Mae Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, wedi bod yn siarad ym Maes D ar Faes yr Eisteddfod yn Nhregaron am ei berthynas â’r iaith Gymraeg.

Cafodd ei holi gan Gwenllian Grigg, gohebydd BBC Cymru.

Cafodd ei eni a’i fagu yn Sir Gaerfyrddin, ac roedd ei deulu’n siarad Cymraeg, ond nid gyda fe na‘i frawd.

“Clywais i Gymraeg bob dydd,” meddai.

“Roedd fy mam yn siarad Cymraeg gyda’r teulu, dim ond Cymraeg, ond doedd neb yn siarad Cymraeg gyda fi – profiad eithaf anarferol, ond normal ar yr adeg yna yn y 60au, jyst cyn bod agweddau‘n newid.

“So roeddwn i’n clywed Cymraeg bob dydd.

Ambell waith, mae pobol yn gofyn i fi, ‘Dych chi wedi dysgu Cymraeg?’ Wel, ar un ochr, dw i wedi achos doeddwn i ddim yn siarad Cymraeg pan oeddwn i’n tyfu lan. Ond patrymau‘r iaith, y ffordd dyn ni’n defnyddio’r iaith, mae hwnna’n dod yn eitha’ naturiol i fi achos ro’n i wedi clywed pobol yn siarad Cymraeg.

“Roeddwn i’n deall beth roedd fy mam yn dweud ac roeddwn i’n deall beth oedd y sgwrs, ac yn y blaen, ond pan oedd pobol yn troi ataf fi a fy mrawd, dim ond Saesneg roedden nhw’n siarad.”

Yn yr ysgol

Aeth Mark Drakeford i Ysgol Ramadeg y Bechgyn yng Nghaerfyrddin.

Ond doedd e ddim wedi dysgu llawer o Gymraeg yn yr ysgol.

“Roedd hanner y bobol yn yr ysgol yn dod o gefndir Cymraeg, o ysgolion Cymraeg, teuluoedd lle taw dim ond Cymraeg oedden nhw’n siarad, a’r hanner arall o deuluoedd lle taw Saesneg oedd yr iaith.

“Roedd yr ysgol yn defnyddio Cymraeg a Saesneg drwy’r wythnos, gweddio yn y bore gyda’n gilydd ar ddydd Llun, dydd Mawrth a dydd Mercher, ond yn Gymraeg ar ddydd Mawrth a dydd Iau hefyd.

“Dw i’n gallu canu emynau yn Gymraeg, dim problem, achos roeddwn i’n gwneud e bob wythnos.

“Ond roedd agweddau sylfaenol yn od dros ben.

“Dw i’n gallu cofio yn 11 oed, roeddwn i mewn dosbarth lle roedd hanner yn siarad Cymraeg a Saesneg yn hollol rugl

Ailafael yn yr iaith

Yr unig ffordd o wella eich iaith yw ei siarad, meddai Mark Drakeford, sy’n siarad Cymraeg weithiau yn y Senedd.

“Dw i’n lwcus, achos yn y gwaith dw i’n gwneud, mae’r Senedd yn hollol ddwyieithog.

“Mae pobol yn siarad Cymraeg a Saesneg bob dydd, ac os dych chi eisiau ymarfer eich iaith, dych chi’n gallu gwneud e.

“Mae pobol yn fy swyddfa i sy’n siarad Cymraeg, a dw i’n trial siarad Cymraeg achos yr unig ffordd i siarad yn well yw trwy ei defnyddio ac ymarfer.

“Beth mae’n rhaid i fi ddysgu yw geiriau, achos pethau teuluol, does dim problem, pethau ar y fferm achos roedd mam-gu a tad-cu yn ffermwyr.

“Doedd dim problem gyda fi gyda’r gair am ‘gwair‘ a phethau fel yna, ond os dych chi’n gwneud cyfweliad am ‘mental health review tribunal’…. wel, dyw hwnna ddim cweit yn fy mhen i yn Gymraeg!

“Os dw i’n mynd i wneud rhywbeth am bwnc arbennig lle dyw’r pwnc ddim yn gyfarwydd, beth mae’n rhaid i fi wneud ydy dysgu geirfa.”