Dyma’r newyddion wythnos yma gan Bethan Lloyd, golygydd Lingo Newydd…

Cyngor Gwynedd yn trafod codi’r dreth ar ail dai

Cyfrol i ddathlu pen-blwydd Cymdeithas yr Iaith yn 60 oed

Ffrae ar ôl i ohebydd dan hyfforddiant y Telegraph ysgrifennu erthygl am arwyddion ffordd


Mae Cabinet Cyngor Gwynedd wedi bod yn trafod ail dai a thai gwag. Maen nhw wedi bod yn trafod cael ymgynghoriad am y premiwm treth cyngor ail dai a thai gwag.

Bydd gan awdurdodau lleolyn gallu codi hyd at 300% o dreth cyngor ar ail dai a thai gwag o fis Ebrill y flwyddyn nesaf.

Ond cyn iddyn nhw allu gwneud hynny bydd rhaid cael ymgynghoriad cyhoeddus a chymeradwyaeth y Cyngor Llawn erbyn mis Ionawr 2023.

Mae Cymdeithas yr Iaith yn dweud eu bod nhw’n disgwyl i’r cyngor gytuno i gael ymgynghoriad. Maen nhw hefyd yn disgwyl i gynghorau sir ar draws Cymru ymgynghori ar y premiwm tai.

Mae Jeff Smith o Cymdeithas yr Iaith, yn dweud eu bod nhw yn galw ar gynghorau ar draws Cymru i ddefnyddio pob mesur sydd ganddyn nhw i daclo problemau ail dai.

Mae’n disgwyl i berchnogion ail dai wrthwynebu talu mwy o dreth ond mae’n gobeithio y bydd y cynghorau yn “rhoi sicrwydd i’n cymunedau.”

“Fydd codi premiwm ar ail dai wrth ei hun ddim yn datrys problemau tai, ond mae’n amlwg yn gyfraniad pwysig – nid dim ond trwy leihau nifer yr ail dai ond trwy greu incwm ychwanegol all gael ei ddefnyddio ar gyfer gwasanaethau lleol.

“Mae angen Deddf Eiddo er mwyn mynd i’r afael â phroblemau tai sy’n effeithio cymunedau ar draws Cymru.

“Byddwn ni’n parhau i bwyso ar y Llywodraeth i gyflwyno Deddf Eiddo gyflawn yn ystod tymor y Senedd bresennol.”

Mae Cyngor Gwynedd eisiau i bawb sydd â diddordeb i ymateb i’r ymgynghoriad os yw’n cael ei gytuno.

Dywedodd  Llywodraeth Cymru eu bod nhw eisiau datblygu twristiaeth er lles Cymru, “sy’n golygu gweithio’n agos gyda chymunedau, ymwelwyr a busnesau er mwyn sicrhau twf cynaliadwy ar gyfer twristiaeth”.


Cyfrol i ddathlu pen-blwydd Cymdeithas yr Iaith yn 60 oed

Mae Cymdeithas yr Iaith ddathlu 60 mlynedd ers ei sefydlu eleni. Mae cyfrol wedi cael ei chyhoeddi i ddathlu hyn.

Enw’r gyfrol ydy “Rhaid i bopeth newid: Cyfrol i ddathlu 60 mlwyddiant Cymdeithas yr Iaith”. Mae’n edrych yn ôl ar ymgyrchoeddy gorffennol a beth mae Cymdeithas yr Iaith eisiau gwneud yn y dyfodol.

Y golygydd yw Dafydd Morgan Lewis. Roedd e wedi gweithio am dros 25 mlynedd fel swyddog gyda Cymdeithas yr Iaith.  Mae aelodau fel Dafydd Iwan, Steve Eaves, Angharad Tomos, Joseff Gnagbo a Mabli Siriol Jones wedi cyfrannu i’r llyfr.

Mae lluniau gan Marian Delyth yn edrych yn ôl dros 60 mlynedd yn y gyfrol hefyd.

