Dach chi’n hoffi darllen llyfrau Cymraeg? Dach chi’n hoffi cael sgwrs a gofyn cwestiynau? Mae cyfle i chi holi Siôn Tomos Owen yn ystod Gŵyl Ddarllen Amdani 2023 heno.

Mae’r ŵyl yn dechrau heddiw (Dydd Llun, 27 Chwefror) tan 3 Mawrth. Mae’r ŵyl rithiol yn dathlu’r llyfrau i ddysgwyr ‘Amdani’ ac yn annog dysgwyr i fwynhau defnyddio eu Cymraeg trwy ddarllen llyfrau, cylchgronau neu wefannau.

Mae Siôn Tomos Owen yn arlunydd, yn gyflwynydd teledu a radio, yn awdur, a bardd. Mae e’n byw yn y Rhondda. Bydd Sesiwn Holi ac Ateb gyda Siôn heno (nos Lun, 27 Chwefror) am 7 o’r gloch, i ddysgwyr ar lefel Canolradd, Uwch a Gloywi.

Mae Lingo360 wedi bod yn gofyn rhai cwestiynau i Siôn cyn y digwyddiad heno.

Siôn, dych chi’n gwneud llawer o bethau. Dych chi’n arlunydd, yn gyflwynydd teledu a radio, yn awdur, a bardd – beth sy’n rhoi’r mwya’ o bleser i chi?

Arlunio a sgwennu yn bendant.  I fod yn onest, dw i ddim yn rhy hoff o wylio fy hunan ar y teledu o gwbl. Dw i dal yn synnu mod i ar y teli o gwbl. Ond dw i yn mwynhau’r ffilmio a dysgu am wahanol lefydd dros Gymru gyda Cynefin [rhaglen ddogfen ar S4C] a’r ymateb i fy ngwaith creadigol ar raglenni eraill.  Ond dw i wastad mwyaf hapus pan dw i’n creu pethau, darlunio a sgwennu sgriptiau a straeon, er mae’r bywyd yna yn gallu bod tipyn bach yn unig weithiau.

Dych chi wedi ysgrifennu llyfr ar gyfer dysgwyr – Y Fawr a’r Fach- Straeon o’r Rhondda. Pa mor bwysig ydy darllen pan dych chi’n dysgu Cymraeg?

Pan chi’n sgwennu unrhyw beth, mae darllen yn bwysig, dw i byth mwy na 2 metr i ffwrdd o lyfr.  Mae’n gyrru fy ngwraig yn bananas achos mae tŵr o lyfrau ym mhob ystafell yn y tŷ.  Dw i fel Ceridwen o’r storis Rala Rwdins! Ond i ddysgwyr, dw i’n credu bod clywed a siarad yr iaith yn help i ddysgu, ond darllen a gwrando ar gerddoriaeth sydd yn helpu i ddechrau mwynhau’r iaith. Mae’n agor byd bach gwahanol o adloniant i’r cylchoedd dysgu.

Dych chi’n credu bod digon o lyfrau ar gyfer dysgwyr neu oes unrhyw genres dych chi’n credu mae angen mwy ohonyn nhw?

Dw i’n credu fod y gyfres Amdani yn gyfle gwych i gael cymysg o wahanol fathau o lyfrau i ddysgwyr ond mae angen mwy (fel dw i’n gwybod, gan bo fi wedi bod yn ceisio sgwennu’r llyfr ers pedair blynedd!).  Pan dych chi’n sgwennu llyfr i ddysgwyr yr amrywiaeth o destunau a genres sy’n helpu yn fy marn i.  Y prif beth dw i’n cael fel ymateb i’n llyfrau i yw’r hiwmor, mae dysgwyr yn hoffi chwerthin yn amlwg!

Roeddech chi’n arfer gweithio mewn ysgol yn y Cymer – sut mae eich gyrfa wedi newid ers hynny?

Mae fy mywyd wedi newid yn gyfan gwbl ers gadael yr ysgol yn 2015. Dw i wir yn mwynhau beth dw i’n gwneud ac yn blês iawn i allu dewis fy ngwaith erbyn hyn, o ddarlunio llyfrau i blant, sgwennu sgriptiau teledu, gweithio gyda grwpiau iechyd meddwl yn y goedwig, i grwydro Cymru yn adrodd straeon i’r camera.  Hefyd ers hynny dw i nawr yn dad i ddwy ferch fach ddoniol a chreadigol iawn.  Dw i ddim am fod yn negyddol am weithio mewn ysgol ond fy hoff ran o’r diwrnod yw gweld y disgyblion yn cerdded heibio ein ffenest ar y ffordd i’r “Comp” ond yn gwybod fy mod i ddim yn gorfod gwisgo tei a brysio i fod ar amser rhywle bellach. Dw i’n gallu cerdded y merched i’r ysgol gynradd ac yna dod nôl am espresso, a dechrau gweithio ar brosiect creadigol arall yn wên o glust i glust.

Mae eich gwreiddiau chi yn ddwfn yn y Rhondda – pa mor bwysig ydy’r ardal i chi?

Dw i’n meddwl y byd o’r Rhondda ac o Dreorci yn enwedig.  Dw i mor lwcus i allu cael byw yn lle ges i fy magu a lle wnes i gwrdd a fy ngwraig hefyd.  Dw i dal yn amddiffynnol iawn o unrhyw un sy’n ceisio rhedeg y lle lawr ond hefyd, ers y cyfnod clo, mae nifer fawr wedi dechrau ymweld â’r ardal a deffro i ba mor brydferth yw’r cwm. Mae’n gyfrinach fach sydd bellach yn lledu. Er bo fi’n hoffi’r syniad o bobl yn gweld y lle gyda llygaid ffres, dw i hefyd yn wyliadwrus o sut mae prisiau tai wedi ffrwydro a’r niferoedd o geir mawr sy’n dechrau troi i fyny ar benwythnosau.

Bydd Sesiwn Holi gyda Siôn Tomos Owen nos Lun, 27 Chwefror am 7 o’r gloch, i ddysgwyr ar lefel Canolradd, Uwch a Gloywi.

Mae’r ŵyl yn cael ei threfnu gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

Bydd erthyglau bob dydd ar gyfer dysgwyr ar wefan golwg360 a lingo360.