Fel dwedodd y bardd Prudentius: “Mae amynedd yn rhinwedd.”
Pan o’n i’n ifanc, cerddoriaeth oedd fy obsesiwn, a does dim byd wedi newid.
Ces i fy magu yn y saithdegau a’r wythdegau, pan oedd darganfod artistiaid ac albymau newydd yn teimlo fel antur fawr. Roedd fy swydd gyntaf mewn siop gerddoriaeth, felly ro’n i’n lwcus i gael mynediad i albymau newydd pan oedden nhw’n cael eu rhyddhau.
Roedd fy ffrindiau a fi’n treulio oriau (ac oriau!) yn gwrando ar albymau gyda’n gilydd, yn trafod y caneuon, y cerddorion, y geiriau, y recordiadau, y gwaith celf, ac ati. Ro’n ni’n arfer gwrando ar yr albymau o’r dechrau i’r diwedd, a gwrando’n ofalus. Roedd yn brofiad anhygoel bob tro. Ro’n ni’n wrandawyr amyneddgar.
Dw i dal yn gwrando ar albymau fel ‘na, er bod y farchnad gerddoriaeth wedi newid yn llwyr. Oherwydd tempo bywyd modern, mae’r brif gynulleidfa’n canolbwyntio ar senglau yn lle albymau. Ond mae yna artistiaid o hyd sy’n gwneud albymau yn y traddodiad crand yma.
Un albwm sy wedi fy mesmereiddio eleni yw Uwch Dros y Pysgod gan Dafydd Owain.
Yr Albwm
Ces i fy nenu gan y casgliad hyfryd hwn o ganeuon: y cysyniad clyfar, geiriau unigryw, lleisiau personol, trefniannau blasus, naratif llafar a chymysgiadau harddwych.
Mae’r trefniannau’n cael eu hadeiladu o gwmpas gitâr acwstig a phiano, gyda gitâr drydan, bas, drymiau, ac offerynnau eraill sy’n mynd a dod drwy’r albwm. Mae llais Dafydd Owain yn gynnes a phresennol drwy’r albwm. Mae hyn yn berffaith oherwydd mae’r geiriau yn bwysig gydag albymau fel hyn.
Gyda phob gwrandawiad daeth yr albwm fwy a mwy fel gwyliau cerddorol a meddyliol mewn 46 munud. Mae’r ysgrifennu, dawn gerddorol, canu, a chynhyrchiad ar lefel uchel yma. Felly does dim syndod bod Uwch Dros y Pysgod wedi’i enwebu am Albwm Cymraeg y Flwyddyn 2023.
Roedd rhaid i fi ddysgu mwy am yr albwm cyfareddol hwn.
Yng ngeiriau Dafydd Owain ei hun: “Mae’r albwm yn ei chyfanrwydd wedi ei selio ym mhentref dychmygol Uwch Dros y Pysgod ac mae profiadau bywyd yn cael eu datgelu drwy bersbectif trigolion dychmygol y pentref.”
Mae’r trac cyntaf – llai na munud o hyd – yn cyflwyno’r albwm yn berffaith gyda’r naratif llafar yma:
“Draw dros y gorwel, ymhell o’r byd, mae ’na le bychan a chlyd. Lle mae ’na straeon – straeon sydd heb eu dechrau, straeon sydd wedi gorffen, ac ambell stori sydd ar ei hanner. Beth am glywed stori?”
Mae’r trac sy’n dilyn ac sydd a’r un teitl a’r albwm (a’i fideo difyr a swynol) yn adrodd stori am y pentref dychmygol. ‘Dyn ni’n cyfarfod cymeriadau fel Anti Meri ac Wncwl Arthur, ac yn dysgu tipyn am fywyd yno. Ynghyd â’r caneuon Gan Gwaith ac Y Dre, mae’r trac yn agor yr albwm drwy beintio llun – llun sy’n ein gwahodd i ddod yn agosach. Yn ôl Dafydd Owain: “Cân lled-hunan-bortreadol yw Uwch Dros y Pysgod sy’n taro golwg ar fodlonrwydd diniwed plentyndod yn gyfochr â melancoli dryslyd bod yn oedolyn.”
