Mae Jen Bailey yn dod o Awstralia yn wreiddiol, ond nawr mae hi’n byw yn yr Iseldiroedd.

Mae hi’n dweud bod darllen nofelau Saesneg am Gymru wedi ei hysbrydoli i ddysgu Cymraeg.

Roedd hi wedi darllen The Grey King gan Susan Cooper, nofel ffantasi i blant sydd wedi’i lleoli yng Nghymru.

Roedd hyn wedi sbarduno ei diddordeb yn y Gymraeg.

Roedd hi wedi aros yn ysbyty plant Perth am wythnos pan oedd hi’n ddeg oed, ac roedd ei mam wedi darllen y nofel iddi, a phob nofel arall yn y gyfres.

Roedd hi wedi mwynhau The Dark is Rising, teitl y gyfres pum llyfr, ond cafodd ei swyno gan The Grey King, y pedwerydd llyfr yn y gyfres, oedd â chysylltiadau Cymreig.

Mae hi nawr yn bwriadu ymweld â Chymru, yn ogystal â sefyll arholiad Dysgu Cymraeg lefel Canolradd.

‘Uniaethu â bywyd cefn gwlad’

‘‘Ces i fy magu ar fferm yn Wheatbelt, Gorllewin Awstralia, felly ro’n i’n gallu uniaethu â bywyd cefn gwlad y nofel,” meddai.

“Cefais i bleser wrth ddarllen am rai o’r lleoedd fel Cader Idris a Chraig yr Aderyn yng Ngwynedd.

“Dw i’n bwriadu dod i Gymru fis Mehefin i ymweld â’r llefydd hyn, a dw i’n edrych ymlaen yn fawr at hynny.

‘‘Dw i’n gwybod am bobol eraill sydd wedi dysgu Cymraeg ar ôl darllen The Grey King.

“Mi wnes i rannu holiadur ar Facebook, ac roedd pobol o America, Sweden, Awstralia a’r Almaen wedi ateb, a dweud eu bod nhw wedi cael blas ar ddysgu’r iaith diolch i’r nofel.

“Mae ffrindiau gyda fi hefyd sydd wedi eu hysbrydoli i ddysgu’r Gymraeg ar ôl darllen llyfrau fel The Chronicles of Prydain gan Lloyd AlexanderThe Snow Spider gan Jenny Nimmo, Brother Cadfael gan Ellis Peters, Constable Evans gan Rhys Bowen yn ogystal â llyfrau J. R. R. Tolkien.

‘‘Dw i’n siarad wyth iaith ond dw i wedi syrthio mewn cariad gyda’r Gymraeg.

“Dw i wrth fy modd gyda’r iaith a’i hanes, ac mae’n amlwg bod pobol eraill o’r un farn â fi.

“Mae hi’n braf siarad gyda dysgwyr o bedwar ban byd sydd wedi cael eu hysbrydoli i ddysgu Cymraeg, ar ôl darllen nofelau gyda chysylltiadau Cymreig.’’