• Caffi wrth ymyl yr Wyddfa yn cau dros y penwythnos oherwydd problemau parcio
  • Dim digon o gopïau o’r Cyfansoddiadau’n “rhwystredig” i siopau llyfrau
  • Beirniadu cyflwynydd am siarad iaith te reo Māori ar y teledu

Caffi wrth ymyl yr Wyddfa yn cau dros y penwythnos oherwydd problemau parcio

Mae caffi wrth ymyl yr Wyddfa wedi penderfynu cau dros y penwythnos hwn oherwydd problemau parcio.

Mae Cyngor Gwynedd wedi rhoi conau ar y ffordd er mwyn atal pobol rhag parcio yn Nant Gwynant ger Beddgelert, ond mae’r sefyllfa wedi gwaethygu, meddai Paula Williams, perchennog Caffi Gwynant.

Dydy’r caffi ddim yn teimlo eu bod nhw’n gallu denu cwsmeriaid os dydyn nhw ddim yn gallu parcio.

Cafodd y conau eu gosod ddydd Gwener diwethaf (Awst 19), a chafodd Caffi Gwynant benwythnos “sâl iawn”, gyda gostyngiad o 67% mewn incwm ddydd Sadwrn a gostyngiad o 78% ddydd Sul.

Mae’r sefyllfa’n un “rhwystredig”, meddai Paula Williams, sy’n dweud nad oes ateb hawdd i’r sefyllfa.

“Ers ar ôl lockdown, mae’r sefyllfa traffig yn Nant Gwynant wedi bod yn ofnadwy,” meddai Paula Williams, sy’n rhedeg Caffi Gwynant ers 14 mlynedd.

“Os ydy pobol yn bwcio bwrdd, troi fyny am eu bwyd, a methu â chael rhywle i barcio, yn y dyfodol fyddan nhw’n meddwl ddwywaith cyn bwcio efo ni eto.

“Ar ôl penwythnos diwethaf, fedrwn ni ddim fforddio agor a pheidio bod yn brysur – mae gennym ni staff llawn amser i’w talu. Fedrwn ni ddim fforddio taflu bwyd i ffwrdd.”


Dim digon o gopïau o’r Cyfansoddiadau’n “rhwystredig” i siopau llyfrau

Mae perchennog siop lyfrau wedi dweud wrth golwg360 fod prinder Cyfansoddiadau’r Eisteddfod Genedlaethol eleni yn “rhwystredig iawn”.

Yn ôl Eirian James, sy’n berchen ar Palas Print yng Nghaernarfon, mae ganddi 26 o gwsmeriaid “sy’n chwilio am gopi” ond mae hi’n gorfod dweud wrthyn nhw nad ydi hi’n “gwybod os cawn ni ragor”.

Ond mae Betsan Moses, Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol, wedi dweud wrth golwg360 mai’r un nifer ag arfer o Gyfansoddiadau sydd wedi cael eu cyhoeddi eleni, gan ychwanegu bod yr Eisteddfod yn fodlon “gwirio o ran oes angen ystyried ail argraffiad”.

Mae Cyfansoddiadau a Beirniadaethau yr Eisteddfod Genedlaethol yn cynnwys gweithiau buddugol cystadlaethau megis barddoniaeth, rhyddiaith, dramâu, dysgwyr, cerddoriaeth a gwyddoniaeth.

Yn ôl Betsan Moses, Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol, maen nhw’n “aros am adroddiad” o ran y stoc er mwyn “gwirio oes angen ail argraffiad”.

“Wrth gwrs, byddai’n rhaid i ni ystyried pris gwneud hynny oherwydd canran yr ydyn ni’n ei gael wrth i ni ddosbarthu.”


Beirniadu cyflwynydd am siarad iaith te reo Māori ar y teledu

Mae darlledwr cenedlaethol Seland Newydd dan y lach am fwletin tywydd oedd wedi rhoi lle blaenllaw i’r iaith te reo Māori.

Mae’r bwletin gan Te Rauhiringa Brown, oedd yn ddwyieithog, wedi hollti barn gwylwyr.

Mae nifer yn ei chanmol am siarad yr iaith, ond mae pobol eraill yn teimlo ei bod hi’n “anghyfrifol” a “gwarthus” fod y darlledwr yn darparu ar gyfer lleiafrif bach o siaradwyr.

Yn ôl gwyliwr arall, roedden nhw “wedi cael llond bol” ar yr iaith yn cael ei “gwthio” arnyn nhw, tra bod un arall yn teimlo bod hybu’r iaith achosi “atgasedd“.

Roedd eraill yn annog y darlledwr i “ddefnyddio enwau Saesneg ar lefydd”.

Ond wrth ymateb, mae’r darlledwr yn dweud eu bod nhw’n “falch” fod y cyflwynydd wedi tynnu sylw at yr iaith, ond eu bod nhw’n “croesawu adborth gwylwyr”.