Maen nhw’n dweud bod un llun yn werth mil o eiriau. Os yw hynny’n wir, ydy un fideo yn werth miliwn o eiriau?

Dyna sut ro’n i’n teimlo ar ôl i fi wylio’r fideo ar gyfer Uwch Dros y Pysgod gan Dafydd Owain am y tro cyntaf. Y fideo eithriadol yma oedd yr un cyntaf o’r albwm o’r un enw, wedi’i rhyddhau ym mis Mai eleni. Er fy mod i newydd adolygu’r albwm fis diwethaf, ro’n i’n chwilfrydig i ddysgu mwy am y fideo hyfryd hwn.

Ces i fy mesmereiddio gan y fideo, sydd mor unigryw. Mae’r gân (fel yr albwm) yn cael ei gosod mewn pentref dychmygol, ac mae’r fideo yn dangos y pentref i ni: wedi’i adeiladu o gardbord, yn dawel ar yr wyneb, ac yn barod i adrodd straeon y trigolion

Mae’r fideo’n werth o leiaf miliwn o eiriau!

 Roedd Dafydd Owain yn ddigon caredig i ateb fy nghwestiynau i Lingo360:

Pawlie: Llongyfarchiadau ar eich fideo eithriadol, Dafydd! Mae’r pentref dychmygol yn anhygoel, ac yn teimlo fel “cymeriadynddo’i hun yn y fideo. Syniad pwy oedd hyn, a sut oedd y syniad wedi datblygu?

 Dafydd: Diolch! Dw i’n falch iawn dy fod yn hoff o’r pentref.

Mi wnes i gydweithio efo Ynyr Ifan (Lŵp/S4C) a Cai Dyfan ar gysyniad y fideo. Roeddwn i’n gwybod mod i eisiau pentref o ryw fath, oherwydd pwnc y gân, ac roeddwn i eisiau chwarae gyda sgêl yr holl beth.

Cai Dyfan oedd wedi cael y syniad fod fy mhen i’n codi allan o’r pentref ac roeddwn i’n hoff iawn o’r syniad gan mai pentref dychmygol (hynny yw, yn fy mhen!) ydi hi.

Mae lot o’r gân hefyd yn seiliedig ar y cysyniad o ddiniweidrwydd plentyndod ochr yn ochr â realiti bod yn oedolyn, felly roeddwn i’n awyddus i greu byd lle y gallwn i ymgolli ynddi’n llwyr a bron cael fy ‘llyncu’ gan y byd hynci-dori ’ma.

Pentref dychmygol Uwch Dros y Pysgod

Pawlie: Pwy adeiladodd y pentref, a gallech chi ddisgrifio’r broses? Unrhyw straeon diddorol yn ystod adeiladu’r set?

Cai ac Efa Dyfan (brawd a chwaer!) adeiladodd y set o’r pentref. Maen nhw’n hynod dalentog ag yn ddylunwyr set heb eu hail!

Doeddwn i ddim yno yn eu gweld nhw’n adeiladu’r set, ond dw i wedi clywed eu bod nhw, fwy na heb, wedi adeiladu’r holl beth ar fwrdd cegin eu cartref teuluol. Mae’n debyg fod unrhyw gynhwysydd neu botyn yn cael eu dwyn o’r bocs ailgylchu i greu’r set. Dywedodd Cai stori wrtha’i fod eu tad, sy’n actor anhygoel ei hun, wrthi’n gwagio diferion o garton llefrith i’w baned cyn i Cai ac Efa ei fachu o’i ddwylo a’i roi yn y set!

Mae pypedau hefyd yn serennu yn y fideo fel cymeriadau’r pentref a fi fuodd yn creu’r rhain. Mi roeddwn i’n eu hadeiladu mewn ystafell wely ac roeddwn i mewn cyfnod go hegar o wrando ar Tom Waits ar y pryd. Roedd ’na gân oddi ar yr albym Mule Variations ac roeddwn i wrth fy modd gyda’r enw ‘What’s He Building?’ ac mae’r geiriau yn gofyn ‘what’s he building in there?’- mae hi’n gân abstract iawn.

Dw i’n licio meddwl fod pobol yn gofyn union yr un peth pan oedden nhw’n clywed sŵn papur yn rhwygo, selotep yn lapio ac ambell reg yn dod o du hwnt i ddrws caeedig yr ystafell wely! ‘Be gythraul mae o’n ei adeiladu mewn yn fan’na?!’

