Dach chi’n edrych ymlaen at y Gwanwyn a dyddiau hirach? Mae dathliad arbennig yn digwydd heddiw (Chwefror 2) sef Gŵyl Fair Y Canhwyllau. Mae’n hen draddodiad o groesawu’r Gwanwyn a dyddiau goleuach.
Yr enw yn Saesneg ydy Candlemas. Mae’n ŵyl sy’n cael ei chofio dros y byd. Mae pobl yn dathlu’r ŵyl mewn llawer o ffyrdd gwahanol. Mae’n dathlu Mair, mam Iesu, a hefyd yn dathlu’r golau yn dychwelyd ar ôl y gaeaf.
Mae canhwyllau yn rhan o’r dathliad.
Yng Nghymru, ganrifoedd yn ôl, yr enw ar y dathliad oedd Gŵyl Fair Y Canhwyllau. Roedd yn amser i groesawu’r gwanwyn a’r dyddiau goleuach.
Roedd wedi datblygu o’r traddodiad Cristnogol o fendithio canhwyllau. Roedd hefyd yn rhan o arferion paganaidd o groesawu’r Gwanwyn. Daeth yn rhan bwysig o’r calendr ffermio yng Nghymru.
Mae tystiolaeth yn dangos bod Gŵyl Fair Y Canhwyllau yn hen iawn.
Yr hen draddodiad
Fel llawer o wledydd eraill, roedd y ffordd o ddathlu yng Nghymru yn unigryw.
Roedd yn draddodiad i gynnau dwy gannwyll a’u rhoi nhw ar fwrdd neu fainc uchel. Byddai pob aelod o’r teulu yn cymryd tro i eistedd ar gadair rhwng y ddwy gannwyll. Byddai’r person yn yfed o gwpan. Wedyn, roedd y gwpan yn cael ei thaflu dros eu hysgwydd neu eu pen. Os oedd y gwpan yn glanio’n unionsyth roedd yn golygu y byddai’r person yna yn cael bywyd hir. Os oedd yn glanio wyneb i waered fe fyddai’r person yna yn marw’n fuan. Fel arfer roedd pobl yn yfed cwrw yn y gwpan. Daeth cwrw yn gysylltiedig gyda’r ŵyl.
Yn y byd ffermio ers talwm, yr enw ar amser mwyaf tywyll y flwyddyn oedd ‘amser gwylad’ [the time of keeping vigil]. Roedd rhaid bwydo’r anifeiliaid wrth olau cannwyll. Daeth yn arferiad i roi’r canhwyllau yn ôl i’r ffermwr ar Chwefror 2 fel rhan o Ŵyl Fair Y Canhwyllau.
Mae’r traddodiadau yma wedi dod yn rhan o hanes. Mae llawer o bobl yn cofio Chwefror 2 gyda channwyll arbennig i ddathlu diwedd y Gaeaf a dyfodiad y Gwanwyn. Felly beth am gynnau dwy gannwyll heddiw i ddathlu bod y Gwanwyn ar ei ffordd?
Mi fedrwch chi ddarllen colofn John Rees, sy’n edrych ar draddodiad Gŵyl Fair Y Canhwyllau, yn Lingo Newydd (rhifyn Chwefror/Mawrth).