Mae pobl ar draws Cymru wedi bod yn dathlu Dydd Gŵyl Dewi heddiw (Mawrth 1).
Dych chi wedi bod yn dathlu? Dych chi wedi gwisgo cennin Pedr neu gennin? Dych chi wedi cael cawl i fwyta?
Mae llawer o blant ysgol wedi bod yn gwisgo gwisg Gymreig draddodiadol heddiw i ddathlu nawddsant Cymru.
Mae rhai dinasoedd a threfi hefyd wedi cynnal gorymdeithiau.
Roedd tua 520 o blant a’u hathrawon a grŵp o ddysgwr Cymraeg wedi gorymdeithio drwy strydoedd Dinbych heddiw. Roedd llawer o bobl leol wedi dod i wylio hefyd, gyda Band Cambria yn arwain yr orymdaith.
Cafodd y digwyddiad ei drefnu gan Fenter Iaith Sir Ddinbych, Grŵp Cynefin, Cyngor Tref Dinbych ac Urdd Gobaith Cymru gyda chefnogaeth Heddlu Gogledd Cymru.
Dywedodd Ruth Williams o Fenter Iaith Sir Ddinbych: “Rydym yn falch iawn o weld cymaint o blant a phobl ifanc yn ymuno â ni i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi. Mae cefnogaeth yr ysgolion a’u staff i’r dathliad i’w llongyfarch yn fawr.
“Mae nodi Dydd Gŵyl Dewi yn un o uchafbwyntiau ein blwyddyn galendr, ac rydym yn falch o roi’r cyfle i bobl ifanc uniaethu gyda’u treftadaeth, iaith a diwylliant. Roedd y tîm oedd yn rhan o’r trefnu a’n partneriaid wedi mwynhau’r orymdaith yn fawr ac rydym yn ddiolchgar i bawb am eu cefnogaeth. Diolch Dinbych!”
‘Profiad gwerthfawr iawn’
Mae Lowri Ellis yn diwtor Cymraeg gyda Popeth Cymraeg. Dywedodd: “Roedd bore ’ma yn brofiad gwerthfawr iawn i’r dysgwyr.
“Daeth criw dosbarth Mynediad dydd Mercher at ei gilydd i orymdeithio i fyny Stryd y Dyffryn yn Ninbych er mwyn dathlu dydd gŵyl ein nawddsant.
“Roedden ni wedi bod yn brysur yn dysgu caneuon o flaen llaw, fel Yma o Hyd a’r anthem genedlaethol.
“Fe gawsom ni groeso cynnes iawn. Mae’r dysgwyr wedi bod yn ymarfer eu Cymraeg drwy siarad efo pobl leol. Roedden nhw’n teimlo’n falch iawn o allu siarad yn Gymraeg.”