Mae Llenyddiaeth Cymru wedi dweud pwy sydd ar banel beirniaid Llyfr y Flwyddyn 2023.

Mae’r panel Cymraeg eleni’n cynnwys y bardd Ceri Wyn Jones; Megan Angharad Hunter, enillydd Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2021; y cyn-gomisiynydd comedi, awdur a chynhyrchydd Sioned Wiliam; a Savanna Jones, ymddiriedolwr Mudiad Meithrin.

Ar y panel Saesneg eleni mae’r awdur, actores ac enillydd BAFTA Emily Burnett; yr awdur ac athro Emma Smith-Barton; y bardd a golygydd Kristian Evans; a chyn-enillydd categori Llyfr y Flwyddyn, Mike Parker.

Mae Llyfr y Flwyddyn yn wobr sy’n cael ei rhoi bob blwyddyn ac sy’n dathlu llenorion o Gymru sy’n ysgrifennu yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Bydd y beirniaid yn dewis enillwyr mewn pedwar categori – Barddoniaeth, Ffuglen, Ffeithiol Greadigol, a Phlant a Phobol Ifanc. Bydd un o enillwyr y categorïau hyn yn ennill y Brif Wobr, a’r teitl Llyfr y Flwyddyn.

‘Braint’

“Mae’n fraint cael bod yn rhan o unrhyw broses sy’n hyrwyddo a gwobrwyo llenyddiaeth yng Nghymru,” meddai Ceri Wyn Jones.

“Ac mae hynny’n wir yn achos gwobr Llyfr y Flwyddyn, gwobr sy’n dathlu’r ffaith ein bod ni nid yn unig yn genedl o awduron, ond yn genedl o ddarllenwyr hefyd.”

Mae’n “fraint” cael beirniadu’r gystadleuaeth, meddai Savanna Jones.

Ac yn ôl Megan Angharad Hunter, “roedd derbyn y cais i feirniadu Llyfr y Flwyddyn eleni yn sioc hyfryd ac yn anrhydedd llwyr”.