Dyma’r newyddion wythnos yma gan Bethan Lloyd, golygydd Lingo Newydd…

  • Mae ‘Yma o Hyd’ wedi cyrraedd Rhif 1 yn siartiau iTunes
  • Cwyno am symud cerrig yr orsedd plastig i Borthmadog
  • Mae ffigurau gwrando Radio Cymru ar eu huchaf “ers dros 12 mlynedd”

‘Yma o Hyd’ yn cyrraedd rhif 1 yn siartiau iTunes

Mae’r gân ‘Yma o Hyd’ wedi cyrraedd Rhif 1 yn siartiau iTunes.

Roedd tîm pêl-droed Cymru wedi ei chanu gyda Dafydd Iwan yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar ôl cael lle yng Nghwpan y Byd am y tro cyntaf ers 1958.

Mae cefnogwyr Cymru wedi mabwysiadu’r gân fel eu hail anthem. Roedd Dafydd Iwan wedi perfformio’r gân cyn y gêm yn erbyn Wcráin ddydd Sul (Mehefin 5).

Roedd ‘Yma o Hyd’ wedi bod yn cystadlu gyda ‘Running Up That Hill’ gan Kate Bush i gyrraedd rhif 1.

Mae’r gân hefyd wedi cael ei ffrydio dros filiwn o weithiau ar Spotify.

Dywedodd Dafydd Iwan fod canu gyda thîm Cymru ar ôl y gêm yn erbyn Wcráin yn “brofiad anhygoel”.

Mae’n dweud fod tîm pêl-droed Cymru wedi darganfod hunaniaeth Gymreig.

“Mae mor braf clywed Gareth Bale yn dweud, “Mae’n deimlad mor wych i wneud hyn dros ein cenedl”.

“Ac mae’n wych eu bod nhw wedi dod i adnabod Cymru, yr iaith, y diwylliant a’r hanes.”


Cwyno am symud cerrig yr orsedd plastig i Borthmadog

Cerrig yr Orsedd
Cerrig yr Orsedd, Porthmadog

Mae Cynghorydd Tref ym Mhorthmadog yn dweud ei fod yn anhapus gyda’r Eisteddfod Genedlaethol am ei bod eisiau symud cerrig yr orsedd plastig i’r dref.

Mae’r Eisteddfod eisiau cyhoeddi bod Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd 2023 yn dod i’r ardal ar ddydd Sul, 26 Mehefin. Maen nhw eisiau rhoi’r cerrig plastig yn y parc wrth ymyl yr harbwr ym Mhorthmadog

Ond mae yna gerrig yr orsedd ym Mhorthmadog yn barod. Maen nhw wedi bod yno ers Eisteddfod Genedlaethol 1987.

Mae Alwyn Gruffydd yn dweud “does dim angen” y rhai plastig ym Mhorthmadog.

Mae o’n dweud bod yna lefydd eraill sydd heb gerrig yr orsedd fyddai’n well i’w rhoi nhw.

Mae hefyd yn anhapus bod neb wedi trafod gyda’r Cyngor Tref cyn hynny.

Mae Alwyn Gruffydd yn dweud bod dim angen gwario pres ar symud y cerrig plastig i Borthmadog pan mae pobl leol yn trio codi arian tuag at yr Eisteddfod.

“Does yna ddim rheswm am y peth.”

Mae’r Eisteddfod yn dweud eu bod nhw wedi ysgrifennu at Gyngor Tref Porthmadog ym mis Ebrill. Maen nhw’n dweud eu bod nhw wedi dweud pam eu bod nhw am ddefnyddio’r cerrig symudol yn y seremoni.

Fe fydd budd economaidd i’r dref, meddai’r Eisteddfod.


Ffigurau gwrando Radio Cymru ar eu huchaf “ers dros 12 mlynedd” 

weiarlesMae ffigurau gwrando Radio Cymru “ar eu huchaf” ers dros 12 mlynedd.

Rhuanedd Richards ydy Cyfarwyddwr BBC Cymru. Mae hi’n dweud bod y ffigurau yma yn “anhygoel”.

Mae hi’n dweud ei bod yn bwysig bod Radio Cymru yn apelio at lawer iawn o bobl. Dyna’r her, meddai Rhuanedd Richards.

“Mae ffigurau gwrando Radio Cymru ar eu huchaf ers dros 12 mlynedd. Mae hynny’n anhygoel.

“Ond mae’n bwysig ein bod ni’n cael ein gweld yn ymestyn allan dros Gymru gyfan.”

Yn rhan gyntaf 2022 roedd Radio Cymru yn cyrraedd 155,000 o bobl bob wythnos.