Mae’r Ceidwadwyr Cymreig eisiau i Lywodraeth Cymru wneud mwy i hybu‘r defnydd o’r Gymraeg fel iaith bob dydd.

Roedd data’r Cyfrifiad yn 2021 yn dangos bod llai o siaradwyr Cymraeg nawr nag yn 2011.

“Mae’n bwysig iawn, yn enwedig oherwydd canlyniadau siomedig y Cyfrifiad diweddar, ein bod ni’n cymryd camau cadarn i hybu’r defnydd o’r Gymraeg yn ein bywyd bob dydd,” meddai Samuel Kurtz, llefarydd y Gymraeg y Ceidwadwyr Cymreig.

“Mae dwyieithrwydd yn fuddiol i economi Cymru, gan ei fod yn bwynt gwerthu unigryw i’r diwydiannau twristiaeth a lletygarwch.

“Mae siaradwyr di-rif ar draws Cymru yn nodi taw diffyg hyder yw eu prif reswm dros beidio defnyddio’r iaith yn rheolaidd er bod ganddyn nhw ddigon o allu.

“Mae’n hanfodol ein bod yn creu amgylchedd lle gall siaradwyr newydd deimlo’n gyfforddus yn defnyddio brawddegau syml, a lle gall siaradwyr galluog ymarfer eu Cymraeg.

“Dyna pam rydym yn galw ar Lywodraeth Llafur i archwilio cyfleoedd i hybu’r defnydd o’r Gymraeg o ddydd i ddydd fel y gallwn gyfoethogi ein diwylliant ymhellach.”

Y cynnig

Dyma’r cynnig i’r Senedd:

Yn cydnabod Cymraeg 2050: rhaglen waith 2021 i 2026.

Yn mynegi pryder am fod Cyfrifiad 2021 yn dangos bod nifer y bobol sy’n dweud eu bod nhw’n gallu siarad Cymraeg wedi gostwng o fwy nag 20,000.

Yn credu bod y Gymraeg yn ased diwylliannol sy’n dod â llawer o fuddion i Gymru.

Yn cydnabod yr anghyfartalwch o ran hyder ymhlith siaradwyr Cymraeg.

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i archwilio cyfleoedd i ehangu a hybu’r defnydd o’r Gymraeg mewn bywyd bob dydd.