Mae fersiwn newydd o’r llyfr i ddysgwyr Cymraeg Welcome to Welsh wedi cael ei gyhoeddi gan Y Lolfa.

Mae hi’n 40 mlynedd ers i’r awdur Heini Gruffudd ysgrifennu’r llyfr. Mae Heini Gruffudd yn athro, awdur a chyfieithydd. Mae o wedi bod yn dysgu Cymraeg i blant ac oedolion ers tua 50 mlynedd.

Roedd o wedi ysgrifennu Welcome to Welsh yn 1984. Cafodd 70,000 o gopïau o’r llyfr eu gwerthu.  Mae’r llyfr nawr wedi cael ei ail-ddylunio a’i foderneiddio.

Heini Gruffudd, awdur Welcome to Welsh

“Mae 40 mlynedd wedi hedfan! Bydden i byth wedi meddwl y byddai’r llyfr mor boblogaidd nôl yn 1984. Roedd y gramadeg, y straeon a’r sgyrsiau angen eu diweddaru, ac mae hiwmor wedi newid. Mae llwyddiant deunyddiau ar gyfer dysgwyr yn dangos bod yna ddymuniad i weld y Gymraeg fel iaith sydd yn cael ei siarad. Rwy’n gobeithio y bydd y fersiwn yma dal yn bodoli ar ôl i fi fynd!” meddai Heini Gruffudd, sy’n dod o Abertawe.

‘Clasur go iawn’

Mae’r llyfr wedi cael ei rannu yn 16 uned. Mae stribedi cartŵn gan y dylunydd Osian Roberts. Maen nhw’n helpu gyda strwythur brawddegau a gramadeg. Mae adran geiriadur yng nghefn y llyfr a ffeiliau sain MP3 am ddim sy’n cyd-fynd gyda’r gwersi.

Carolyn Hodges ydy Pennaeth Cyhoeddi Saesneg Y Lolfa. Mae hi’n dweud: “Mae’r argraffiad gwreiddiol yn glasur go iawn. Mae wedi helpu degau o filoedd o ddysgwyr gymryd eu camau cyntaf ar y daith o ddysgu Cymraeg. Mae’r argraffiad yma yn adeiladu ar y llwyddiant hwn.”