Dych chi’n gwybod am hanes y diwydiant glo yng Nghymru? Roedd wedi cefnogi llawer o gymunedau yng Nghymru pan oedd y diwydiant yn ei anterth. Ond mae wedi gadael cysgod dros lawer o’r cymunedau yna hefyd wrth i’r diwydiant ddod i ben.
Mae llawer o barciau, gwaith celf gyhoeddus ac adeiladau yn talu teyrnged i’r bobl oedd wedi gweithio o dan y ddaear i gloddio am yr “aur du”.
Mae arddangosfa o ffotograffau gan Glwb Camera Maesycwmer yn Sir Caerffili yn edrych ar y diwydiant glo yng Nghymru a beth sydd ar ôl ohono yn ne Cymru.
Mae aelodau’r clwb camera yn ffotograffwyr amatur sy’n cyfarfod bob wythnos. Cafodd Clwb Camera Maesycwmer ei sefydlu ym mis Ebrill 2019. Mae tua 20 o aelodau yn y clwb.
“Gadael ei farc”
Bob blwyddyn mae’r clwb yn dangos ychydig o’r gwaith mae’r aelodau wedi’i gynhyrchu. Eleni, roedd yr aelodau wedi penderfynu cynnal arddangosfa oedd yn edrych ar y diwydiant glo.
Roedden nhw hefyd wedi penderfynu byddai’r lluniau i gyd yn ddu a gwyn, gyda chapsiynau Cymraeg a Saesneg. Mae’r arddangosfa wedi’i hysbrydoli gan eu cadeirydd Haydn Jenkins, a oedd wedi sefydlu’r clwb camera. Roedd e wedi marw cyn iddo weld ei syniad yn cael ei wireddu.
“Mae’r arddangosfa yn edrych ar sut mae glo wedi gadael ei farc ar gymunedau Cymru,” meddai Vimal Madhavan, un o aelodau’r clwb camera.
“Mae’r lluniau i gyd wedi cael eu tynnu yn benodol ar gyfer yr arddangosfa yma. Maen nhw’n amrywio o luniau sydd wedi cael eu tynnu ym mynwent Aberfan i weddillion adeiladau’r hen lofeydd. Mae rhai lluniau yn canolbwyntio ar gofgolofnau i lowyr tra bod lluniau eraill yn ein hatgoffa o’r trasiedi mae rhai teuluoedd wedi ei wynebu oherwydd damweiniau a ffrwydradau yn y pyllau glo.
“Mae’r arddangosfa yma yn ein hatgoffa o’n dyled i genedlaethau’r gorffennol,” meddai.
Bydd yr arddangosfa yn y Tŷ Weindio yn Nhredegar Newydd tan 5 Awst.