Yr wythnos hon, mae Gŵyl Ddarllen Amdani yn cael ei chynnal. Byddwn ni’n cyhoeddi un stori newyddion bob dydd rhwng Chwefror 27 a Mawrth 3.


Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, wedi cael ei roi o dan fesurau arbennig.

Mae hyn oherwydd pryderon difrifol am berfformiad, arweinyddiaeth a diwylliant bwrdd iechyd y gogledd.

Mae cadeirydd, is-gadeirydd ac aelodau annibynnol y Bwrdd yn camu i’r naill ochr, ac aelodau newydd yn cael eu penodi.

“Mae gen i bryderon difrifol am berfformiad y bwrdd iechyd, a dw i ddim wedi gweld y gwelliant i wasanaethau dw i’n ei ddisgwyl ar gyfer pobol y gogledd,” meddai Eluned Morgan.

“Nawr yw’r amser am arweinwyr newydd i wneud y gwelliannau sydd eu hangen.”

Mae Eluned Morgan wedi penodi nifer o bobol i sicrhau sefydlogrwydd.

Bydd Dyfed Edwards, cyn-arweinydd Cyngor Gwynedd a dirprwy arweinydd Awdurdod Cyllid Cymru, yn arwain fel cadeirydd.

Bydd yn cael ei gefnogi gan Gareth Williams, Karen Balmer a Rhian Watcyn Jones fel aelodau annibynnol interim o’r Bwrdd, a bydd rhagor o bobol yn cael eu penodi dros yr wythnosau nesaf.

Mae Eluned Morgan yn dweud bod “cryn dipyn o anghysondebo ran diogelwch, perfformiad ac ansawdd yn y bwrdd iechyd.