Mae cyd-sylfaenydd Say Something In Welsh yn dweud taw “pobol fel Joanna Scanlan ydi dyfodol yr iaith” Gymraeg.

Roedd Aran Jones a’r actores yn siarad â Lingo360 yng ngwobrau BAFTA Cymru yn Neuadd Dewi Sant yng Nghaerdydd nos Sul (Hydref 9).

“Mae’n rhaid gwerthfawrogi‘r lefel yna o ymroddiad ganddi,” meddai Aran Jones.

“Dw i’n gobeithio’i gweld hi’n actio mewn pethau eraill yn y dyfodol.

“Pan dw i’n gweld dysgwraig yn ymrwymo fel mae Joanna wedi gwneud, dw i jyst yn meddwl, ‘Dyna ydi dyfodol yr iaith’.

“Y math yna o angerdd, dyna fydd yn creu dyfodol i’r Gymraeg.”

Mae’n dweud bod y celfyddydau‘n “allweddol” i ddyfodol y Gymraeg hefyd, ond mae’n “rhaid i ni gael y cyfuniad yn iawn” mewn rhaglenni dwyieithog.

“Rhaid i ni hyrwyddo gwaith Cymraeg cynhenid, iaith gyntaf. Ond rhaid i ni fel cenedl, fel grŵp ieithyddol, groesawu pobol sydd yn gwneud ymdrech i ddysgu.

“Os na fedrwn ni wneud hynny, wedyn mae’n edrych yn ddu iawn arnon ni.

“Dw i’n methu meddwl am unrhyw beth sydd yn fwy o her na dysgu iaith yn gyhoeddus.

“Felly dw i’n meddwl bod pobol fel Joanna wirioneddol yn arwain y ffordd.”

‘Y Golau’ ac ‘Iaith Ar Daith’

Cafodd Joanna Scanlan ei geni yn Lloegr, ond mae ei theulu’n dod o ogledd Cymru.

Mae hi wedi bod yn actio yn Y Golau ar S4C ar ôl dysgu Cymraeg yn y rhaglen Iaith Ar Daith.

Mae hi’n dweud bod dysgu Cymraeg “yn wirioneddol hyfryd ond yn araf”.

“Ces i fy magu yn clywed yr iaith o fy nghwmpas,” meddai.

“Pan dych chi wedi bod o’i chwmpas hi yn blentyn, mae rhywbeth sydd yn eich ymlacio chi’n fawr, ac mae hi fel dod adref wrth siarad neu ddysgu’r geiriau.

“Roedd rhaid i fi ei thorri hi i lawr ar y dechrau i’w deall hi, ac wedyn roedd rhaid i fi ei drilio hi.

“Yn y bloc cyntaf, ro’n i bob amser yn mynd tu hwnt i fod yn gyfforddus, ac yn yr ail bloc ro’n i’n teimlo, ‘Mae hwn tu fewn i fi nawr, does dim rhaid mynd i banic bob tro maen nhw’n dweud ‘Action‘.

“Fel arfer, dw i’n ymlacio wrth ffilmio ond gyda hwn, ro’n i’n meddwl, ‘Mae’r criw i gyd yn mynd i glywed y llanast dw i’n gwneud, mae’n mynd i fod yn embaras’.”

Camgymeriadau

Aran Jones a Joanna Scanlan
Aran Jones (chwith) a Joanna Scanlan

Mae Joanna Scanlan yn dweud ei bod hi’n iawn gwneud camgymeriadau wrth ddysgu iaith.

“Un peth roedd yn rhaid i fi ei oresgyn oedd y teimlad wrth ddysgu, eich bod chi’n gwneud camgymeriadau.

“Pan dych chi’n cyrraedd fy oedran i – dw i’n hen iawn, iawn! – dych chi ddim yn gwneud cymaint o gamgymeriadau achos dych chi wedi dileu popeth yn eich bywyd dych chi ddim yn dda am wneud, a dim ond yn gwneud y pethau dych chi’n iawn yn eu gwneud.

“Felly roedd yn rhaid i fi ddysgu ei bod hi’n iawn i deimlo cywilydd wrth wneud llanast, a sylweddoli ei bod hi’n rhan o’r broses o ddysgu, taw trwy fethu dro ar ôl tro rydych chi’n dysgu siarad iaith.”

Mae hi’n dweud bod ei meddwl “yn llawer mwy siarp nag yr oedd e, achos wnes i dreulio cymaint o amser yn dysgu Cymraeg”, a bod ei theulu’n “gefnogol iawn”.

“Does neb yn mynd i ddweud wrtha i fy mod i’n wael iawn, iawn – nid yn fy wyneb, beth bynnag!

“Maen nhw wedi dweud pethau hapus a charedig – ydyn nhw jyst yn fy annog i? Dw i ddim yn gwybod.

“Ond hoffwn i weithio mwy yn y Gymraeg achos mae hi’n gymuned hyfryd.”