Dyma newyddion yr wythnos…
- Eisteddfod yr Urdd 2023 yn Llanymddyfri
- MBE Gareth Bale wedi gadael “blas cas yn y ceg”
- Ciarán Eynon yw Prifardd Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych
- Tynnu model o’r Frenhines ‘ar yr orsedd’ i lawr
Eisteddfod yr Urdd 2023 yn Llanymddyfri
Bydd Eisteddfod yr Urdd 2023 yn mynd i Lanymddyfri.
Dydy’r Eisteddfod ddim wedi bod i Sir Gaerfyrddin ers 2007.
Bydd yn cael ei chynnal rhwng Mai 31 a Mehefin 4 y flwyddyn nesaf.
Dyma’r wythfed tro i’r ŵyl gael ei chynnal yn Sir Gaerfyrddin.
Mae Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn denu tua 90,000 o ymwelwyr bob blwyddyn.
Mae dros 15,000 o blant a phobol ifanc dan 25 oed yn cystadlu yn ystod wythnos yr Eisteddfod.
“Rydym yn falch iawn o fod wedi cael ein dewis i gynnal y digwyddiad hwn unwaith eto yn Sir Gaerfyrddin,” meddai Linda Evans, dirprwy arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin.
“Bydd y digwyddiad o fudd mawr i’r economi leol ac ar yr un pryd bydd yn rhoi cyfle i bawb yn Sir Gaerfyrddin brofi gwir ddiwylliant Cymru p’un a yw’r ymwelydd yn siarad yr iaith ai peidio.”
MBE Gareth Bale wedi gadael “blas cas yn y ceg”
Mae MBE Gareth Bale wedi gadael “blas cas yn y ceg”, meddai un o golofnwyr cylchgrawn golwg.
Ddylai pobol ddim mynd dros ben llestri, meddai Jason Morgan, sy’n dweud taw “ffans gwleidyddol“, nid “ffans pêl-droed” sy’n cwyno.
Mae capten tîm pêl-droed Cymru wedi derbyn MBE ar ôl ennill Cynghrair y Pencampwyr am y pumed tro gyda Real Madrid.
Ar ddydd Sul (Mehefin 5), bydd Cymru’n chwarae yn erbyn Wcráin i ennill lle yng Nghwpan y Byd yn Qatar.
“Ydi, mae o ychydig bach yn siomedig ond dyna pwy ydi, o a does yna ddim pwynt i ni dwyllo ein hunain bod o fel arall.”
“Baswn i’n gobeithio y bydd pobol dal yn gefnogol ohono fo a ddim yn gorymateb gormod i’r peth.”
Ciarán Eynon yw Prifardd Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych
Ciarán Eynon sydd wedi ennill Cadair Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych 2022.
Mae’n dod o Landrillo-yn-rhos, Sir Conwy, yn wreiddiol ac yn byw yn Llundain.
Yn ail yn y gystadleuaeth roedd Gruff Gwyn o Fachen ger Caerffili, ac yn drydydd roedd Tegwen Bruce-Deans o Landrindod, Maesyfed.
Ar ôl gorffen ei Lefel A yn Ysgol y Creuddyn, Bae Penrhyn aeth Ciarán Eynon i astudio Mathemateg ym Mhrifysgol Warwick ac yna MA Cymraeg ac Astudiaethau Celtaidd ym Mhrifysgol Caerdydd.
Mae’n wyneb cyfarwydd ar y llwyfan hefyd, ac wedi dod i’r brig yng nghystadlaethau llefaru Unigol Eisteddfod Genedlaethol Môn 2017 ac Eisteddfod AmGen 2021.
Roedd yn olygydd cyntaf ‘Ffosfforws’ yn 2021 – cyfnodolyn barddoniaeth newydd sy’n cael ei gyhoeddi gan gylchgrawn Y Stamp.
Mae Ciarán Eynon yn derbyn cadair hardd wedi ei chreu gan y saer Rhodri Owen.
Tynnu model o’r Frenhines ‘ar yr orsedd’ i lawr
Mae model o’r Frenhines a’i chorgi ‘ar yr orsedd‘ wedi cael ei dynnu i lawr.
Roedd y model ar ymyl yr heol yn Llanon yng Ngheredigion.
Ond dywedodd Cyngor Sir Ceredigion ei fod e’n “amhriodol“.
Roedd y model yn portreadu’r Frenhines yn eistedd ar y toiled gyda baner fawr yn dweud ’70 mlynedd ar yr orsedd’, ochr yn ochr â chorgi a milwr yn dal ffoil arian fel papur toiled.
Ond dydy swyddogion y Cyngor ddim wedi gweld yr ochr ddoniol.
“Bydd yr arddangosfa yn cael ei thynnu i lawr,” meddai’r Cyngor.