Cafodd yr ymgyrchwyr eu gwahodd i gyfrannu tuag at y gyfrol, meddai Dafydd Morgan Lewis.

“Mae pob un yn perthyn i wahanol gyfnodau yn hanes y Gymdeithas a hynny o’r 1960au hyd heddiw,” meddai.

“Mae pob un hefyd wedi chwarae rhan bwysig yn hanes y Gymdeithas, rhai am gyfnodau ac eraill am lawer o flynyddoedd.”

Bydd y gyfrol yn cael ei lansio yng nghyfarfod cyffredinol Cymdeithas yr Iaith ddydd Sadwrn, Hydref 8 yn Amgueddfa Ceredigion yn Aberystwyth am 5:30yh.

Mae Rhaid i bopeth newid: Cyfrol i ddathlu 60 mlwyddiant Cymdeithas yr Iaith, £9.99, Y Lolfa, ar gael nawr yn eich siopau llyfrau lleol.


Arwydd 'Slow/Araf'

Ffrae ar ôl i ohebydd dan hyfforddiant y Telegraph ysgrifennu erthygl am arwyddion ffordd

Mae gohebydd dan hyfforddiant gyda’r Telegraph wedi achosi ffrae yng Nghymru. Roedd Timothy Sigsworth wedi ysgrifennu erthygl sy’n honni bod arwyddion ffordd dwyieithog yn peryglu bywydau.

Toedd Timothy Sigsworth wedi cael ei hyfforddi gan The Sun.  Wedyn wnaeth e ddechrau gyda’r Telegraph ddydd Llun (Medi 28). Roedd pennawd ei erthygl gyntaf yn dweud: ‘Welsh names to be added to road signs despite warning of risk to lives’.

Mae’r erthygl yn dilyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i wrthod arwyddion uniaith Saesneg. Roedd hyn ar ôl i Gyngor Sir Fynwy benderfynu bod arwyddion dwyieithog yn arafu amserau ymateb ambiwlansys a drysu parafeddygon uniaith Saesneg.

Roedd Timothy Sigsworth wedi dweud bod Comisiynydd yr Iaith Gymraeg wedi rhoi ffrae i’r Cyngor am anwybyddu’r rheolau sy’n dweud bod rhaid cael arwyddion dwyieithog. Mae llai nag 20% o bobl y sir yn siarad Cymraeg, meddai’r gohebydd.

“Bydd yn lleihau’r siawns o ddryswch ynghylch enwau ffyrdd, yn enwedig lle mae gwahaniaeth mawr yn y fersiynau Cymraeg a Saesneg,” meddai’r Cyngor.

Maen nhw’n dweud bydd hyn yn helpu grwpiau fel y rhai sydd ag anableddau dysgu, dementia a nam ar eu golwg.

Ac mae Timothy Sigsworth yn dweud bod y gwahaniaeth rhwng Monmouth a Threfynwy, Chepstow a Chas-gwent, ac Abergavenny a’r Fenni “yn dangos y potensial am ddryswch”.

Ond er hynny, mae’n dweud fod nifer y siaradwyr Cymraeg yn Sir Fynwy wedi mwy na dyblu dros y degawd diwethaf, o 8,780 yn 2011 i 17,900.

Yn ôl Timothy Sigsworth mae Llywodraeth Cymru yn cynnig cyrsiau dysgu ieithoedd ar-lein am ddim ar gyfer y gwasanaethau brys.

Mae’n egluro bod y gwasanaethau brys yn ymateb i alwadau 999 gan ddefnyddio’r National Land and Property Gazetteer.

Defnyddio enwau sydd ddim yn y Gazetteer fyddai’n achosi’r dryswch, yn ôl Cyngor Sir Fynwy, meddai.

Ond mae wedyn yn dweud mai cyngor y Comisiynydd Iaith yw defnyddio canllaw enwau lleoedd o 1967 ochr yn ochr â’r Gazetteer.