Dyma’r newyddion wythnos yma gan Bethan Lloyd, golygydd Lingo Newydd…

Mae Janet Street-Porter wedi beirniadu Cymru, y Gymraeg a Cariad@iaith.

Mae Plaid Cymru’n dweud bod datganoli darlledu i Gymru “gam yn nes”.

Mae Phil Bennett, un o gewri rygbi Cymru a’r Llewod, wedi marw’n 73 oed.

Cyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd 2023


Janet Street-Porter yn beirniadu Cymru, y Gymraeg a Cariad@iaith

Janet-Street-Porter

Mae Janet Street-Porter wedi beirniadu Cymru, y Gymraeg a siaradwyr Cymraeg yn ei cholofn yn y Daily Mail.

Mae hi wedi bod yn siarad am y syniad o ail-frandio Cymru. Mae penaethiaid twristiaeth eisiau gwneud Cymru yn fwy atyniadol i dwristiaid.

Maen nhw’n dweud bod gan Gymru “broblemau gyda’i delwedd”.

Pan mae pobol yn meddwl am Gymru, maen nhw’n meddwl am ddefaid, tywydd gwlyb a rygbi, medden nhw.

Ond mae Janet yn dweud bod y syniad o ail-frandio Cymru yn “ddigrif” a bod y wlad  yn “ddiflas”. Mae hi hefyd yn dweud bod yr iaith yn “annealladwy”.

Roedd Janet Street-Porter wedi cymryd rhan yn y gyfres Cariad@iaith ar S4C yn 2004. Yn y gyfres mae pobl enwog yn dysgu Cymraeg ar gwrs dwys yn Nant Gwrtheyrn.

Mae Janet yn dweud ei bod hi wedi cael ei gorfodi i gymryd rhan mewn gwersi Cymraeg drwy’r amser pan oedd hi’n cymryd rhan yn y gyfres.

Roedd ei mam wedi cael ei geni yng Nghymru. Roedd Janet wedi treulio’r gwyliau haf yn aros gyda’i Nain yn y gogledd pan oedd hi’n blentyn.

Mae hi’n dweud bod Cymru’n “wlyb” ac yn “llwm” a bod dim croeso mewn tafarndai a gwestai.


Plaid Cymru’n dweud bod datganoli darlledu i Gymru “gam yn nes” 

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi aelodau panel arbenigol i baratoi’r ffordd ar gyfer datganoli pwerau darlledu a chyfathrebu

Mae datganoli darlledu “gam yn nes”, meddai Plaid Cymru.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dewis panel o arbenigwyr i edrych ar hyn.

Bydd y panel yn edrych ar opsiynau i drio cryfhau’r cyfryngau yng Nghymru a symud y penderfyniadau o Lundain.

Mae’r panel yn rhan o’r Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru.

Heledd Fychan ydy llefarydd Plaid Cymru dros y Celfyddydau a Diwylliant.

Mae hi’n dweud bod Plaid Cymru wedi ymgyrchu ers amser hir am ddatganoli darlledu i Gymru.

“Mae’r panel arbenigol hwn yn gam pwysig oddi wrth ganoli popeth yn Llundain.

“Mae gennym ni ein timau chwaraeon ein hunain, ein senedd ein hunain, ein hiaith ein hunain – mae hi’n gwneud synnwyr bod gennym ni blatfform ein hunain ar gyfer hyn.”


Phil Bennett

Phil Bennett, un o gewri rygbi Cymru a’r Llewod, wedi marw’n 73 oed

Mae’r chwaraewr rygbi, Phil Bennett, wedi marw’n 73 oed.

Roedd yn un o gewri rygbi Llanelli a Chymru.

Roedd yn dod o Felinfoel wrth ymyl Llanelli.

Roedd yn un o’r chwaraewyr yn ystod oes aur rygbi Cymru.

Roedd e wedi helpu Cymru i ennill dwy Gamp Lawn ym Mhencampwriaeth y Pum Gwlad yn y 1970au.

Roedd e hefyd ar daith hanesyddol y Llewod i Dde Affrica ym 1974.

Roedd e wedi gwneud 20 ymddangosiad i’r Barbariaid yn ystod ei yrfa hefyd.

Yn 1979, cafodd OBE ac roedd yn sylwebydd gyda BBC Cymru ar ôl ymddeol o rygbi.

Roedd e hefyd yn llywydd rhanbarth y Scarlets.

Bydd gwasanaeth coffa i Phil Bennett ym Mharc y Scarlets yn Llanelli ddydd Gwener (Mehefin 24).


Cerrig yr Orsedd
Cerrig yr Orsedd, Porthmadog

Cyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd 2023

Bydd seremoni fawr yn nhref Porthmadog ar Fehefin 25 i ddathlu bod Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd yn dod i’r ardal yn 2023.

Bydd gorymdaith drwy dref Porthmadog cyn seremoni draddodiadol yr Orsedd.

Mae llawer o weithgareddau wedi’u trefnu, gan gynnwys sgyrsiau am yr Eisteddfod i ddysgwyr Cymraeg.

Bydd gweithgareddau i blant a phobol ifanc yn y Parc yng nghanol Porthmadog, a ffilm gan ysgolion lleol fydd yn cael ei dangos ar sgrin fawr yn y Parc yn ystod y dydd.

Mae llawer o bobl leol wedi bod yn paratoi’r ŵyl sy’n rhoi blas o’r Eisteddfod i bobl yr ardal.

Bydd Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd ym Moduan ger Pwllheli o Awst 5-12 y flwyddyn nesaf.

Bydd Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion wrth ymyl Tregaron o Orffennaf 30 i Awst 6 eleni.