Dych chi’n hoffi canu? Dych chi’n hoffi canu caneuon Cymraeg? Os dych chi, mae cyfle i ganu mewn bŵth carioci yn stondin S4C yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Moduan.
Mae sianel carioci Gymraeg newydd wedi cael ei lansio yn yr Eisteddfod ar safle YouTube y gyfres Noson Lawen.
Bydd dewis o 20 o ganeuon mwyaf poblogaidd Cymru ar y sianel. Maen nhw’n cynnwys clasuron fel Yma o Hyd, Calon Lân, Anfonaf Angel, a Strydoedd Aberstalwm.
Roedd y grŵp gwerin Bwncath wedi lansio’r sianel ym mhabell S4C yn yr Eisteddfod Genedlaethol, ddydd Sul (Awst 6).
Yr wythnos yma yn yr Eisteddfod bydd croeso i bawb ddod i babell S4C i ganu rhai o’u hoff ganeuon yn y bŵth.
Cwmni Da sy’n cynhyrchu Noson Lawen. Roedd y gyfres yn dathlu ei phen-blwydd yn 40 oed y llynedd.
Noson Lawen yw’r rhaglen adloniant ysgafn sydd wedi rhedeg hiraf ar deledu yn Ewrop. Mae’r gyfres hefyd yn dathlu’r ffaith bod fideos ar ei sianel YouTube wedi cael eu gwylio 10 miliwn o weithiau.
Olwen Meredydd ydy Cynhyrchydd Noson Lawen. Mae hi’n dweud: “Noson Lawen yw un o’r sianeli YouTube Cymraeg mwyaf poblogaidd yn y byd. Roedden ni’n cael ceisiadau o hyd am eiriau i’r caneuon. Dyna pam wnaethon ni greu’r sianel Carioci.
“’Da ni’n gobeithio y bydd yn adnodd i gantorion ifanc ddysgu caneuon ar gyfer cyngherddau, clyweliadau a chystadlaethau; cyfle i ddysgwyr Cymraeg ymarfer drwy gyfrwng cân a chyfle i bawb fwynhau canu carioci Cymraeg mewn partïon, priodasau, nosweithiau cymdeithasol, yn y dafarn neu hyd yn oed adre’ o flaen y drych!
“Bydd dewis o ugain cân i ddechrau ond y gobaith yw ychwanegu mwy. Byddwn ni’n annog pobl i gysylltu gydag awgrymiadau o ganeuon yr hoffen nhw glywed. Bydd blwch ceisiadau yn y bŵth carioci fydd yn stondin S4C yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Dewch â’ch awgrymiadau, ac i ganu yn y bŵth hefyd wrth gwrs!”