Dafydd Owain

Pawlie: Pwy oedd wedi cyfarwyddo’r fideo, a lle cafodd ei ffilmio?

Dafydd: Dafydd Huws o Cowbois Rhos Botwnnog fuodd yn ffilmio a chyfarwyddo. Mae Daf yn un o fy ffrindiau pennaf a dw i wrth fy modd gyda’i waith ffilmio. Mae ganddo swyddfa fechan mewn lle o’r enw ‘Shed’ yn Y Felinheli, sy’n ofod creadigol ac yn lle da i ffilmio syniadau gwirion fel hyn! Fanno wnaethon ni ffilmio’r fideo. Mae Daf hefyd yn un sydd yn ddigon hapus i ddelio efo’n cysyniadau lletchwith – dw i’n hynod lwcus yn yr ystyr yma!

Pawlie: Faint o amser wnaethoch chi dreulio yn ffilmio?

Twtsh gormod taswn i’n bod yn onest! Roeddem ni wedi bwriadu gorffen ffilmio o fewn diwrnod, ond mi aeth hi’n ddau ddiwrnod prysur iawn erbyn y diwedd. Mi wnaeth adeiladu’r set ei hun gymryd dipyn mwy o amser.

Pawlie: Oes unrhyw straeon diddorol wedi codi o’r broses ffilmio?

Dw i’n un am newid meddwl a chynlluniau yn gyflym pan dw i’n creu rhywbeth – sy’n boen i bobol eraill, a finnau mewn gwirionedd. Oeddan ni yn ceisio ffilmio rhyw ddarn i bennill olaf y gân lle mae sôn am fod mewn capel. Roedd model bychan o gapel wedi ei wneud ond doeddwn i ddim yn siŵr iawn o’r syniad wrth i ni ei ffilmio.

Roeddwn i wedi penderfynu mod i eisiau capel lot mwy – un lle’r oeddwn i’n gallu eistedd ynddi, a doedd na ddim byd yn mynd i’n stopio i rhag cael hynny! Wnes i dreulio tua tri-chwarter diwrnod yn trio hel bocsys mawr o amgylch siopau mawr Bangor ond roedden nhw i gyd wedi cael eu hailgylchu’r wythnos cynt. Felly roedd rhaid prynu bocsys.

Wnes i wedyn dreulio tua hanner diwrnod yn adeiladu’r capel mawr a sicrhau fod digon o le i mi eistedd yno. Felly mewn ffordd, fe gymerodd hi ddiwrnod da i gynhyrchu be’ oedd, mewn gwirionedd, yn ddwy shot! Ella nad oedd gen i Hollywood budget, ond mi oedd gen i Hollywood mentality!

Pawlie: Ar ddiwedd y fideo, mae’r camera yn tynnu allan i ddangos yr holl set ffilmio. Faint o amser gymerodd i baratoi ar gyfer hynny?

Dafydd: O ran y shot benodol honno, dim amser o gwbl. Roedd y set wedi ei rhoi mewn lle beth bynnag a dim ond mater o osod traciau ar gyfer y camera oedd hi. Roeddwn i yn cwestiynu eitha’ dipyn os oeddwn i eisiau ‘datgelu’ y set a bod yn onest. Roedd gen i ofn ‘torri’r byd’ mewn ffordd ond dw i’n hoff iawn o’r shot yma erbyn hyn – yn enwedig pan mae Cai, sy’n dal y cymylau a’r gwylanod, yn edrych ar y camera fel petai’n gwirio fod popeth yn ‘edrych yn dda’. Ma’n ‘torri’r byd’ yn berffaith ac yn rhoi rhyw ymdeimlad o ’fydd bob dim yn iawn!’, sydd yn rhan fawr o neges y gân!

Pawlie: Mae moment hyfryd yn y fideo gyda chymeriad bach ynymddangos ym mhoced eich crys. Ydy hynny’n unrhyw un arbennig?

Dafydd: Dim o reidrwydd. Ma’r foment yma yn y fideo yn rhyw fath o fi, fel artist, yn dangos cariad tuag at gymeriadau’r pentref sy’n mynd trwy gyfnodau anodd – ond hefyd yn rhyw fath o gysur i mi fel artist.

Pawlie: Unrhyw beth arall hoffech chi rannu efo ni?

Dafydd: Mewn rhyw fath o eironi hynod, wedi inni ffilmio’r fideo, aeth y set i gyd mewn un haid i’r ganolfan ailgylchu leol.

Diolch am ateb cwestiynau Lingo360, Dafydd!