Dych chi’n dysgu Cymraeg? Dych chi eisiau helpu dysgwyr eraill ar eu taith i ddysgu’r iaith? Os dych chi, beth am gystadlu yng nghystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn yn Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd eleni?

Mae’r gystadleuaeth yn 40 oed eleni. Mae dysgwyr Cymraeg o bob rhan o Gymru a thu hwnt yn cael eu hannog i gystadlu.

Shirley Flower o Glwyd oedd y cyntaf i ennill y gystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn. Cafodd y gystadleuaeth ei chynnal yn Eisteddfod Genedlaethol Llangefni ym 1983.  Ers hynny, mae’r gystadleuaeth wedi’i chynnal 36 o weithiau.

Mae’r gystadleuaeth yn agored i ddysgwyr dros 18 oed sy’n hyderus yn defnyddio’r Gymraeg yn eu bywydau pob dydd.  Mae unigolion yn gallu enwebu eu hunain, neu mae perthynas, ffrind, cydweithiwr neu diwtor yn gallu enwebu rhywun.  Mae’r ffurflen gais ar wefan yr Eisteddfod. Y dyddiad cau yw 1 Mai.

Bydd y rownd gynderfynol yn cael ei chynnal yn rhithiol ar 11 a 12 Mai. Bydd y rownd derfynol yn cael ei chynnal ar faes yr Eisteddfod, ddydd Mercher, 9 Awst.

Beirniaid

Dyma’r beirniaid: y cyflwynydd radio, Tudur Owen; Liz Saville Roberts AS; a Geraint Wilson-Price, rheolwr Dysgu Cymraeg Gwent.

Bydd enw’r enillydd yn cael ei gyhoeddi mewn seremoni arbennig ar 9 Awst.

Mae’r gystadleuaeth yn cael ei threfnu gan yr Eisteddfod a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

Betsan Moses ydy Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol. Mae hi’n dweud bod yr Eisteddfod yn edrych ymlaen at gael dod i adnabod y cystadleuwyr eleni.

“Mae dathlu cyfraniad siaradwyr Cymraeg newydd yn bwysig iawn i’r Eisteddfod ac mae cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn yn un o uchafbwyntiau’r brifwyl.”

‘Ysbrydoledig’

Meddai Dona Lewis, Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol:  “Mae gwobr Dysgwr y Flwyddyn yn ffordd wych o ddathlu llwyddiannau unigolion ysbrydoledig ac o dynnu sylw at y cyfleoedd di-ri i ddysgu a mwynhau’r Gymraeg.  Mae safon y gystadleuaeth yn uchel bob blwyddyn, ac mae’n un o uchafbwyntiau’r calendr Dysgu Cymraeg.  Pob lwc eleni i’r holl gystadleuwyr!”.

‘Blwyddyn brysur’

Bydd yr enillydd yn cael blwyddyn brysur yn hyrwyddo’r sector Dysgu Cymraeg. Byddan nhw’n cymryd rhan mewn digwyddiadau a gweithgareddau rhithiol a wyneb-yn-wyneb.

Joe Healy, o Wimbledon, Llundain, oedd wedi ennill y wobr yn 2022.  Erbyn hyn mae Joe wedi dechrau gweithio fel tiwtor Dysgu Cymraeg llawn amser yng Nghaerdydd, gyda Dysgu Cymraeg Caerdydd.

Mae’n dysgu pobl ifanc ac yn cynnal gwersi yn Oasis, Caerdydd. Mae’r ganolfan yn cefnogi ffoaduriaid a cheiswyr lloches.

Meddai Joe: “Roedd ennill Dysgwr y Flwyddyn yn fraint enfawr, ac yn brofiad emosiynol hefyd.  Mae wedi agor drysau o ran fy ngyrfa, a dw i wedi gallu cael y cyfle i siarad gyda dysgwyr eraill am fy siwrnai iaith.  Mae wedi bod yn gyfnod prysur dros ben ers ennill y wobr, ond baswn i’n annog dysgwyr i fynd amdani – pob lwc i bawb!”