Ar ôl pythefnos brysur yn ystod fy nhaith drwy dde a gorllewin Cymru, ro’n i angen ymlacio erbyn i fi gyrraedd y gogledd.

Roedd fy ffrindiau Cymreig wedi awgrymu’r rheilffordd hanesyddol fel ffordd i fwynhau’r tirlun, golygfeydd, diwylliant, a hanes Cymru wrth ymlacio mewn steil. Roedd hyn yn swnio’n berffaith ar ôl dringo mynyddoedd, heicio ar hyd llwybrau’r arfordir, a gyrru bron i 1,500 milltir yn ystod fy nhaith erbyn hynny.

Mae yna rywbeth arallfydol am deithio ar drenau clasurol – yn stemio drwy dirluniau prydferth gyda dim byd i wneud heblaw ymlacio, mwynhau’r olygfa, a gwrando ar sŵn yr injan.

Yng ngeiriau’r awdur plant o America, Elisha Cooper: “Mae’r trên yn fyd bach yn symud trwy fyd mwy.”

Injan stem ym Mlaenau Ffestiniog

Dw i’n cytuno.

Soniodd ychydig o ffrindiau am Reilffordd Ffestiniog, sy’n rhedeg trenau stêm hanesyddol yn Eryri.

Roedd gyda fi ddiddordeb yn syth! Yn America, mae rheilffyrdd cul hanesyddol sy’n rhedeg injans stêm rhwng Silverton a Durango (yng Ngholorado), o gwmpas ardal Yosemite (yng Nghaliffornia), trwy Sumpter Valley (yn Oregon), ac ardaloedd eraill.

Mae’r rhan fwya’ o’r cledrau cul yn America’n dair troedfedd o led. Ond dim ond dwy droedfedd yw lled cledrau Rheilffordd Ffestiniog (un droedfedd 11 ½ modfedd, i fod yn hollol gywir). Dysgais fod hyn yn eithaf anarferol.

Dysgais i hefyd taw Cwmni Rheilffordd Ffestiniog yw’r cwmni reilffordd hynaf yn y byd i oroesi. Waw. Ac mae’r rheilffordd wedi sicrhau Safle Treftadaeth y Byd UNESCO fel rhan o Dirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru. Felly roedd gyda fi lot o ddiddordeb i’w gweld – a theithio arni!

Cafodd Rheilffordd Ffestiniog ei hadeiladu yn yr 1830au cynnar, a’i hagor yn 1836. Yn wreiddiol, y pwrpas oedd cludo llechi o chwareli ym Mlaenau Ffestiniog i lawr i Borthmadog – lle cafodd y llechi eu llwytho ar longau oedd yn eu cludo o gwmpas y byd. Arafodd y busnes llechi yn raddol, nes i fwyngloddio ddod i ben yn 1946 ar ôl diwedd yr Ail Ryfel Byd.

Cafodd y rheilffordd ei hadnewyddu o 1951 i 1980, diolch i ysbrydoliaeth Alan Pegler, a oedd yn ffan fawr o’r trenau. Roedd Alan Pegler hefyd wedi achub trên y “Flying Scotsman” rhag cael ei sgrapio yn y chwedegau. Diolch yn fawr, Mr Pegler!

Cafodd Rheilffordd Ffestiniog ei hailagor yn llawn yn 1982.

Gorsaf Blaenau Ffestiniog

‘Cludo ymwelwyr yn lle llechi’

Ond nawr, wrth gwrs, mae’r rheilffordd yn cludo ymwelwyr yn lle llechi. Er mai dim ond 13½ milltir ydy’r daith, mae llawer i weld ar hyd y ffordd. Mae pwyntiau o ddiddordeb yn cynnwys y Cob ym Mhorthmadog (sarn sy’n croesi’r Traeth Mawr), gorsafoedd hanesyddol ym Minffordd, Penrhyn, Tan-y-Bwlch, Dduallt, Tanygrisiau, a mwy. O, ac wrth gwrs y golygfeydd anhygoel dros y mynyddoedd a’r trefi, a llefydd hanesyddol ar hyd y ffordd!

Mae Cwmni Rheilffordd Ffestiniog yn cynnig ychydig o opsiynau teithio, sy’n para rhwng dwy a saith awr – mae’n dibynnu faint o amser sy gyda chi. Dewisais drên “Ysbryd y Mynydd” i fwynhau taith dair awr o Borthmadog i Flaenau Ffestiniog ac yn ôl, gyda hanner awr ym Mlaenau Ffestiniog.

Penderfynais brynu sedd yn y cerbyd “Pullman” ffansi ar flaen y trên, i gael mwy o le i eistedd ac ymlacio. Roedd yn benderfyniad da.

Roedd y cerbyd yn gyfforddus iawn gyda seddi ardderchog, byrddau mawr, a dim ond ychydig o deithwyr eraill.

O’r foment roedd y trên wedi gadael yr orsaf ym Mhorthmadog, ces i fy nghludo i fyd arall, heddychlon, a dim ond sŵn yr injan stêm – yr holl ffordd i Flaenau Ffestiniog.

 

Ar ôl i Ysbryd y Mynydd gyrraedd yr orsaf, cerddais ar hyd y platfform i weld yr injan yn agosach, a siarad â’r peirianwyr, ac ymestyn fy nghoesau. Roedd yn anhygoel i edmygu’r injan stêm glasurol mor agos.

Roedd y daith yn ôl i Borthmadog yn ymlaciol iawn.

Cwympais i gysgu am sbel, a dw i’n cofio breuddwydio am hanes yr ardal, trenau stêm yr 1800au, a’r bobl oedd wedi achub y rheilffordd eithriadol hon drwy eu gwaith adnewyddu.

Pan ddeffrais, synfyfyriais eto am yr holl bethau oedd wedi dod â fi i Gymru, i Eryri, ac i Reilffordd Ffestiniog yn y foment berffaith yna.

Teithiwr hapus ar y tren

Yn ôl ym Mhorthmadog, cofiais eiriau Elisha Cooper. Roedd Ysbryd y Mynydd yn wir fel byd bach yn symud trwy fyd mwy.

Byd heddychlon ac ymlaciol.

Ro’n i angen hynny.