Mae llawer ohonom yn teimlo fel yna ambell waith, dw i’n meddwl.
Mae’r caneuon Neuadd a Penbyliaid yn parhau’r stori ac yn arwain y gwrandäwr at Llongyfarchiadau Mawr a’i threfniant llon sy’n cyferbynnu’r geiriau meddylgar. Mae I’r Tywyllwch yn dod â’r gwrandäwr yn berffaith at Cig a Gwaed yng Nghwm Saiana – sy’n dechrau gyda naratif llafar am fachgen yn y gwely, yn llawn poen ac ing, ac yn parhau gyda phenillionaraf wedi’u canu gan Dafydd Owain, cyn gorffen gyda chytgan optimistaidd: “Cwm Saiana, ga’d i’th galon ddod i setlo…”
Yn ôl Dafydd Owain, cafodd y pentref dychmygol ei ysbrydoli gan raglenni plant Cymraeg fel Joshua Jones a Sam Tân. Meddai Owain: “Roeddwn yn gwylio’r rhaglenni hyn yn ddeddfol fel plentyn, gan gymryd cysur o’u straeon fformiwlâig a’u naratifau naïf. Roedd popeth yn reit hunky-dory yn y bydoedd yma ond, wrth gwrs, nid felly mae bywyd go iawn o reidrwydd.”
Ar ôl dechrau gyda gitâr acwstig ac un llais, mae Annwyl Emyr – uchafbwynt yr albwm i fi – yn adeiladu yn raddol dros bum munud wrth adrodd stori emosiynol, cyn gorffen gyda chytgan fawr.
Mae’r albwm yn dod i ben gyda Cyrraedd, gan gynnwys dim ond gitâr acwstig, naratif llafar, a chwythbrennau. Mae Cyrraedd yn casglu darnau’r stori – yn ffigurol ac yn llythrennol – i esbonio sefyllfa pobl y pentref (ac efallai’r artist ei hun).
Dénouement perffaith.
Y Cynhyrchiad
Cafodd Uwch Dros y Pysgod ei recordio rhwng mis Gorffennaf a mis Rhagfyr 2022 yn Stiwdio Sain (Llandwrog), gyda recordio ychwanegol mewn stiwdio fechan mewn ystafell wely yng Nghaerdydd. Mae rhestr y rhai sy’n chwarae ar yr albwm yn cynnwys Aled Huws (Cowbois Rhos Botwnnog), Osian Williams (Candelas), Gethin Griffiths (Ciwb), Elan Rhys (Plu, Carwyn Ellis a Rio 18), Harri Owain (Rogue Jones), a Beca Davies (cantores opera sy’n storïo ar yr albwm).
Cafodd yr albwm ei chynhyrchu gan Llŷr Pari. Roedd Dafydd Owain wedi cydweithio gydag o ar brosiectau gan gynnwys Palenco a Jen Jeniro. Cafodd ei rhyddhau gan Recordiau I Ka Ching ym mis Mai 2023, ac mae ar gael fel lawrlwythiad digidol a thrwy ffrydio.
Roedd amynedd yn ffactor yn ystod cynhyrchiad yr albwm. Yn ôl Dafydd Owain: “Roeddwn i hanner ffordd drwy recordio’r albwm ac, wrth wrando’n ôl ar y gwaith, doedd y caneuon roeddwn i’n bwriadu eu recordio i orffen yr albwm ddim yn gweithio rhywsut. Felly fe es i ati i gyfansoddi rhyw bedair cân newydd oedd yn teimlo fel eu bod am ffitio’n well o fewn llif yr albwm.”
Ac er bod y sesiynau recordio wedi digwydd yn 2022, cafodd yr albwm ei hysgrifennu dros gyfnod o ddegawd. Meddai Dafydd Owain: “Mae gen i demo o Uwch Dros y Pysgod ar fy nghyfrifiadur a recordiwyd ym mis Awst 2012. Ychydig a wyddwn bryd hynny y byddwn, yn ystod rhyw haf chwyslyd yn 2022, yn recordio’r gân fel y trac teitl ar gyfer fy albwm unigol cyntaf.”
Artist amyneddgar yw Dafydd Owain.
Diolch byth.