Mae cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn yn 40 oed eleni. Dych chi eisiau cystadlu? Mae dysgwyr Cymraeg o bob rhan o Gymru a thu hwnt yn cael eu hannog i gystadlu yn Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd 2023.

Bob wythnos hyd at y dyddiad cau ar 1 Mai fe fydd Lingo360 yn cyhoeddi cyfweliad gydag un o’r cyn-enillwyr. Y tro yma Sandra de Pol sy’n ateb cwestiynau Lingo360. Enillodd Sandra wobr Dysgwr y Flwyddyn yn 2000.

Dyma ei stori hi yn dysgu’r iaith.

 O ble dych chi’n dod yn wreiddiol?

Dw i’n dod o’r Ariannin yn wreiddiol. Ces i fy ngeni a fy magu mewn dinas debyg i Gaerdydd.

Pryd wnaethoch chi ddechrau dysgu Cymraeg?

Dechreuais i ddysgu Cymraeg mewn dosbarth ddwywaith yr wythnos yn 1997 ym Mhatagonia.

Ym mha Eisteddfod wnaethoch chi ennill Gwobr Dysgwr y Flwyddyn?

Enillais i’r gystadleuaeth yn Eisteddfod Llanelli a’r Cylch yn 2000.

Beth dych chi’n cofio am y noson wobrwyo?

Roedd hi’n noson emosiynol iawn. Cawson ni fwyd a gwylion ni’r ffilmiau byr oedd yn adrodd hanes ymgeiswyr y rownd derfynol (roedd y pump ohonon ni o tu allan i Gymru). Roeddwn yn synnu’n fawr mod i wedi cael y fraint o ennill y gystadleuaeth.

Pa wahaniaeth wnaeth y wobr i chi?

Er bod rhaid i mi fynd yn ôl i’r Ariannin yn fuan ar ôl yr Eisteddfod, roedd ennill y wobr yn bwysig iawn i mi yn bersonol ond hefyd roedd yn ddigwyddiad pwysig iawn i’r gymdeithas yn y Wladfa ac yng Nghymru.

Roedd yn dangos ei bod hi’n bosib dysgu Cymraeg yn llwyddiannus tu allan i Gymru. Dw i’n ddiolchgar iawn hefyd fod cynllun Dysgu Cymraeg wedi ei sefydlu ym Mhatagonia yn 1997.

Erbyn hyn, mae llawer iawn ohonon ni, yn ddisgynyddion y Cymry gwreiddiol yn ogystal â’r rhai fel fi o gefndir Lladinaidd, wedi darganfod iaith y nefoedd ac yn ei defnyddio yn y Wladfa…ac yng Nghymru.

Beth oedd eich hanes yn siarad yr iaith ar ôl hynny?

Symudais i’r Hen Wlad (sef Cymru) yn 2002 i weithio mewn dwy ysgol uwchradd Gymraeg fel Cynorthwy-ydd Sbaeneg ac roedd staff yr ysgolion yn hapus iawn mod i’n gallu siarad Cymraeg.

Ar ôl hynny symudais i o Lanelli i Gaerdydd ble cwrddais i â fy mhartner. Yn y cyfnod hwnnw, gwnes i gwrs Cymraeg Meistroli a sefyll yr arholiad Uwch.

Erbyn hyn, dw i wedi cymhwyso fel Cynorthwy-ydd Dosbarth gyda Mudiad Meithrin, wedi gweithio mewn sawl ysgol gynradd Gymraeg ac ysgolion uwchradd Cymraeg.

Dw i hefyd wedi cymhwyso fel Tiwtor Dysgu Cymraeg gyda Dysgu Cymraeg Caerdydd, sy’n cael ei gynnal gan Brifysgol Caerdydd ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Dw i wedi bod yn gweithio fel tiwtor llawn amser ers deuddeg mlynedd.

 Beth yw eich cyngor i bobl sydd wrthi’n dysgu Cymraeg?

Daliwch ati a siaradwch bob cyfle posib. Does dim ots os dych chi’n anghofio geiriau, neu dreigladau. Mae’n bwysig i chi ddefnyddio’r iaith dych chi wedi dysgu mewn dosbarth, wedi darllen neu glywed ar y teledu. Siaradwch a mwynhewch sgwrsio yn y Gymraeg.

Beth dych chi’n credu yw’r elfen bwysicaf wrth wobrwyo Dysgwr y Flwyddyn?

Mae’n anodd iawn ateb y cwestiwn yma. Dw i wedi beirniadu’r gystadleuaeth unwaith a doedd hi ddim yn hawdd o gwbl.

Ond erbyn hyn, dw i’n credu bod y pwyslais ar ddefnyddio’r Gymraeg yn y gymuned. Mae’n bwysig iawn gweld a chlywed y Gymraeg ymhob cyd-destun ac ymfalchïo ei bod yn iaith fyw.


Mae’r gystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn yn agored i ddysgwyr dros 18 oed sy’n hyderus yn defnyddio’r Gymraeg yn eu bywydau pob dydd. Gall unigolion enwebu eu hunain, neu gall perthynas, ffrind, cydweithiwr neu diwtor enwebu rhywun.

Bydd y rownd gyn-derfynol yn cael ei chynnal yn rhithiol ar 11 a 12 Mai, gyda’r rownd derfynol yn cael ei chynnal ar faes yr Eisteddfod, ddydd Mercher, 9 Awst gyda’r beirniaid: y cyflwynydd radio, Tudur Owen; Liz Saville Roberts AS; a Geraint Wilson-Price, rheolwr Dysgu Cymraeg Gwent. Bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi ar yr un diwrnod mewn seremoni arbennig.

Mae’r gystadleuaeth yn cael ei threfnu gan yr Eisteddfod a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

Mae’r ffurflen gais ar wefan yr Eisteddfod a’r dyddiad cau yw 1 Mai.