Mae Llwybr Arfordir Cymru yn dathlu 10 mlynedd eleni. Yn 2016 penderfynodd Rhys Russell o Ramblers Cymru gerdded rhan o’r llwybr er mwyn codi arian ar gyfer Nyrsys Macmillan. Yma mae’n rhannu ei brofiadau gyda lingo newydd…

Dych chi wedi cerdded rhywfaint o Lwybr Arfordir Cymru? Oes gynnoch chi atgofion da o gerdded ar hyd y llwybr? Mae cerdded ar hyd Llwybr yr Arfordir yn ffordd dda i fwynhau byd natur a chwrdd â phobol leol ar hyd y ffordd. Dyna beth mae Rhys Russell yn ddweud. Cerddodd Rhys ran o’r llwybr pan oedd yn 18 oed. Dyma ei stori.

Roeddwn i’n ddigon ffodus i gael fy magu yn ne Cymru gyda llwybr arfordir prydferth Bro Morgannwg ar garreg y drws. Yn 2012, daeth yn rhan o’r llwybr di-dor cyntaf erioed yn y byd i gwmpasu arfordir ei wlad. Eleni yw degfed pen-blwydd Llwybr Arfordir Cymru. Mae’r llwybr yn 870 milltir o hyd.

Roeddwn i eisiau gwybod mwy am Lwybr yr Arfordir. Felly, yn 2016, pan oeddwn i’n 18 oed, gwnes i a ffrind benderfynu gweld beth sydd gan y llwybr i’w gynnig. Gwnaethon ni benderfynu cerdded cymaint o Lwybr Arfordir Cymru ag oedden ni’n gallu cyn mynd yn ôl i’r brifysgol. Daeth y daith i ben ar ôl saith wythnos a 600 milltir o gerdded. Gwnaethon ni godi £1,400 i elusen Nyrsys Macmillan ar hyd y ffordd. Dyma ddau o fy hoff ddyddiau o’r daith gerdded:

Ynys Môn – Amlwch i Gemaes

Roeddwn i wedi brifo fy mhigwrn bum diwrnod ar ôl dechrau’r daith gerdded. Roedd yn dal i achosi problemau ar ddiwrnod 16 wrth i ni bacio’r babell i ddechrau’r daith 12 milltir o Amlwch i Gemaes. Y diwrnod cynt roedden ni wedi ceisio cysgodi rhag y gwynt a’r glaw oedd yn ein curo o bob ochr. Yn ffodus, roedd y tywydd wedi gwella dros nos. Wrth gerdded ar hyd y clogwyni fe wnaethon ni weld golygfeydd anhygoel ar draws Môr Iwerddon. Roedden ni wedi dod i arfer gweld dolffiniaid a morloi tra roedden ni’n cerdded yn Ynys Môn.

Ar ôl 9 awr o gerdded fe wnaethon ni gyrraedd porthladd Cemaes o’r diwedd.  Roedden ni wedi bod yn cerdded drwy Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig fel bryngaer Dinas Gynfor cyn cyrraedd pen y daith.

Gwnaethon ni gwrdd â Chymro cyfeillgar oedd yn gofyn cwestiynau am ein taith. Cafodd e ei synnu ar ôl clywed beth roedden ni’n ei wneud. Cynigiodd e beint i ni yn y dafarn leol, The Stag Inn. Dyma’r dafarn fwyaf gogleddol yng Nghymru. Yn anffodus, roedd rhaid i ni ddweud na er mwyn mynd yn ôl i roi’r babell i fyny’n gyflym. Roedden ni eisiau mynd yn ôl i’r dafarn wedyn gan fod tîm pêl-droed Cymru yn chwarae yng ngêm gyn-derfynol yr Ewros yn erbyn Portiwgal – a doedden ni ddim eisiau ei cholli!

Wrth i ni godi’r babell, daeth dynes a’i chi aton ni. Enw’r ddynes oedd Janice. Roedd Janice yn garedig iawn. Tra roedden ni yn Ynys Môn, roedd hi’n aml yn rhoi lifft i ni os oedd angen. Roedd hi hefyd yn rhoi hamperi bwyd i ni bob ychydig ddyddiau. Mae hi wedi dod yn ffrind da iawn.

Dinbych-y-pysgod i Dalacharn

Roedd hi bron yn amser i ni fynd yn ôl i’r Brifysgol. Ar y diwrnod olaf, fe wnaethon ni gerdded 14 milltir o Ddinbych-y-pysgod i Dalacharn. Tasai rhywun wedi ein gweld ni, basen nhw wedi meddwl mai dyma oedd diwrnod cyntaf y daith. Roedden ni’n llawn egni, yn carlamu ar hyd y llwybr yn chwerthin. Gwnaethon ni anghofio am y bagiau yn pwyso 1.6 stôn roedden ni’n eu cario ar ein cefnau.

Fe wnaethon ni gerdded yn gyflym yn yr heulwen, a siarad am rai o’n hoff ddyddiau, a’r dyddiau caletaf. Gwnaethon ni gofio’r bobol oedd wedi gwneud y daith hon yn bosibl. Pobol fel Katharine Evans a Christopher Goddard -awduron llyfr The Wales Coast Path – A Practical Guide for Walkers. Roedd y llyfr wedi sicrhau ein bod yn cadw’n ddiogel ac ar y trywydd iawn trwy gydol y daith.

Daeth y daith i ben gyda gig yn y Tin Shed Experience yn Nhalacharn er mwyn codi arian. Roedd pump band Cymraeg lleol wedi perfformio yn y gig gan godi £250. Daeth un peth yn amlwg yn ystod y daith – mae pobol Cymru yn hael iawn!