Mae Ryan Giggs wedi ymddiswyddo o’i swydd fel rheolwr tîm pêl-droed Cymru.

Mae ei achos llys wedi cael ei ohirio, ar ôl iddo gael ei gyhuddo o ymosod ar ei gyn-gariad ac roedd yn rhaid iddo gamu o’r neilltu dros dro.

Bydd Cymru’n chwarae yng Nghwpan y Byd eleni am y tro cyntaf ers 1958.

Mae Rob Page wedi bod yn rheoli Cymru yn absenoldeb Ryan Giggs.

Mae Giggs yn gwadu’r cyhuddiadau yn ei erbyn, a bydd yn mynd gerbron llys ym mis Awst.

Cafodd cytundeb Rob Page ei ymestyn ar ôl i Gymru gyrraedd Cwpan y Byd, ac fe fydd e wrth y llyw ar gyfer y twrnament ddiwedd y flwyddyn.

Bydd Cymru yng Ngrŵp B gyda Lloegr, yr Unol Daleithiau ac Iran, gyda’u gêm gyntaf yn erbyn yr Americanwyr ar Dachwedd 21.

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi dweud “diolch” wrth Ryan Giggs, a’u bod nhw’n “gwerthfawrogi” ei benderfyniad “er lles pêl-droed Cymru”.