Bydd Noel Mooney, Prif Weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru, yn cynnal cyfweliad Cymraeg yn Tafwyl y penwythnos hwn.

Bydd yr ŵyl ym Mharc Bute yng Nghaerdydd y penwythnos hwn (Gorffennaf 15 a 16).

Trwy bartneriaeth rhwng Cymdeithas Bêl-droed Cymru a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, mae Noel Mooney yn dysgu Cymraeg ers dechrau’r flwyddyn.

Mae Noel Mooney yn dod o Iwerddon yn wreiddiol.

Mae’r tiwtor Aron Evans o Gaerdydd wedi bod yn gweithio gyda chwaraewyr a staff, ac yn rhoi gwersi un-i-un iddo fe.

Mae’r Gymdeithas Bêl-droed yn hybu cyfleoedd i ddysgu’r Gymraeg i gefnogwyr a staff.

Bydd Aron Evans yn holi Noel Mooney yn y Babell ‘Llais’ yn Tafwyl am 3.15pm ar ddydd Sul.

Bydd Dona Lewis, Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, yn siarad am y bartneriaeth.

‘Dw i’n edrych ymlaen’

“Dw i’n edrych ymlaen at sgwrsio yn Gymraeg yn Tafwyl,” meddai Noel Mooney.

“Mae’r Gymraeg yn rhan fawr o’n byd pêl-droed, a dw i’n hapus iawn i ddechrau dysgu’r iaith.

“Mae’r bartneriaeth gyda’r Ganolfan, a chefnogaeth Aron, yn helpu ni i ddefnyddio mwy o’r iaith a thynnu sylw at y cyfleoedd i ddysgu a mwynhau’r Gymraeg.”