville Roberts AS; a Geraint Wilson-Price, rheolwr Dysgu Cymraeg Gwent. Bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi ar yr un diwrnod mewn seremoni arbennig.
Mae’r gystadleuaeth yn cael ei threfnu gan yr Eisteddfod a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.
Mae’r ffurflen gais ar wefan yr Eisteddfod a’r dyddiad cau yw 1 Mai.