Mae wythnos yma wedi bod yn Wythnos Siopau Llyfrau Annibynnol: dathliad cenedlaethol o’r holl siopau a llyfrau gwych sydd gennym ni yma yng Nghymru. Felly, dyma’r amser perffaith i ddarganfod eich hoff lyfr newydd sy’n disgwyl amdanoch chi ar y silffoedd!

Yn ogystal â gwerthu llwyth o lyfrau hyfryd, mae ymweld â’ch siop lyfrau Cymraeg lleol yn gyfle i gymdeithasu yn y Gymraeg. Felly, os dach chi ar daith i ddysgu Cymraeg ar hyn o bryd – a s’dim ots pa mor bell yn y siwrne, chwaith – mae wir yn werth mynd i’ch siopau lleol am gyfle i sgwrsio yn y Gymraeg tu allan i’ch dosbarth.

A bod yn onest, dw i ddim angen esgus i fynd i brynu mwy o lyfrau – mae gennai bentwr wrth fy ymyl wrth i mi sgwennu! Ond mae’n rhaid i mi gymryd rhan yn y dathliadau rhyw ffordd – a does dim ffordd well na thrio annog darllenwyr Lingo360 i ddod o hyd i lyfrau gwych.

Felly, dw i wedi bod yn meddwl am y Llyfrau fyswn i’n argymell i ddarllenwyr eraill, a rhai eithaf diweddar yn enwedig.

Fy newis cyntaf yw: Sêr y Nos yn Gwenu gan Casia Wiliam. Darllenais y llyfr hwn dros y penwythnos a doeddwn i ddim yn gallu ei rhoi i lawr. Mae’n llyfr sy’n addas i ddarllenwyr 16 oed a hŷn ac yn adrodd hanes Leia a Sam, y prif gymeriadau. Dan ni’n gweld eu bywydau nhw’n croesi a phlethu mewn stori deimladwy a phwerus iawn. Pum seren gen i!

Nesaf ar fy rhestr o argymhellion yw: Hen Ferchetan gan Ewan Smith. Mae’r llyfr hwn yn rhan o’r gyfres Amdani sydd wedi cael ei greu ar gyfer siaradwyr newydd. Mae’r stori wedi cael ei hysbrydoli gan gân draddodiadol. Dw i ddim isio deud gormod rhag ofn i mi ddifetha’r llyfr – ond mae’n werth ei ddarllen. A dach chi hefyd yn gallu darllen mwy am yr awdur yn rhifyn diweddaraf Lingo Newydd!

Fy argymhelliad nesaf yw Drift gan Caryl Lewis. Mae ychydig o fisoedd wedi mynd heibio ers i mi ddarllen y llyfr hwn ond dw i heb stopio meddwl a siarad amdano ers ei orffen. Mae swyn y môr yn serennu yn y nofel hon, bron fel cymeriad ychwanegol. A dyma beth sy’n creu awyrgylch mor ddiddorol, yn fy marn i, yn ogystal â chymeriadau cofiadwy a dirgelwch sy’n llifo o un dudalen i’r llall.

Mae’r argymhelliad nesaf yn un i bobol sy’n mwynhau ffuglen hanesyddol: Salem gan Haf Llewelyn. Darllenais ran o Salem ar y traeth yn Aberystwyth heb sylwi’r amser yn mynd heibio – sydd wastad yn arwydd da pan ti’n darllen llyfr! Mae’r nofel yn pendilio rhwng 1908 a 2018 lle mae cast o gymeriadau gwahanol – gan gynnwys yr artist enwog wnaeth ysbrydoli teitl y llyfr.

Ac yn olaf – hoffwn argymell llyfr sydd efallai am fod yn gyfarwydd i chi yn barod – ond o dan deitl gwahanol: The Blue Book of Nebo gan Manon Steffan Ros. Mae’r nofel hon – Llyfr Glas Nebo yn y Gymraeg – wedi ennill gwobr arbennig iawn wythnos yma sef Medal Yoto Carnegie. Ac yn ogystal â hynny, mae hefyd wedi creu hanes am fod y cyfieithiad cyntaf i ennill y wobr. Am newyddion hyfryd i dderbyn yn ystod Wythnos Siopau Llyfrau Annibynnol. Felly, peidiwch ag oedi – ewch i’ch siop leol!