Mae technoleg newydd yn cael ei defnyddio i helpu plant sy’n dysgu Cymraeg yng Ngwynedd.
Mae’r cwmni Animated Technologies wedi datblygu adnodd realiti rhithwir (VR), a gafodd ei lansio yn ddiweddar.
Drwy’r adnodd, gall plant symud o amgylch tref ddychmygol Aberwla ac ymarfer eu sgiliau iaith gyda 30 o bobol eraill ac avatars.
Mae Cyngor Gwynedd yn gobeithio y bydd y dechnoleg yn gwneud dysgu iaith yn hwyl.
Yn ôl Anna Burke o gwmni Animated Technologies ar Ynys Môn, mae’r ymateb wedi bod yn “ffantastig”.
“Rydym yn teimlo’n gyffrous iawn o weld y prosiect yma’n dod yn fyw, ac yn gobeithio y bydd disgyblion sy’n cymryd rhan yn rhaglen drochi iaith 10-wythnos Gwynedd yn mwynhau dysgu gyda’r dechnoleg yma,” meddai Anna Burke.
“Rydym yn ymwybodol bod defnyddio VR i ddysgu yn effeithiol, gydag astudiaethau yn dangos bod dysgwyr yn cofio hyd at 75% yn fwy o wybodaeth gyda thechnoleg fel hyn o’i gymharu â’r ystafell ddosbarth arferol.”
‘Apelio at ddysgwyr’
Yr awdur Anni Llŷn sydd wedi creu’r dref ddychmygol, a’r bwriad ydy bod y profiadau rhithwir yn cryfhau addysg yr ystafell ddosbarth.
“Y gobaith yw y bydd Aberwla yn apelio i’n dysgwyr ac yn eu helpu nhw i ymarfer patrymau iaith trwy chwarae ac ymarfer eu sgiliau mewn gwahanol sefyllfaoedd,” meddai’r Cynghorydd Beca Brown, sydd â chyfrifoldeb dros addysg ar Gyngor Gwynedd.
“Mae’n bwysig ein bod ni’n rhoi’r pob cyfle i blant a phobl ifanc sy’n newydd i Wynedd i ddysgu’r Gymraeg fel eu bod nhw’n gallu cymryd rhan mewn gweithgareddau gyda’u ffrindiau newydd yn yr ysgol ac yn eu cymunedau.
“Bydd y prosiect yma yn gwneud hynny yn ogystal â chyfrannu at darged Llywodraeth Cymru i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.”