Ar fore braf o haul Rhagfyr, ac mewn ymgais i osgoi’r gwaith tŷ, penderfynais fynd am dro bach o gwmpas y pentref lle dwi’n byw. Ac ar hyd y ffordd, wnaeth rhywbeth hollol annisgwyl ddigwydd!

Dychmygwch yr olygfa: rhew ar y dail a’r glaswellt, yr haul yn tywynnu ar Fryniau Clwyd. Y diwrnod gaeafol perffaith i fynd am dro.

Rŵan dychmygwch fi: cot gynnes, het, sgarff a menig, a sach gefn yn llawn llyfrau rhag ofn i’r cyfle godi i eistedd lawr a mwynhau pennod neu ddwy (dach chi byth yn gwybod pryd y gallai’r llecyn darllen perffaith ymddangos o’ch blaen chi pan dach chi’n mynd am dro!).

Y llyfr ro’n i’n bwriadu agor a dychwelyd at oedd Y Cylch gan Gareth Evans-Jones. Dewis da iawn ar gyfer taith gerdded aeafol ac un dw i bendant yn argymell ei ddarllen.

Felly ffwrdd â fi, llyfr yn fy llaw, pan sylwais i ar rywbeth yn yr awyr uwchben. Balŵn aer poeth oedd uwch fy mhen – rhywbeth nad ydw i wedi gweld mor agos o’r blaen. Felly stopiais i edrych ar y balŵn cyn parhau i gerdded. Ac yn fuan wedi hynny, clywais sŵn y balŵn yn dod yn agosach. Cyn dim, wnes i weld y balŵn yn dod i lawr o’r awyr a rhywun yn gweiddi: “Helo! Dach chi’n gallu helpu ni i lanio?!”.

Gan mai fi oedd yr unig berson yn y cae, roedd hi’n amlwg mai efo fi roedden nhw’n siarad. Ond fel dynes reit fach (5  troedfedd a thri chwarter i fod yn fanwl gywir), ro’n i ychydig yn ansicr o sut y byswn i’n gallu helpu! Ond beth bynnag, rhedais draw i helpu. Roedden nhw isio glanio ychydig pellach ymlaen ac roedd rhaid mynd dros berth i wneud hynny. “Dach chi isio neidio i mewn?” meddai’r dyn caredig oedd yn berchen y balŵn. Am gynnig cyffrous! Felly i mewn â fi i’r balŵn.

Ac yn sicr, doeddwn i ddim yn disgwyl cael trip bach mewn balŵn aer poeth y bore hwnnw pan benderfynais i fynd am dro bach. Fel arfer, mae’r holl anturiaethau yn digwydd yn y llyfrau sy’n cadw cwmni i mi ar hyd y ffordd! Ond dyna ni – profiad bach annisgwyl ar fore dydd Gwener. A bore dydd Gwener yma mi fydda’i yn deffro yn Fenis: sgwn i pa fath o anturiaethau fydd yn ein disgwyl? Croesi bysedd mai taith ar gondola sydd nesaf!