Pan oedd fy Mam yn 18 oed, wnaeth hi a’i chwaer fynd i’r Eidal efo’i gilydd am y tro cyntaf ar ben eu hunain. Roedd hi wedi cael ei magu yn siarad tafodiaith ei rhieni ac, oherwydd hyn, prynodd hi lyfr ymadroddion sy’n cynnwys dywediadau mewn Eidaleg safonol. Mae’n llyfr yn arbennig iawn iddi hi. Mae’n dal llawer o atgofion rhwng y cloriau o wahanol deithiau i’r Eidal dros y blynyddoedd, er bod hi ddim ei angen – mae ei Eidaleg yn swnio’n berffaith i mi!

Yn gynharach y mis yma, a chyn i fi deithio i Rufain am y tro cyntaf heb fy rhieni a’m chwaer, gadawodd i mi fenthyg y llyfr. Soniais fy mod i’n teimlo bach yn nerfus yn siarad Eidaleg heb fy nheulu o fy nghwmpas i roi cymorth i fi.

Ac ambell waith pan oeddwn i yno, roedd rhaid i mi ofyn i bobol beth oedd y gair roeddwn i isio defnyddio. Wnaeth hyn atgoffa fi o’m mhrofiad o ddysgu Cymraeg sydd hefyd wedi bod yn llawn cwestiynau!

Wrth edrych drwy’r llyfr ar yr awyren a darllen dywediadau a chwestiynau gwahanol, roeddwn i’n teimlo mor gyffrous i gyrraedd a chlywed yr iaith o nghwmpas i. Mor hyfryd oedd bod yn ôl yn y ddinas lle gafodd fy Nhad ei eni. Ac ar ben hyn, roedd gennai’r cyfle i ymweld â’r ardal o Rufain lle’r oedd ei rieni, fy Nonno Guido a Nonna Matilde, yn byw fel oedolion ifanc cyn iddyn nhw symud i Gymru.

Roedd yn anhygoel troi’r gornel a gweld Trastevere, neu ‘hen Rufain’ fel mae pobol yn ei galw. Roedd y dagrau hapus yn llifo – ac nid dim ond oherwydd yr Aperol Spritz! Mor hyfryd oedd cerdded ar hyd strydoedd Trastevere, eistedd ar y piazza a bwyta bwyd lleol fel supplì – un o’r bwydydd Rhufeinig enwocaf. Roedd hyn i gyd yn dod â chymaint o atgofion braf yn ôl o’m plentyndod a hafau yn teithio o gwmpas y wlad.

Roedd pawb yn groesawgar iawn ac mi ges i’r cyfle i sgwrsio efo pobol leol oedd â diddordeb mewn clywed mwy am Gymru, gwreiddiau’r teulu a’n cysylltiad efo’r ardal.

“Nid gwyliau yw hyn, Francesca, ond dy ddychweliad adra,” meddai un person cyfeillgar mewn siop lyfrau wrth i mi esbonio ‘chydig bach am hanes fy nheulu. A dyma’r prif beth sydd yn aros yn y cof ar ôl taith fythgofiadwy – uwchben yr holl atgofion hyfryd o fynd o gwmpas y ddinas, bwyd bendigedig a chyngerdd Bob Dylan, oedd yn anhygoel. Ac er fy mod i’n gweld Cymru fel “adra”, mor braf oedd dathlu fy hunaniaeth Eidalaidd a chlywed geiriau caredig iawn sy’n lleisio hanes fy nheulu. A’r uchafbwynt, wrth gwrs, oedd dod â chymysgedd o Eidaleg a Chymraeg i strydoedd Trastevere!