Dach chi’n hoffi ysgrifennu, gwneud celf a chrefft, perfformio neu goginio? Beth am gymryd rhan yn Eisteddfod y Dysgwyr Gogledd Ddwyrain eleni? Mae’r Eisteddfod yn cael ei chynnal ar ddiwedd mis Mawrth. Os dach chi’n dysgu Cymraeg beth am roi tro arni?

Yma mae Lowri Ellis, tiwtor Cymraeg gyda Popeth Cymraeg yn dweud mwy am Eisteddfod y Dysgwyr.

Lowri, be’ sy’n digwydd?

Mae Eisteddfod y Dysgwyr yn cael ei chynnal bob Gwanwyn. Mae’r Eisteddfod ar gyfer dysgwyr sy’n dysgu Cymraeg gyda Coleg Cambria a Popeth Cymraeg. Mae llawer o gystadlaethau y gallwch chi gymryd rhan ynddyn nhw. Mae yna gystadlaethau gwaith cartref, perfformio, celf, crefft a choginio. Mae dwy brif wobr yn yr Eisteddfod, sef cystadleuaeth Y Gadair a’r Tlws Rhyddiaith. Bydd enillwyr y cystadlaethau hyn yn cael tlws llechen arbennig.

Eisteddfod y Dysgwyr – y gystadleuaeth gelf yn 2020

Pryd mae’r Eisteddfod?

Mae’r Eisteddfod yn cael ei chynnal eleni ar nos Iau, 30 Mawrth am 7 o’r gloch yr hwyr.

Lle fydd yr Eisteddfod yn cael ei chynnal?

Eleni, dan ni’n gyffrous iawn. Bydd yr Eisteddfod yn cael ei chynnal yn y cnawd am y tro cyntaf ers 2020. Byddwn yn dod at ein gilydd yn Neuadd Glanrafon, Campws Iâl, Coleg Cambria, Wrecsam.

Pwy sy’n gallu cystadlu?

Er mwyn gallu cystadlu, mae’n rhaid i chi fod yn dysgu Cymraeg neu wedi dilyn cwrs atodol yn y flwyddyn academaidd yma gyda Coleg Cambria neu Popeth Cymraeg. Os dach chi eisiau cystadlu, gofynnwch i’ch tiwtor Cymraeg am fwy o fanylion.

Mae croeso cynnes i bawb ddod i’r Eisteddfod, os dach chi’n siaradwr Cymraeg rhugl, yn diwtor, yn ddysgwr neu os dach chi’n meddwl dechrau eich taith o ddysgu Cymraeg. Mae hi’n siŵr o fod yn noson llawn hwyl.

Am ragor o fanylion am yr Eisteddfod cysylltwch â learncymraeg@cambria.ac.uk

Eisteddfod y Dysgwyr – y gystadleuaeth goginio yn 2020