Pawlie dw i – athro peirianneg, cyfansoddwr, cerddor, teithiwr, a dysgwr Cymraeg ers y llynedd. Croeso i fy ngholofn gyntaf i Lingo360.
Dw i’n edrych ymlaen at ddod â straeon, syniadau, a synfyfyrion am ddysgu Cymraeg yn America, teithio o gwmpas Cymru (a thu hwnt), darganfod cerddoriaeth Cymraeg, mwynhau llyfrau Cymraeg, ac unrhyw beth arall sy’n ddiddorol (gobeithio!) i ddarllenwyr Lingo360. Os oes unrhyw bynciau fysech chi’n hoffi awgrymu, mae croeso i chi adael neges i fi yn y sylwadau ar waelod y golofn.
Felly dyma ychydig o fy hanes…
Ces i fy ngeni yn Efrog Newydd, ond fy magu yn Lloegr – felly mae gyda fi ddinasyddiaeth ddeuol, a dw i’n hapus iawn am hynny. Wnes i ddod i Galiffornia yn 1984 i fynd i’r Brifysgol yn Santa Barbara. Y bwriad oedd gweithio yma am ychydig o flynyddoedd, ond dw i’n dal yma ar ôl bron pedwar degawd. Mae’r amser wedi hedfan! Sawl blwyddyn yn ôl, dwedodd ein ffrind Joan (sy’n wreiddiol o Bontycymer yn ne Cymru) wrtha’i y gallwn i gael Pasbort Prydeinig. Roedd Joan yn iawn (fel arfer), felly ces i fy mhasbort Prydeinig yr haf diwetha’. Ar y dudalen gynta’ dwedodd e “British Passport,” ac o dan hynny, “Pasbort Prydeinig.” Felly ro’n i’n meddwl, “Os oes gyda fi basbort Prydeinig, dylwn i ddysgu Cymraeg!” Dechreuais i ddysgu Cymraeg yn fuan ar ôl hynny, a dw i ddim wedi edrych yn ôl.
Dw i’n teimlo bod ffenest i fyd arall wedi cael ei hagor i fi, a dw i’n cael amser anhygoel yn dysgu’r iaith.
Dros y flwyddyn ddiwetha’, dw i wedi cwblhau’r cwrs Mynediad gyda’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Ar yr un pryd, ro’n i’n gweithio drwy eu llyfrau Sylfaen a Chanolradd ar ben fy hun. Ro’n i hefyd yn defnyddio’r adnoddau digidol anhygoel sydd ar eu gwefan (dysgucymraeg.cymru). Gorffennais i Duolingo dros y Nadolig. Wedyn dechreuais i chwilio am lyfrau, cerddoriaeth, a gwefannau (fel Lingo360!) i fwynhau a gwella fy Nghymraeg. Ar hyn o bryd, dw i’n paratoi i ddechrau cyrsiau Sylfaen a Chanolradd rhithiol (naw mis o ddosbarthiadau dros Zoom) ym mis Medi.
Gan fy mod i yn America, wrth gwrs, does dim siaradwyr Cymraeg i gwrdd â nhw wyneb yn wyneb. Felly, rhaid i fi fod yn greadigol a defnyddio’r we. Dwi’n prynu llyfrau a cherddoriaeth Gymraeg, ac yn cofrestru ar-lein gyda S4C a Radio Cymru, ac ati. Diolch byth am ffrydio! Mae’r we wedi newid y ffordd ‘dyn ni’n gweithio, cadw mewn cysylltiad gyda theulu a ffrindiau, a – diolch byth – astudio! Roedd fy nosbarth Mynediad yn ardderchog drwy Zoom, a dw i wedi gwneud ffrindiau am oes drwy’r dosbarth yna. Heb y we, basai’n amhosib i ddysgu Cymraeg mor gyfleus o bell.
Dw i wedi dychwelyd yn ddiweddar o wyliau tair wythnos yng Nghymru. Wnes i gwympo mewn cariad gyda’r lleoedd, y bobl, a’r diwylliant, felly dw i wedi bwcio fy nhaith nesa’ i Gymru yn y gwanwyn 2024. Mae hyn yn cynnwys cwrs preswyl yn Nant Gwrtheyrn. Yn fy “amser sbâr” dw i yn y broses o recordio cân yn Gymraeg (i’w rhyddhau eleni), tra’n parhau i ddarllen, gwrando, a gwylio cymaint o bethau Cymraeg ag y galla’i – i wella fy Nghymraeg a chadw’r ffenest yna ar agor led y pen!
Gobeithio gwnewch chi ymuno efo fi yn fy ngholofn nesa!