Dach chi’n hoffi ysgrifennu creadigol? Dach chi’n hoffi darllen llyfrau Cymraeg? Mae cyfle i chi fwynhau’r ddau beth yma yn ystod Gŵyl Ddarllen Amdani eleni.

Mae’r ŵyl yn dechrau heddiw (Dydd Llun, 27 Chwefror) tan 3 Mawrth. Mae’r ŵyl rithiol yn dathlu’r llyfrau i ddysgwyr ‘Amdani’.

Bydd gweithdy ysgrifennu gyda’r awdures Bethan Gwanas yn rhan o’r ŵyl. Mae hi wedi ysgrifennu llawer o lyfrau. Mae hi wedi ysgrifennu llyfrau i blant, pobl ifanc ac oedolion o bob oed, a llawer o lyfrau i ddysgwyr Cymraeg – fel ei chyfres boblogaidd Blodwen Jones. Ei llyfr diweddaraf ydy Prawf Mot. Mae Bethan yn byw yn Rhydymain yng Ngwynedd.

Bydd y gweithdy ysgrifennu gyda Bethan yn cael ei gynnal nos Fawrth, 28 Chwefror am 7 o’r gloch, i ddysgwyr ar lefel Canolradd, Uwch a Gloywi.

Mae Bethan Gwanas wedi bod yn ateb cwestiynau Lingo360.

Bethan, sut fath o bethau fyddwch chi’n dysgu yn y gweithdai? 

Mi fydd y dysgwyr yn rai lefel Canolradd ac Uwch, felly yn eitha’ da o ran geirfa a gramadeg, ond efallai y bydd rhai yn swil a dihyder. Mi fydda i’n dechrau’n araf bach efo geiriau unigol, ac yn chwarae efo’r geiriau hynny. Mi fydda’i yn gofyn i’r criw feddwl y tu hwnt i’w geirfa arferol ac i feddwl am eiriau syml, cyfarwydd mewn ffordd wahanol. Dw i wedi benthyca/dwyn tasg wych gan yr awdur Sarah Reynolds, un o’r enw ‘Tabŵ’. Mae’n gweithio’n dda iawn wyneb yn wyneb. Mi fydd raid i mi ei newid ychydig ar gyfer Zoom!

Wedyn mae gen i dasg efo lluniau, yna cymeriadau. Dw i’n gobeithio y bydd y criw yn mwynhau chwarae efo geiriau a syniadau ac yn teimlo’n fwy hyderus i sgwennu’n greadigol yn Gymraeg.

Beth fysach chi’n dweud wrth rywun sydd ddim yn teimlo’n hyderus i ddechrau ysgrifennu?

Sgwennwch beth bynnag, a pheidio ei ddangos i neb nes byddwch chi’n barod.

Pan dach chi’n dechrau ysgrifennu llyfr, be sy’n dod gynta’, y stori neu’r cymeriadau?

Mae’n wahanol bob tro, ond dw i angen rhyw fath o stori neu gefndir cyn dechrau dychmygu’r cymeriad fel arfer. I mi, yr hwyl ydi darganfod a dod i nabod y cymeriad wrth sgwennu.

Pa mor bwysig ydy hi i annogdysgwyr Cymraeg i ysgrifennu a darllen?  

I’r rhai fel fi, sy’n mwynhau sgwennu a darllen – pwysig dros ben! Ac i’r rhai sydd ddim mor hoff o hynny, dw i’n mwynhau ceisio codi eu hyder a dangos nad oes raid i ddarllen neu sgwennu fod yn ddiflas nac yn anodd nac yn rhy academaidd. Sgwennwch be dach chi isio’i ddarllen!

Oes angen mwy o lyfrau yn benodol ar gyfer dysgwyr?

Oes, mae dysgwyr yn llyncu llyfrau. Yn y dyddiau cynnar, mae’n help mawr iddyn nhw gael rhai gyda’r patrymau maen nhw’n eu hadnabod, geirfa ar gyfer unrhyw eiriau anodd ac ati. Mae’n bendant yn rhoi hyder iddyn nhw symud ymlaen at y lefel nesaf. Mae trafod y llyfrau efo darllenwyr eraill yn hwyl ac yn ddifyr. Dw i wedi addo sgwennu un lefel Mynediad ar ôl bod ym Mhatagonia (mae ’na lawer iawn o ddysgwyr Cymraeg yno fel mae’n digwydd) ond hyd yma, y cwbl dw i wedi ei sgwennu ydi ‘Pennod 1.’ Efallai y bydd y gweithdy yma yn fy ysbrydoli i!

Mwy am yr ŵyl  

Bydd y gweithdy ysgrifennu gyda Bethan Gwanas nos Fawrth, 28 Chwefror am 7 o’r gloch, i ddysgwyr ar lefel Canolradd, Uwch a Gloywi.

Bydd Sesiwn Holi gyda Siôn Tomos Owen nos Lun, 27 Chwefror am 7 o’r gloch, i ddysgwyr ar lefel Canolradd, Uwch a Gloywi.

Mae’r ŵyl yn cael ei threfnu gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, ac yn cael ei chynnal rhwng 27 Chwefror  a 3 Mawrth.

Mae cystadleuaeth ysgrifennu stori lefel Mynediad hefyd yn cael ei chynnal fel rhan o’r ŵyl a bydd y storïau gorau yn cael eu cyhoeddi ar Facebook ac ar Lingo360 yn ystod yr ŵyl.  Thema’r gystadleuaeth ydy ‘Y Gwanwyn’.

Bydd storiau ar gyfer dysgwyr yn cael eu cyhoeddi bob dydd ar wefan golwg360 a lingo360.