Cafodd rali ei chynnal o flaen y Senedd ym Mae Caerdydd nos Lun (Chwefror 28) i gefnogi pobol yr Wcráin.

Siaradodd Svitlana Phillips o Lais Wcrain Cymru, arweinydd Plaid Cymru Adam Price, a Chwnsler Cyffredinol Cymru Mick Antoniw, yn y rali.

Mae trafodaethau heddwch yn digwydd rhwng cynrychiolwyr o’r Wcráin a Rwsia ar hyn o bryd, ond dydy gobeithion Volodymyr Zelenskyy, Arlywydd yr Wcráin, ddim yn uchel dros ben.

Ar bumed diwrnod y rhyfel, galwodd Aelodau Seneddol ac Aelodau o’r Senedd ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i wneud mwy i helpu ffoaduriaid o’r Wcráin.

“Yr wythnos diwethaf ro’n i yn Kyiv, lle clywais i storïau ofnadwy’r bobl sydd wedi bod yn byw o dan gyfundrefn ffasgaidd Putin,” meddai Adam Price.

“Drwy ddod i’r Senedd, ’dyn ni yng Nghymru yn dangos ein bod yn sefyll gyda phobol yr Wcráin – ac yn erbyn rhyfel Putin.

“’Dyn ni’n galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i osod embargo economaidd llwyr ar lywodraeth Putin, a rhoi statws preswylio ar gyfer fisa a llwybr cyflym i bob person o’r Wcráin sy eisiau dod yma.

‘Anfoesol’

Mae Stephen Kinnock, Aelod Seneddol Llafur Aberafan, yn galw am agor y cynllun fisas i “lawer mwy o bobol o’r Wcráin” hefyd.

“Mae hyn yn anfoesol,” meddai ar Twitter.

“Rhaid i Lywodraeth y Deyrnas Unedig roi fisa syml a sydyn ar frys i bob un o’r Wcráin sydd ei angen.”

Yn ôl y Cenhedloedd Unedig, mae dros hanner miliwn o ffoaduriaid wedi gadael yr Wcráin erbyn hyn.

Mae grŵp o 37 Aelod Seneddol Ceidwadol yn San Steffan, gan gynnwys Stephen Crabb, yr aelod dros Breseli Penfro, wedi ysgrifennu at Boris Johnson yn galw arno i roi mwy o gefnogaeth i ffoaduriaid hefyd.

‘Ymosodiad ar ddemocratiaeth’

Dywedodd Mick Antoniw, a aeth i’r Wcráin gydag Adam Price a phobl eraill yr wythnos diwethaf, fod rhaid cael “boicot economaidd, gwleidyddol, a diwylliannol llwyr o Rwsia”, a chefnogi’r ffoaduriaid.

“Mae’r rhyfel yn yr Wcráin wedi dod yn rhyfel y bobol yn erbyn Rwsia ac am ryddid,” meddai Mick Antoniw.

“Rhaid i ni i gyd brotestio yn erbyn ymosodiad Rwsia ar ddemocratiaeth.

“Diolch i bobl Cymru am eu cefnogaeth hyd yn hyn, ond mae llawer mwy i’w wneud dros y dyddiau tywyll nesaf sydd o’n blaenau. Fe fydd yr Wcráin yn rhydd!”

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi dweud na fyddan nhw’n chwarae gemau rhyngwladol yn erbyn Rwsia ar unrhyw lefel o’r gêm am y tro, a dros y penwythnos, cafodd ralïau eu cynnal dros Gymru o Gaernarfon i Gaerdydd, o Aberystwyth i Abertawe, i sefyll â’r Wcráin.

‘Sefyll gyda’n gilydd’

Roedd Svitlana Phillips wedi gofyn i bobol beidio â gwylio’r newyddion neithiwr, ond i fynd i’r rali yng Nghaerdydd.

“Rhaid i Putin weld ein bod ni i gyd yn tynnu at ein gilydd ledled y byd yn ei erbyn.

“Yn y dyddiau diwethaf, dw i wedi derbyn galwadau oddi wrth deulu sy’n dweud bod tanciau ar y ffin yn symud i mewn – mae ofn enfawr ar bobl.

“Mae pobol yn yr Wcráin yn ddiolchgar am yr holl gefnogaeth gan y Deyrnas Unedig.

“Os safwn ni gyda’n gilydd, gallwn ni stopio digwyddiadau erchyll a allai ddigwydd..”

 

Geirfa

Cwnsler Cyffredinol Counsel General

trafodaethau heddwch peace talks

cynrychiolwyr representatives

ffoaduriaid refugees

cyfundrefn ffasgaidd fascist regime

statws preswylio residential status

anfoesol immoral

Cenhedloedd Unedig United Nations

rhyddid freedom

ymosodiad attack

ar y ffin on the border

erchyll horrific