Dyma newyddion yr wythnos…

  • Eisteddfod yr Urdd 2023 yn Llanymddyfri
  • MBE Gareth Bale wedi gadael “blas cas yn y ceg”
  • Ciarán Eynon yw Prifardd Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych
  • Tynnu model o’r Frenhines ‘ar yr orsedd’ i lawr

 


Eisteddfod yr Urdd 2023 yn Llanymddyfri

Bydd Eisteddfod yr Urdd 2023 yn mynd i Lanymddyfri.

Dydy’r Eisteddfod ddim wedi bod i Sir Gaerfyrddin ers 2007.

Bydd yn cael ei chynnal rhwng Mai 31 a Mehefin 4 y flwyddyn nesaf.

Dyma’r wythfed tro i’r ŵyl gael ei chynnal yn Sir Gaerfyrddin.

Mae Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn denu tua 90,000 o ymwelwyr bob blwyddyn.

Mae dros 15,000 o blant a phobol ifanc dan 25 oed yn cystadlu yn ystod wythnos yr Eisteddfod.

“Rydym yn falch iawn o fod wedi cael ein dewis i gynnal y digwyddiad hwn unwaith eto yn Sir Gaerfyrddin,” meddai Linda Evans, dirprwy arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin.

“Bydd y digwyddiad o fudd mawr i’r economi leol ac ar yr un pryd bydd yn rhoi cyfle i bawb yn Sir Gaerfyrddin brofi gwir ddiwylliant Cymru p’un a yw’r ymwelydd yn siarad yr iaith ai peidio.”


MBE Gareth Bale wedi gadael “blas cas yn y ceg”

Mae MBE Gareth Bale wedi gadael “blas cas yn y ceg”, meddai un o golofnwyr cylchgrawn golwg.

Ddylai pobol ddim mynd dros ben llestri, meddai Jason Morgan, sy’n dweud taw “ffans gwleidyddol“, nid “ffans pêl-droed” sy’n cwyno.

Mae capten tîm pêl-droed Cymru wedi derbyn MBE ar ôl ennill Cynghrair y Pencampwyr am y pumed tro gyda Real Madrid.

Ar ddydd Sul (Mehefin 5), bydd Cymru’n chwarae yn erbyn Wcráin i ennill lle yng Nghwpan y Byd yn Qatar.

“Ydi, mae o ychydig bach yn siomedig ond dyna pwy ydi, o a does yna ddim pwynt i ni dwyllo ein hunain bod o fel arall.”

“Baswn i’n gobeithio y bydd pobol dal yn gefnogol ohono fo a ddim yn gorymateb gormod i’r peth.”


Ciarán Eynon

Ciarán Eynon yw Prifardd Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych

Ciarán Eynon sydd wedi ennill Cadair Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych 2022.

Mae’n dod o Landrillo-yn-rhos, Sir Conwy, yn wreiddiol ac yn byw yn Llundain.

Yn ail yn y gystadleuaeth roedd Gruff Gwyn o Fachen ger Caerffili, ac yn drydydd roedd Tegwen Bruce-Deans o Landrindod, Maesyfed.

Ar ôl gorffen ei Lefel A yn Ysgol y Creuddyn, Bae Penrhyn aeth Ciarán Eynon i astudio Mathemateg ym Mhrifysgol Warwick ac yna MA Cymraeg ac Astudiaethau Celtaidd ym Mhrifysgol Caerdydd.

Mae’n wyneb cyfarwydd ar y llwyfan hefyd, ac wedi dod i’r brig yng nghystadlaethau llefaru Unigol Eisteddfod Genedlaethol Môn 2017 ac Eisteddfod AmGen 2021.

Roedd yn olygydd cyntaf ‘Ffosfforws’ yn 2021 – cyfnodolyn barddoniaeth newydd sy’n cael ei gyhoeddi gan gylchgrawn Y Stamp.

Mae Ciarán Eynon yn derbyn cadair hardd wedi ei chreu gan y saer Rhodri Owen.


Tynnu model o’r Frenhines ‘ar yr orsedd’ i lawr

Mae model o’r Frenhines a’i chorgi ‘ar yr orsedd‘ wedi cael ei dynnu i lawr.

Roedd y model ar ymyl yr heol yn Llanon yng Ngheredigion.

Ond dywedodd Cyngor Sir Ceredigion ei fod e’n “amhriodol“.

Roedd y model yn portreadu’r Frenhines yn eistedd ar y toiled gyda baner fawr yn dweud ’70 mlynedd ar yr orsedd’, ochr yn ochr â chorgi a milwr yn dal ffoil arian fel papur toiled.

Ond dydy swyddogion y Cyngor ddim wedi gweld yr ochr ddoniol.

“Bydd yr arddangosfa yn cael ei thynnu i lawr,” meddai’r Cyngor.