Bydd siaradwyr Cymraeg newydd yn gallu cael is-deitlau Cymraeg ar raglenni Newyddion S4C o fis Medi.
Bydd gwylwyr yn gallu cael is-deitlau trwy ddewis opsiwn ‘is-deitlau Cymraeg’ ar deledu byw, neu ar S4C Clic a dal i fyny.
Bydd clipiau gydag is-deitlau ar ap a gwefan Newyddion S4C hefyd.
Roedd S4C wedi cynnal ymgynghoriad i wybod mwy am arferion gwylio pobol.
Roedd un rhaglen newyddion bob wythnos ar S4C i siaradwyr newydd, Yr Wythnos, ond bydd hi nawr yn dod i ben.
Mae opsiynau is-deitlau ar gael ar raglen Heno nawr hefyd.
Roedd S4C wedi cynnal trafodaeth yn Sioe Llanelwedd am wasanaethau i ddysgwyr ar ddydd Llun (Gorffennaf 24).