Gwilym Morgan oedd wedi ennill Medal y Dysgwyr Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd eleni.

Ei athrawes ydy Rebecca Morgan. Roedd hi wedi ennill Medal y Dysgwyr ei hun yn 2018. Roedd yn brofiad arbennig iawn iddi pan gafodd ei gyhoeddi mai un o’i disgyblion oedd wedi ennill Medal y Dysgwyr.

Mae Rebecca yn bennaeth y Gymraeg yn Ysgol Uwchradd Esgob Llandaf yng Nghaerdydd. Dechreuodd weithio yno yn 2017. Dyma’r un flwyddyn yr oedd Gwilym wedi dechrau ym Mlwyddyn 7.

Mae Rebecca’n dweud: “Dw i wedi dysgu Gwilym ers pan oedd ym Mlwyddyn 7 ac ro’n i’n gallu dweud yn syth fod rhywbeth arbennig amdano. Ro’n i’n gallu gweld fod ei ymennydd yn gweithio’n dda gydag ieithoedd ac roedd yn gallu pigo pethau lan mor gloi.

“Mae cael rhywun sydd yn dwli ar dy bwnc yn deimlad arbennig iawn. Pan ro’n i’n ei wylio yn yr Eisteddfod yn siarad gyda phobl, a gweld sut mae ei hyder wedi datblygu dros y blynyddoedd, roedd yn wych. Roedd y compliment mwyaf allwn i ei gael.”

‘Cefnogol’

Fe ddysgodd Rebecca y Gymraeg yn yr ysgol, ac mae’n dal i gofio’r gwersi Lefel A, a’r brwdfrydedd oedd gan ei hathrawes dros yr iaith.

“Ces i athrawon Cymraeg anhygoel pan ro’n i’n ddisgybl yn Ysgol Gyfun Pencoed. Ro’n nhw mor gefnogol a dw i nawr yn ceisio efelychu’r hyn ges i gyda’r disgyblion yn Ysgol Esgob Llandaf.”

Mae Gwilym yn gobeithio mynd i’r brifysgol i astudio Cymraeg a Ffrangeg, ac eisiau gweithio fel athro mewn ysgol uwchradd.

“Gwil yw’r disgybl cyntaf hyd yn hyn sydd eisiau cario mlaen â’r Gymraeg fel swydd. Mae’n deimlad arbennig iawn pan fydd rhywun eisiau cario mlaen gyda’r Gymraeg fel gyrfa.

“Mi ges i gerdyn ganddo ar ôl yr Eisteddfod yn dweud ‘dw i’n gobeithio dweud amdanat ti wrth fy nisgyblion i yn y dyfodol’ – ac roedd hynny yn emosiynol iawn!”

Caru ieithoedd

Mae Gwilym yn dod o deulu sy’n caru ieithoedd. Mae ei fam wedi gwneud gradd mewn Ffrangeg ac Almaeneg, ac wedi dysgu Cymraeg ei hun yn ddiweddar. Mae hi nawr yn gweithio fel tiwtor Dysgu Cymraeg.

“Mae Gwilym yn pigo iaith i fyny’n rhwydd ond mae hefyd yn hapus i roi cynnig ar siarad. Mae’n gwybod ei fod yn gwneud camgymeriadau, ond eisiau dysgu ohonyn nhw.

“Ti ddim yn gallu dysgu rhywun i ddwli ar iaith fel mae e’n dwli arni – mae hynny yn rhywbeth naturiol sydd ynddo. Felly gobeithio, yn y dyfodol, y bydd yntau yn athro Cymraeg fydd yn ysbrydoli pobl ifanc i garu ein hiaith arbennig.”

 Mae’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn cefnogi gwobrau Medal y Dysgwyr a Medal Bobi Jones Eisteddfod yr Urdd. Yvon-Sebastien Landais (Seb) o Ddinbych y Pysgod oedd wedi ennill Medal Bobi Jones eleni.